Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Dathlu Agoriad Swyddogol Maes Chwarae Comin Cimla ar ôl ei Adnewyddu

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi agor yn swyddogol ei faes chwarae diweddaraf i gael ei adnewyddu ar Gomin Cimla, yn dilyn cais o’r galon gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Crynallt. Mae’r maes chwarae’n nodi gwelliant sylweddol mewn cyfleusterau chwarae i deuluoedd a phlant yn yr ardal leol.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Dathlu Agoriad Swyddogol Maes Chwarae Comin Cimla ar ôl ei Adnewyddu

Gan ymateb i gri’r plant am welliannau i’w maes chwarae lleol, ymgysylltodd swyddogion y cyngor â disgyblion yn yr ysgol, gan eu cynnwys yn y broses ddylunio, law yn llaw â’r contractiwr, hyd yn oed. Y canlyniad yw maes chwarae sydd nid yn unig ddwywaith y maint, ond sydd nawr yn cynnig sawl darn o offer sy’n addas i’r plant lleiaf, plant ifanc, a phlant ag anableddau.
Ar ôl cyfanswm o fuddsoddiad sy’n werth £132,991, ymysg rhai o uchafbwyntiau’r adnewyddiad i’r maes chwarae mae:
•    Uned aml-chwarae 'Mission Target', sy’n cynnwys troellwr, tri llwyfan, trapîs a llithren ganllaw, sy’n darparu gweithgareddau deniadol i blant o bob gallu
•    Troellwr Araf, Llithren Arglawdd 2.4m, cerfluniau rwber Hanner Pêl, a neidr 3D
•    Offer cynhwysol fel chwyrligwgan a osodwyd yn gyfwyneb â’r llawr a thrampolîn daear ar gyfer therapi adlamu, sy’n addas i blant ag anableddau.
•    Siglen nyth basged ychwanegol, a gynlluniwyd i gefnogi pobl â phroblemau cynnal rhan isaf eu cefn.
•    Arwyneb Diogel sy’n Amsugno Argraff gyda haenau drosti o friwsion rwber, gan sicrhau amgylchedd diogel a glân i bob plentyn chwarae ynddo.
•    Lliwiau gwrthgyferbyniol yn yr arwyneb diogel, gan roi cymorth i unigolion â nam ar eu golwg i adnabod gwahaniaethau mewn lefel.
Yn ôl y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet dros Strydlun: “Mae ein hardaloedd chwarae a llecynnau agored yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn gan breswylwyr ledled Castell-nedd Port Talbot, gan ddarparu hwyl rhad ac am ddim yn yr awyr agored i deuluoedd.
“Rydyn i’n falch o fod wedi gweithio law yn llaw â disgyblion Ysgol Gynradd Crynallt i gyflawni’u gweledigaeth ar gyfer maes chwarae y gallan nhw ei fwynhau.
“Y maes chwarae hwn yw’r diweddaraf i gael ei adnewyddu fel rhan o’r Rhaglen Waith Ychwanegol sy’n werth £4.2m, ac sydd â’r nod o wella pethau fel lladd gwair, tacluso meysydd chwarae, llecynnau glas, arosfannau bysiau a llwybrau.”
Ymysg meysydd chwarae a gwblhawyd eisoes mae Mount Pleasant yng Nghastell-nedd, Gerddi Fictoria ynghanol tref Castell-nedd, Parc Coffa Talbot yn Nhai-bach, Tollborth ym Margam a Chae Iago yn Llansawel.  
 

hannwch hyn ar: