Yn ôl yn 2021, fe gynhalion ni ymgyrch ‘Dewch i Sgwrsio’ i’n helpu i ddeall sut roedd y pandemig wedi effeithio ar wahanol rannau o’n bwrdeistref sirol, a beth oedd yn cyfrif fwyaf i bobl leol bryd hynny ac i’r dyfodol.
Bu i bron 1,800 ohonoch chi ymgysylltu â ni yn ystod yr ymgyrch honno.
Fe wnaeth cael cipolwg ar eich barn a’ch safbwyntiau yn gynnar iawn yn ein proses gynllunio ein helpu i ddatblygu ein Cynllun Corfforaethol, ‘Adfer, Ailosod, Adnewyddu’, a gyhoeddwyd gennym yn 2022, ac fe’n galluogodd i ailffurfio ein nodau llesiant a’n gweithredoedd i’w darparu, yn seiliedig ar y pethau oedd yn bwysig yn lleol ar draws ein cymunedau.
Dim ond y dechrau oedd yr ymgyrch honno, Rydyn ni wastad wedi ymgynghori gyda phobl leol ar ystod eang o bolisïau a chynigion, ond roedd ‘Dewch i Sgwrsio’ yn cynrychioli cam sylweddol i ffwrdd o’n dull traddodiadol o ymgysylltu.
Parhewch i Sgwrsio!
Wrth symud i’r dyfodol, rydyn ni’n eich gwahodd i barhau i ymgysylltu â ni. Byddem ni wir yn gwerthfawrogi cael adborth parhaus oddi wrth ein preswylwyr, ein staff, ein busnesau a’n partneriaid ynghylch sut yr ydym ni’n gweithio fel cyngor, er mwyn i ni allu ystyried yr adborth hwn wrth i ni wneud penderfyniadau.
Rhowch eich adborth i ni os gwelwch yn dda, drwy lenwi ein holiadur byr. Bydd eich ymatebion yn ein helpu i amlygu beth, os o gwbl, sydd wedi newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a byddant yn cael eu defnyddio i addysgu penderfyniadau dros y misoedd nesaf o ran y blaenoriaethau a fydd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2024 ac i’r dyfodol, a chyllideb 2024 a thu hwnt.
Nid yw ein hadnoddau'n ddiderfyn, felly ni allwn addo gwneud popeth. Ond gallwn addo gwrando, ac ystyried eich blaenoriaethau yn ein cynllunio.
Felly, parhewch i sgwrsio fel y gallwn symud yn ein blaenau gyda’n gilydd.
Blychau adborth
Y ffordd gyflymaf a hawsaf i gwblhau ein holiadur yw ar-lein.
Ar gyfer pobl nad ydynt ar-lein, mae fersiynau papur o'r holiadur a'r blychau adborth mewn nifer o adeiladau cyhoeddus ar draws y fwrdeistref sirol.
Cwm Afan
- Afan Fitness, Stryd Margam, Y Cymer SA13 3EE
- Swyddfa Bost Blaengwnfi - 133 Heol Jersey, Blaengwynfi, Port Talbot SA13 3TF
- Llyfrgell Blaengwynfi - 66 Heol Jersey, Blaengwynfi, Port Talbot SA13 3TB
- Canolfan Fenter Croeserw - Bryn Siriol, Cymmer, Port Talbot SA13 3PL
- Llyfrgell Cwmafan – Heol Depot, Cwmafan, Port Talbot SA12 9DF
- Canolfan Gymunedol Cwmafan – Heol Depot, Cwmafan, Port Talbot SA12 9DF
- Llyfrgell Cymer Afan - Heol yr Osaf, Cymer, Port Talbot SA13 3HR
- Clwb Rygbi Glyngorrwg - Stryd y Parc, Glyncorrwg, Port Talbot SA13 3DS
Cwm Amman
- Canolfan Maerdy – Heol Newydd, Tairgwaith, Ammanford SA18 1UP
- Canolfan Gymunedol Cwmgors - Ffordd y Fynwent, Cwmgors, SA18 1PS
- Canolfan Gymunedol – Heol Newydd, Gwaun-Cae-Gurwen SA18 1UN
Cwm Dulais
- Canolfan Gymunedol Crynant - 24 Woodland Rd, Y Creunant, Castell-nedd SA10 8RF
- Gweithdy Dove - Canolfan Gymunedol Banwen, Ffordd Rufeinig, Banwen, Castell-nedd SA10 9LW
- Llyfrgell Blaendulais - Neuadd Gymunedol, Blaendulais Teras, Brynhyfryd, Blaendulais, Castell-nedd SA10 9BA
Castell-nedd
- Llyfrgell Llansawel - Heol Castell-Nedd, Llansawel, Castell-nedd SA11 2AQ
- Neuadd Gymunedol Gyngor Tref Llansawel - Heol Shelone, Llansawel SA11 2NS
- Canolfan Gymunedol Cimla – Helo Cwm Afan , Castell-nedd SA11 3AZ
- Canolfan Gymunedol Melyn – Heol Crythan, Castell-nedd SA11 1TB
- Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Castell-nedd SA11 3QZ
- Canolfan Hamdden Castell-nedd - Stryd y Dŵr, Castell-nedd SA11 3EP
- Llyfrgell Castell-nedd - Stryd y Dŵr, Castell-nedd SA11 3EP
- Canolfan Chwaraeon Castell-nedd - Heol Mynachlog Nedd, Castell-nedd SA10 7BR
- Llyfrgell Sgiwen – Neuadd Carnegie, Ffordd Evelyn, Sgiwen, Castell-nedd SA10 6LH
- Neuadd Gwyn - stryd y berllan, Castell-nedd SA11 1DU
- Hwb Cymunedol Vernon Place - Vernon Place, Llansawel, Castell-nedd, SA11 2JJ
Cwm Nedd
- Llyfrgell Glyn-nedd - 7 Park Ave, Glyn-nedd, Castell-nedd SA11 5DW
- Llyfrgell Resolfen - Heol Castell-nedd, Resolfen, Castell-nedd SA11 4AA
- Canolfan Hamdden Cwm Nedd - Chain Road, Glynneath SA11 5HW
- Blociau Adeiladu - Resolfen ICC, Resolfen, Castell-nedd SA11 4AB
Port Talbot
- Canolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan - Ffordd y Dywysoges Margaret, Glan Môr Aberafan, Port Talbot SA12 6QW
- Llyfrgell Baglan - Laurel Avenue, Baglan, Port Talbot SA12 8NY
- Canolfan Gymunedol Dalton Road - Dalton Rd, Port Talbot SA12 6SF
- Canolfan Ddinesig Port Talbot - Port Talbot SA13 1PJ
- Llyfrgell Port Talbot Library - Llawr cyntaf, Canolfan Siopa Aberafan, Port Talbot SA13 1PB
- Llyfrgell Sandfields - 8 Heol Morrison, Port Talbot SA12 6TG
- Canolfan Sant Paul - Stryd Gerald, Port Talbot SA12 6DQ
- Llyfrgell Taibach - 5 Heol Commercial, Taibach, Port Talbot SA13 1LN
Cwm Tawe
- Pontardawe Arts Centre - Herbert St, Pontardawe, Swansea SA8 4ED
- Pontardawe Leisure Centre - Parc Ynysderw, Pontardawe Swansea SA8 4EG
- Pontardawe Library 21 - Holly St, Pontardawe, Swansea SA8 4ET
- Neuadd Gymunedol Ystalyfera - Heol Ynysydarren, Ystalyfera SA9 2JQ