Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth cwnsela i bobl Ifanc

Beth yw cwnsela?

Weithiau gall bywyd fod yn anodd, a gall pobl sy'n tyfu i fyny fod dan bwysau. Gall cael rhywun y gallwch siarad ag e fod yn help – efallai ffrind, athro, eich rhieni, neu berthynas. Ar adegau, mae pawb yn teimlo'n bryderus neu'n cael problemau a allai fod yn anodd siarad amdanynt gyda'r bobl sy'n agos atoch chi. Efallai y byddwch yn poeni a fyddant yn deall, p'un a allwch ymddiried ynddynt, p'un a fyddant yn eich beio, neu'n anwybyddu eich teimladau. Dyna pryd y gallech feddwl am siarad â chwnselydd yr ysgol.

Sut mae cwnsela'n helpu?

Mae cwnsela'n darparu amser rheolaidd a lle diogel i chi siarad â chynghorydd am y problemau rhydych yn eu hwynebu ac archwilio teimladau y gallech chi fod yn cael trafferth â nhw. Gall cwnsela eich helpu i siarad am eich meddyliau a'ch teimladau gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddynt. Ni fydd y cwnselydd yn dweud wrthych beth i'w wneud, nac yn eich barnu, ond bydd yn eich helpu i weithio allan beth sy'n iawn i chi yn eich sefyllfa.

Sut mae cwnsela'n gweithio?

Efallai mai gweld cwnselydd yw eich syniad chi, efallai y bydd eich rhieni neu athro yn ei awgrymu. Does dim rhaid i chi benderfynu ar unwaith. Gallwch gwrdd â'r cwnselydd yn gyntaf, i ofyn cwestiynau a chael gwybod mwy. Mae cwnsela'n wirfoddol – eich dewis chi ydyw, ac mae beth bynnag rhydych chi'n ei benderfynu yn iawn. Mae'n debygol y cewch gynnig apwyntiadau ar gyfer sesiynau rheolaidd am sawl wythnos mewn ystafell yn yr ysgol lle na fyddwch yn cael eich tarfu. Gallwch ddod i gwnsela heb i'ch rhieni gael gwybod, a gallwch drafod hyn gyda'r cwnselydd.

Pa fath o bethau y gallaf ddweud wrth y cwnselydd amdanynt?

Beth bynnag sydd ar eich meddwl, problemau, penderfyniadau, pryderon a newidiadau. Gallai fod yn llawer o bethau gwahanol:

  • gwneud ffrindiau a pherthnasoedd
  • rhieni'n gwahanu
  • colli eich tymer
  • mynd i drafferthion gartref, yn yr ysgol neu gyda'r heddlu
  • pryfocio a bwlio
  • colli rhywun sy'n agos atoch chi
  • teimladau cymysg
  • pryderon iechyd
  • arholiadau a gwaith cwrs.

Gall yr holl bethau hyn effeithio ar sut rydych chi'n teimlo a sut rydych chi'n ymddwyn. Mae siarad â chi am eich pryderon a'ch problemau yn ddechrau eich helpu i'w datrys.

Sut mae cwnselwyr yn wahanol?

  • Nid ydym yn beio nac yn eich barnu.
  • Nid ydym yn dweud wrthych beth i'w wneud.
  • Rydym yno i chi - beth bynnag yw'r broblem.
  • Rydym yn dda am wrando'n ofalus.
  • Gallwn eich gweld yn ystod amser ysgol.
  • Rydym yn eich helpu i ddatrys pethau mewn ffordd sy'n addas i chi.
  • Rydym yn deall sut mae eich ysgol yn gweithio a gallwn gael mwy o help a gwybodaeth i chi os bydd ei angen arnoch.
  • Gallwn rhoi’r amser a'r lle sydd eu hangen arnoch chi.
  • Rydym wedi cael digon o hyfforddiant ac ymarfer i'n helpu i wneud ein gwaith yn dda.

A wnaiff y Cynghorydd ddweud wrth unrhyw un am yr hyn a ddywedaf?

Nid ydym fel arfer yn dweud wrth bobl eraill am yr hyn yr ydych wedi sôn amdano yn y sesiynau cwnsela. Ond os ydym yn credu y gallech chi neu rhywun arall fod mewn perygl, efallai y bydd angen cael help gan eraill i'ch cadw'n ddiogel. Byddwn yn siarad â chi am hyn a gyda'n gilydd byddwn yn ceisio dod o hyd i'r peth gorau i'w wneud i chi.

Beth mae myfyrwyr eraill wedi'i ddweud am gwnsela?

  • "Roedd yn dda siarad â rhywun nad oeddwn eisoes yn ei adnabod."
  • “Mae wedi helpu llawer ... trafod fy mhroblemau yn lle eu cloi i ffwrdd.”
  • “Rwy'n hoffi'r person rwy'n awr yn fwy na'r un roeddwn i'n arfer bod."

Sut ydw i'n cael gwybod mwy i ofyn am gael gweld y Cynghorydd?

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech weld cwnselydd gallwch ofyn i unrhyw aelod o staff gael mynediad i'r ffurflen Gwneud Cais am Apwyntiad.