Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Arsylwadau'r Swyddogion Canlyniadau

Fel Swyddog Canlyniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, rwyf wedi nodi y bydd y Cyngor yn cynnal adolygiad o Ardaloedd Pleidleisio, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio.

O ran yr Ardaloedd Pleidleisio presennol, nid oes gennyf unrhyw sylw i'w wneud, ac rwy'n fodlon gadael yr agwedd hon ar yr adolygiad i'r Cyngor.

Roedd nifer o Orsafoedd Pleidleisio angen eu harchwilio gyda'r bwriad o wella mynediad neu chwilio am leoliadau amgen. Byddwn yn gofyn i'r Cyngor ystyried yr argymhellion canlynol sydd fel a ganlyn:-

Ardal Bleidleisio Gorsaf Bleidleisio Gyfredol Gorsaf Bleidleisio Arfaethedig
AF1 - Sgiwen Canol Dwyreiniol Neuadd Gymunedol Byddin yr Iachawdwriaeth Canolfan Gymunedol Carnegie
AI2 - Cynonville a Duffrynville Lletya Gwesti Afan a Bwyty Llyfyrgell Gymunedol Cymer Afan
AM1-AM2 - Port Talbot (Parc) a Port Talbot (Canol) Ysgol Gynradd Canol - Safle Iau Plaza, Port Talbot
NE4 - Waunceirch No.2 Neuadd Gymunedol Waunceirch Canolfan Gymunedol Owain Glyndwr
NH3 - Onllwyn No.2 Lolfa Neuadd Les Glowyr Onllwyn Canolfan Gymunedol Pantyffordd
NI3 - Ystalyfera (Cwmtwrch) Festri Capel Beulah Y Canolfan Gymunedol, Ystalyfera

Karen Jones
Swyddog Cofrestru Etholiadol a Swyddog Canlyniadau

Swyddfa’r Prif Weithredwr
Y Ganolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ

2 Hydref, 2023