Datganiad I'r Wasg
Maer yn agor yn swyddogol gyfleusterau newydd yn yr elusen gymunedol Bulldogs BCA
Mae Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Chris Williams, wedi agor yn swyddogol estyniad newydd yn yr elusen a leolir yn Rhosydd Baglan, Bulldogs Boxing and Community Activities.
Mae Bulldogs BCA yn bartneriaeth rhwng yr elusen gofrestredig Bulldogs Boxing & Community Activities a Chlwb Bocsio Amatur Port Talbot. Mae’r elusen yn paratoi gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y gymuned tra bo’r Clwb Bocsio’n darparu’r chwaraeon.
Mae'r estyniad newydd, y talwyd amdano gan gymysgedd o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ffynonellau ariannu eraill, yn golygu bod Bulldogs bellach yn gaffi newydd, ystafelloedd therapi a phrif swyddfa.
Dywedodd Prif Weithredwr y Bulldogs Ceri Stilwell fod y sefydliad wedi cael ei ffurfio i roi cyfle teg mewn bywyd i bobl Port Talbot a’r ardaloedd cyfagos drwy gefnogi gwneud dewisiadau bywyd cadarnhaol.
Dywedodd hi adeg agor yr estyniad: “Rydyn ni wedi dod ymhell o fan cychwyn ein helusen yn 2014 a hoffem ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi galluogi i’r cyfleusterau hyn fod yn bosib.”
Mae gan Bulldogs gyswllt cryf â chymuned lluoedd arfog Prydain ar ôl derbyn cefnogaeth Sefydliad y Cyn-filwyr ac Ymddiriedolaeth Cronfa Gyfamod y Lluoedd Arfog.
Mae hefyd yn cynnig aelodaeth am ddim i’r gampfa i unrhyw un a wasanaethodd yn Lluoedd Arfog Prydain fel rhan o’i ymrwymiad i gymuned y cyn-filwyr, ac mae hefyd yn cynnal sesiwn picio i mewn wythnosol ar gyfer y Lluoedd Arfog.
Yn ogystal, mae Bulldogs yn gweithio gydag ysgolion Castell-nedd Port Talbot a gyda throseddwyr ifanc.
Yn ystod agoriad yr estyniad, llofnododd Mrs Stilwell a Chomodor yr Awyrlu Robert Woods Gyfamod Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig i ailddatgan eu hymrwymiad i’r Cyfamod (mae’r Cyfamod yn addewid a gefnogir gan y Llywodraeth sy’n cydnabod y dylai pawb sy’n gwasanaethu, neu a wasanaethodd yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, beidio â bod dan anfantais, ond y dylent gael eu trin â thegwch a pharch).
Dywedodd Hyrwyddwr Lluoedd arfog Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Wyndham Griffiths: “Mae’n braf gweld fod Bulldogs yn elusen ar ei phrifiant. Mae’n gwneud gwaith ardderchog dros gyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, a hefyd er budd y gymuned leol yn gyffredinol.”