Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Castell-nedd a Dwyrain Abertawe

Etholiad Senedd y DU Ar gyfer etholaeth Castell-nedd a Dwyrain Abertawe

  1. Bydd etholiad yn cael ei chynnal ar gyfer Aelod Seneddol i wasanaethu Castell-nedd a Dwyrain Abertawe.
  2. Gellir cael papurau enwebu o swyddfa'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), yn y cyfeiriad a ddangosir isod ac yn ystod yr amserau a nodir.
  3. Mae'n rhaid i'r papurau enwebu gael eu danfon i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn y cyfeiriad a ddangosir isod ar unrhyw ddiwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm (ac eithrio gŵyl y banc) ond heb fod yn hwyrach na 4pm ar Dydd Gwener 7 Mehefin 2024.
  4. Gellir talu’r ernes o £500 drwy dendr cyfreithiol, ddrafft banc o dynnwr sy’n cynnal busnes fel banc yn y Deyrnas Unedig neu drosglwyddiad banc uniongyrchol (yn amodol ar gymeradwyaeth ymlaen llaw).
  5. Os oes brwydr ar gyfer yr etholiad bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar Dydd Iau 4 Gorffennaf 2024.
  6. Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn canol nos ar Dydd Mawrth 18 Mehefin 2024.
  7. Mae'n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy’s post, a diwygiadau neu ganslo pleidleisiau post neu trefniadau i bleidleisio drwy’r ddirprwy gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn y cyfeiriad a ddangosir isod erbyn 5pm Dydd Mercher 19 Mehefin 2024.
  8. Rhaid i geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfen Etholwr Dienw sy'n ddilys ar gyfer yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar Dydd Mercher 26 Mehefin 2024. Gellir gwneud ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar-lein trwy gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr.
  9. Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn y cyfeiriad a ddangosir isod erbyn 5pm ar Dydd Mercher 26 Mehefin 2024.
  10. Ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy argyfwng yn yr etholiad hwn gorfod gyrraedd yr Swyddog Cofrestru Etholiadol yn y cyfeiriad a ddangosir isod erbyn Dydd Iau 4 Gorffennaf 2024

K Jones
Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)

Civic Centre
Port Talbot
SA13 1PJ

31 Mai 2024

Argraffwyd a chyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), Gwasanaethau Etholiadol Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ