Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynnig Gofal Plant CNPT

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant 3-4 oed, hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

Mae’r cynnig ar gael i blant o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed, pryd byddan nhw’n cael cynnig lle amser llawn mewn addysg.

Mae plant yn gallu cael mynediad at y cynnig y dydd Llun ar ôl i'r cais gael ei gymeradwyo.

Ganwyd rhwng Ymgeisiwch Dyddiad cychwyn cynharaf posibl ar y Cynnig Gofal Plant Dyddiad Gorffen ar y Cynnig Gofal Plant
8 Ebrill 2021 - 31 Awst 2021 Nawr 4 Medi 2024   31 Awst 2025  
1 Medi 2021 - 5 Ionawr 2022 23 Hydref 2024  6 Ionawr 2025   31  Awst 2026 
6 Ionawr 2022 - 27 Ebrill 2022 12 Chwefror 2025 28 Ebrill 2025 31 Awst 2026 

Cysylltu â ni

Ffoniwch Dîm Cynnig Gofal Plant Castell-nedd Port Talbot ar 03000 628 628 neu e-bostiwch childcareoffer@npt.gov.uk

Peidiwch ag anghofio gwneud cais am le meithrin.