Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2023/24

Llunnir y cynllun hwn o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 o ran Rheoliadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA), sy'n berthnasol i daliadau i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau lleol ac a fydd ar waith o 1 Ebrll, 2023 tan 31 Mawrth 2024.

Cyflog Sylfaenol

1.1 Telir cyflog sylfaenol i holl aelodau etholedig yr awdurdod.

1.2 Yn unol â'r rheoliadau, adolygir cyfradd y cyflog sylfaenol yn flynyddol fel a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

1.3 Pan fo cyfnod swydd aelod yn dechrau neu'n gorffen ar adeg heblaw am ddechrau neu ddiwedd blwyddyn, bydd ei hawl i'r cyflog sylfaenol ar sail pro-rata.

1.4 Nid yw mwy nag un cyflog sylfaenol yn daladwy i aelod o'r awdurdod.

Cyflogau Uwch a Chyflogau Dinesig

2.1 Telir cyflog uwch i aelodau sy'n dal swyddi penodol fel a bennir yn Atodlen 4.

2.2 Yn unol â'r rheoliadau, adolygir cyfraddau cyflogau uwch a chyflogau dinesig yn flynyddol fel a bennir gan Adroddiad Blynyddol neu Adroddiad Atodol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

2.3 Ni ellir talu cyflog uwch a chyflog dinesig i aelod o'r awdurdod.

2.4 Telir pob cyflog uwch a chyflog dinesig drwy gynnwys cyflog sylfaenol.

2.5 Ni ellir talu cyflog uwch i fwy na nifer yr aelodau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei adroddiad blynyddol ac mae'n rhaid cadw at yr egwyddorion canlynol:-

  • Ni all cyfanswm nifer y cyflogau uwch fod yn fwy na 50% o'r aelodaeth.
  • Bydd rhaid i geisiadau gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod cyfan (ni ellir dirprwyo hyn) cyn eu cyflwyno i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
  • Rhaid cael tystiolaeth glir bod cyfrifoldeb ychwanegol gan y swydd/swyddi a ddangosir trwy ddisgrifiad o'r rôl, y diben a'r hyd.
  • Bydd rhaid i bob cais nodi'r amseriad ar gyfer adolygiad ffurfiol o'r rôl i'w ystyried gan yr awdurdod cyfan.

2.6 I Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, nifer yr aelodau sy'n derbyn cyflogau uwch a ganiateir yw 18, ac eithrio swyddi'r Maer a'r Dirprwy Faer.

2.7 Ni all aelod o'r awdurdod sy'n derbyn cyflog uwch dderbyn cyflog gan unrhyw awdurdod parc cenedlaethol nac awdurdod tân ac achub y mae wedi'i enwebu ar ei gyfer.

2.8 Lle bo cyfnod cyflog uwch neu gyflog dinesig aelod yn dechrau neu'n gorffen ar adeg heblaw am ddechrau neu ddiwedd blwyddyn, bydd ei hawl i'r cyflog ar sail pro-rata.

2.9 Lle bo trefniadau ar y cyd yn bodoli, telir cyflog uwch y cadeirydd (os telir) gan awdurdod y cadeirydd ei hun (er y gellir ei ddosrannu ymysg yr awdurdodau sy'n cymryd rhan) ond ni chaiff ei gynnwys yn uchafswm cyflogau uwch y cyngor hwnnw.

2.10 Caiff cyflog uwch ei dalu i arweinydd yr wrthblaid fwyaf ar yr amod bod y grŵp gwleidyddol yn 10% neu fwy o aelodaeth y cyngor. Caiff cyflog uwch ei dalu i'r grŵp gwleidyddol mwyaf nesaf ond eto ar yr amod bod ei aelodaeth yn 10% o gyfansoddiad gwleidyddol y cyngor.

2.11 Mater i'r cyngor, o fewn y disgresiwn cyfyngedig a roddir iddo gan PACGA o ran cadeiryddion pwyllgor, fydd penderfynu ar y rolau a fydd yn derbyn y cyflog uwch.

Cyflogau Uwch Penodol neu Ychwanegol

2.12 Fel Prif Gyngor, gall yr awdurdod wneud cais i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol am gyflogau uwch penodol neu ychwanegol nad ydynt wedi'u cynnwys yn y fframwaith tâl cyfredol, neu na ellid darparu ar eu cyfer o fewn cyfanswm nifer y cyflogau uwch sy'n ymwneud â'r awdurdod. Os caiff yr ychwanegiad arfaethedig ei gymeradwyo ac felly bydd y cyngor yn uwch na'i derfyn, caiff hwn ei gynnwys yn y gymeradwyaeth.

Dewis Gwrthod yr Hawl i Lwfans

3.1 Gall aelod, drwy gyflwyno rhybudd ysgrifenedig i Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yr awdurdod, ddewis gwrthod unrhyw ran o'i hawl i unrhyw gyflog, lwfans neu ffi sy'n daladwy dan y cynllun hwn, o'r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad. Mae'n rhaid i aelodau sydd am wrthod unrhyw hawl roi hysbysiad ysgrifenedig ym mhob blwyddyn ddinesig am yr elfennau y maent am eu gwrthod.

Gwahardd Aelod

4.1 Lle caiff aelod o'r awdurdod ei wahardd neu ei wahardd yn rhannol rhag cyflawni ei gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel aelod o'r awdurdod yn unol â Rhan III Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wneir o dan y ddeddf, bydd y rhan o'r cyflog sylfaenol sy'n daladwy iddo am gyfnod y gwaharddiad yn cael ei gwrthod gan yr awdurdod (Adran 155 (1) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011).

4.2 Lle caiff aelod sy'n derbyn cyflog uwch ei wahardd neu ei wahardd yn rhannol rhag bod yn aelod o'r awdurdod yn unol â Rhan III Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, mae'n rhaid i'r awdurdod beidio â thalu cyflog uwch yr aelod trwy gydol y gwaharddiad (Is-Adran 155 (1) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011). Os yw'r gwaharddiad rhannol yn berthnasol i elfen cyfrifoldeb penodol y taliad yn unig, gall yr aelod gadw'r cyflog sylfaenol..

Taliadau

5.1 Telir pob lwfans gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol drwy gredyd banc uniongyrchol mewn rhandaliadau o ddeuddegfed o hawl flynyddol yr aelod ar yr 28ain niwrnod o bob mis (yn amodol ar addasiadau ar wyliau banc a phenwythnosau).

5.2 Lle bo aelod wedi derbyn taliad sy'n fwy na'i hawl i gyflog, lwfans neu ffi, bydd yr awdurdod yn mynnu yr ad-delir y gordaliad.

5.3 Mae pob taliad yn amodol ar y dreth, y didyniadau Yswiriant Gwladol a'r cyfraniadau pensiwn priodol.

Ad-dalu Costau Gofal

6.1 Telir lwfans gofal i aelod neu aelod cyfetholedig sy'n gyfrifol am ofalu am blant neu oedolion dibynnol neu am anghenion cymorth personol, ar yr amod bod y treuliau'n deillio o ddarparu gofal o'r fath wrth i'r aelod gyflawni dyletswyddau'r cyngor 'sydd wedi'u cymeradwyo'. Telir ad-daliad o’r costau angenrheidiol ar gyfer gofalu am blant ac oedolion dibynnol fel a ganlyn:

  • Costau gofal ffurfiol (wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) i'w talu fel y gwelir
  • Costau gofal anffurfiol (anghofrestredig) i'w talu hyd at gyfradd uchaf sy'n cyfateb i Gyflog Byw'r DU Go Iawn ar yr adeg yr eir i'r costau. Er eglurhad, ni ellir talu costau gofal i rywun sy'n rhan o aelwyd aelod

6.2    Ni ddylid talu'r lwfans gofal:-

  • O ran unrhyw blentyn dros 15 oed, ond gall fod yn daladwy i aelod sy'n ceisio hawlio lwfans o'r fath ar gyfer plentyn 15 oed neu hŷn neu oedolyn dibynnol lle bo'r aelod yn bodloni'r cyngor fod angen goruchwyliaeth ar y plentyn neu'r oedolyn dibynnol sydd wedi achosi treuliau i'r aelod a oedd yn angenrheidiol er mwyn gofalu am y plentyn neu'r oedolyn dibynnol wrth gyflawni dyletswyddau'r aelod fel aelod; neu
  • I fwy nag un aelod o'r awdurdod o ran gofalu am yr un plentyn neu unigolyn dibynnol; neu
  • Ni thelir mwy nag un lwfans gofal i unrhyw aelod o'r awdurdod na all fodloni'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn rhesymol fod yn rhaid i'r aelod wneud trefniadau ar wahân er mwyn gofalu am blant neu oedolion dibynnol gwahanol

6.3 Dylid cyflwyno pob hawliad ar gyfer lwfans gofal yn ysgrifenedig at Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gan nodi'r amserau, y dyddiadau a'r rhesymau dros yr hawliad. Bydd angen derbynebau ar gyfer trefniadau gofal anffurfiol a ffurfiol.

Absenoldeb Teuluol

7.1 Yn ôl darpariaethau Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013, mae gan aelodau'r hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol pan fydd ganddynt yr hawl i fod yn absennol o gyfarfodydd yr awdurdod os byddant yn bodloni'r amodau rhagnodedig.

7.2 Wrth gymryd absenoldeb teuluol mewn achosion o famolaeth, babi newydd, mabwysiadu ac absenoldeb rhieni o fusnesau swyddogol, mae gan aelodau'r hawl i gadw cyflog sylfaenol beth bynnag yw eu cofnod presenoldeb yn syth cyn dechrau'r absenoldeb teuluol. Mae'n rhaid i aelodau hysbysu Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am absenoldebau o'r fath.

7.3 Os bydd deiliad cyflog uwch yn gymwys ar gyfer absenoldeb teuluol, gall barhau i dderbyn ei gyflog uwch drwy gydol ei absenoldeb.

7.4 Os bydd yr awdurdod yn cytuno bod angen penodi rhywun i gyflenwi yn ystod absenoldeb teuluol deiliad cyflog uwch, bydd yr aelod sy'n cymryd ei le'n gymwys i dderbyn cyflog uwch os bydd yr awdurdod yn penderfynu ar hynny. Bydd rhaid i'r cyngor roi gwybod i'r PACGA o fewn 14 diwrnod i'r penderfyniad os gwneir penderfyniad o'r fath, a bydd rhaid diwygio'r atodlen i adlewyrchu goblygiadau'r absenoldeb teuluol.

7.5 Os bydd nifer cyflogau uwch yr awdurdod yn fwy na'r uchafswm o ganlyniad i dalu am rywun i gyflenwi, ychwanegir at yr uchafswm a ganiateir drwy gydol y cyfnod cyflenwi.

7.6 O ran cyfnod o absenoldeb teuluol, erys y cyflog (o ran aelod ac aelod cyfetholedig) neu'r cyflog uwch yn daladwy, ond nid petai'r aelod neu'r aelod cyfetholedig yn cael ei wahardd.

Absenoldeb Salwch ar gyfer Deiliaid Cyflog Uwch

8.1 Diffinnir absenoldeb salwch tymor hir yn achos deiliaid cyflog uwch fel absenoldebau ardystiedig o fwy na phedair wythnos.

8.2 Yr uchafswm hyd a ganiateir o ran absenoldeb salwch o fewn y cynigion hyn yw 26 wythnos neu nes bod cyfnod swydd yr unigolyn yn dod i ben, p'un bynnag sy'n gyntaf (ond os caiff ei ailbenodi, bydd unrhyw amser sy'n weddill o'r 26 wythnos yn cael ei gynnwys).

8.3 O fewn y terfynau hyn, gall deiliad cyflog uwch ar absenoldeb salwch tymor hir barhau i dderbyn tâl ar gyfer ei swydd, os bydd yr awdurdod yn penderfynu gwneud hynny.

8.4 Penderfyniad yr awdurdod yw a ddylid penodi rhywun yn lle'r unigolyn hwnnw ond bydd yr ail berson yn gymwys i gael ei dalu i'r deiliad cyflog uwch sy'n briodol i'r swydd.

8.5 Os bydd nifer cyflogau uwch yr awdurdod yn fwy na'r uchafswm o ganlyniad i dalu am rywun i gyflenwi, ychwanegir at yr uchafswm a ganiateir trwy gydol y cyfnod cyflenwi. Ni fyddai hyn yn berthnasol yn achos aelod gweithredol o'r cyngor petai'n arwain at fwy na 10 swydd yn y cabinet.

8.6 Pan fo awdurdod yn cytuno i dalu rhywun i gymryd lle rhywun arall, mae'n rhaid rhoi'r manylion i'r panel o fewn 14 diwrnod i'r penderfyniad, gan gynnwys y swydd benodol a hyd bras y penodiad amnewid. Mae'n rhaid addasu Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol yr awdurdod hefyd i adlewyrchu hyn.

8.7 Nid yw'r darpariaethau hyn yn berthnasol i aelodau etholedig prif gynghorau nad ydynt yn ddeiliaid uwch swyddi wrth iddynt barhau i dderbyn cyflog sylfaenol am o leiaf chwe mis beth bynnag yw'r presenoldeb ac mae unrhyw estyniad y tu hwnt i'r amserlen hon yn fater i'r awdurdod. Yn ogystal, nid yw'r darpariaethau hyn yn berthnasol i aelodau cyfetholedig.

Taliadau aelodau cyfetholedig

9.1 Telir ffi ddyddiol aelod cyfetholedig (gyda darpariaeth ar gyfer taliadau hanner diwrnod) i aelodau cyfetholedig, os byddant yn aelodau cyfetholedig â hawliau pleidleisio.

9.2 Bydd taliadau'n ystyried amser teithio i leoliad y cyfarfod ac oddi yno, amser rhesymol ar gyfer paratoi cyn y cyfarfod a hyd y cyfarfod (hyd at y gyfradd ddyddiol ar y mwyaf).

9.3 Dynodir Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fel y "swyddog priodol" a bydd yn pennu amser paratoi, amser teithio a hyd cyfarfod, a thelir y ffi ar sail y penderfyniad hwn.

9.4 Gall Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bennu ymlaen llawn a drefnir cyfarfod ar gyfer diwrnod llawn a thelir y ffi ar sail y penderfyniad hwn hyd yn oed os bydd y cyfarfod yn gorffen o fewn pedair awr.

9.5 Diffinnir cyfarfod hanner diwrnod fel un sy'n para hyd at 4 awr.

9.6 Diffinnir cyfarfod diwrnod llawn fel un sy'n para dros 4 awr.

9.7 Nodir y ffi ddyddiol a'r ffi hanner diwrnod ar gyfer cadeiryddion y Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Archwilio, fel y'u pennir gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol, yn Atodlen 4.

9.8 Nodir y ffi ddyddiol a'r ffi hanner diwrnod ar gyfer aelodau cyfetholedig statudol eraill â hawliau pleidleisio, fel y'u pennir gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol, yn Atodlen 4.

9.9 Yr awdurdod sy'n pennu uchafswm nifer y diwrnodau y gellir talu aelodau cyfetholedig amdanynt, a gellir talu am gyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau hyfforddi a chyfarfodydd briffio â swyddogion. Mae'r cyngor wedi pennu y ceir taliad am bob cyfarfod, seminar, digwyddiad hyfforddi a chyfarfod briffio â swyddogion sydd wedi'u cymeradwyo.

Lwfansau Teithio a Chynhaliaeth 

10.1 Egwyddorion Cyffredinol

10.2 Gall aelodau ac aelodau cyfetholedig hawlio treuliau teithio wrth deithio ar fusnes yr awdurdod i gyflawni 'dyletswyddau sydd wedi'u cymeradwyo' fel a bennir yn Atodlen 1. Pan fydd aelodau'n teithio ar fusnes yr awdurdod, disgwylir iddynt ddefnyddio'r modd mwyaf cost-effeithiol o deithio.  Wrth asesu cost-effeithiolrwydd, ystyrir amser teithiau. Gellir gostwng hawliad aelod nad yw'n defnyddio'r modd mwyaf cost-effeithiol o deithio, a hynny o swm priodol. 

10.3 Lle bo'n bosib, dylai aelodau rannu cludiant.

10.4 Dylai'r pellter a hawlir ar gyfer costau teithio fod y daith resymol fyrraf ar y ffordd o'r man gadael i'r man lle caiff y ddyletswydd ei chyflawni, ac yn yr un modd o fan y ddyletswydd i'r man dychwelyd.

10.5 Nodir cyfraddau lwfansau teithio a chynhaliaeth aelodau yn Atodlen 2 ac maent yn amodol ar adolygiad blynyddol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

10.6 Lle caiff aelod ei wahardd neu ei wahardd yn rhannol rhag ei gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel aelod o'r awdurdod yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Ymddygiad Aelodau) 2000, neu reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, bydd rhaid i unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy iddo o ran cyfnod ei waharddiad neu ei waharddiad rhannol gael ei gadw yn ôl gan yr awdurdod.

Teithio mewn Cerbyd Preifat

11.1 Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi pennu y dylai'r uchafswm cyfraddau teithio sy'n daladwy fod ar y cyfraddau a nodir gan Cyllid a Thollau EF ar gyfer defnyddio ceir preifat, beiciau modur a beiciau pedal, yn ogystal ag unrhyw ychwanegiad ar gyfer teithwyr.

11.2 Nodir y cyfraddau milltiredd ar gyfer cerbydau preifat fel a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn Atodlen 2.

11.3 Lle bo aelod yn defnyddio ei gerbyd preifat at ddibenion dyletswyddau sydd wedi'u cymeradwyo, bydd yn rhaid i'r cerbyd gael yswiriant at ddefnydd busnes.  Bydd rhaid cyflwyno prawf o'r yswiriant priodol i'r awdurdod ar gais.

Teithio ar Gludiant Cyhoeddus

12.1 Teithio ar y Trên/Bws

12.2 Oni bai y cymeradwyir yn wahanol, bydd tocynnau trên yn rhai ail ddosbarth a dylai aelodau bob amser sicrhau eu bod yn dewis y modd mwyaf cost-effeithiol o deithio.

12.3 Os cymeradwyir y daith berthnasol, bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn prynu'r tocynnau trên a bws angenrheidiol ar gyfer aelodau cyn y daith. Er bod hyn yn annhebygol, os bydd angen i aelod brynu tocyn yn uniongyrchol, ad-delir y taliad ar ôl iddo gyflwyno'r tocyn a ddefnyddiwyd a/neu'r dderbynneb.

12.4 Ffïoedd Tacsi

Ad-delir ffïoedd tacsi lle cymeradwyir ei ddefnyddio mewn argyfwng yn unig, pan na fydd cludiant cyhoeddus ar gael yn rhesymol, neu lle bo gan aelod angen personol penodol. Gwneir ad-daliad ar ôl i dderbynneb gael ei chyflwyno'n unig.

12.5 Ffïoedd Awyr

Caniateir teithio ar awyren os dyna'r modd mwyaf cost-effeithiol o deithio.  Bydd angen caniatâd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol a phrynir tocynnau gan y Gwasanaethau Democrataidd.

Teithio Dramor

Caniateir teithio dramor ar fusnes yr awdurdod lle cymeradwyir hynny gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn unig; bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn gwneud y trefniadau teithio a llety.

Treuliau Teithio Eraill

Bydd gan aelodau'r hawl i dderbyn ad-daliad o ran tollau, ffioedd parcio, defnyddio garej dros nos, a threuliau teithio angenrheidiol cysylltiedig eraill. Gwneir ad-daliad ar ôl i dderbynneb gael ei chyflwyno'n unig.

Llety Dros Nos

15.1 Caniateir aros dros nos pan fydd busnes yr awdurdod yn ymestyn i ddau ddiwrnod neu fwy'n unig, neu pan fydd pellter y lleoliad yn ddigon i sicrhau y byddai teithio'n gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y nos yn afresymol.  Bydd rhaid i bob enghraifft o aros dros nos gael ei chymeradwyo ymlaen llaw gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol.

15.2 Trefnir llety dros nos gan un o swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd. Lle bo'n bosib, caiff llety dros nos ei dalu neu ei anfonebu ymlaen llaw.

15.3 Caniateir i aelod drefnu llety dros nos yn uniongyrchol os bydd argyfwng yn unig. Gwneir ad-daliad ar ôl i dderbynneb gael ei chyflwyno'n unig a bydd yr ad-daliad ar lefel a ystyrir yn rhesymol, na fydd yn fwy na'r cyfraddau a nodir yn Atodlen 2.

Lwfans Cynhaliaeth

16.1 Nodir y gyfradd cynhaliaeth ddyddiol i dalu am gostau prydau bwyd a lluniaeth mewn cysylltiad â dyletswyddau sydd wedi'u cymeradwyo (gan gynnwys brecwast pan na chaiff ei ddarparu fel rhan o lety dros nos) yn Atodlen 2. Mae'r uchafswm dyddiol yn cwmpasu cyfnod o 24 awr a gellir ei hawlio ar gyfer unrhyw bryd o fwyd sy'n berthnasol, os cyflwynir yr hawliad hwnnw gyda derbynneb (derbynebau).

16.2 Ni ddarperir ar gyfer hawliadau cynhaliaeth yn y fwrdeistref sirol.

Cynllun Cefnogi

17.1 Yn ogystal â'r cyflog, mae'r cyngor yn gweithredu cynllun cefnogi ar gyfer aelodau etholedig. Bydd y cyngor yn talu lwfans cefnogi cyfradd safonol gwerth £200 y flwyddyn ar gyfer costau ffôn, band eang a chostau swyddfa eraill. Ni fydd y swm hwn yn berthnasol i Aelodau'r Cabinet gan y gallant ddefnyddio ffonau symudol a dyfeisiau llaw ar y cyd, ynghyd â defnyddio cyfleusterau swyddfa yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot.

Adroddiadau Blynyddol

18.1 Mae gan aelodau'r cyfle i lunio adroddiad blynyddol yn unol â chynllun cymeradwy'r cyngor. Rhoddir cefnogaeth i aelodau sydd am lunio adroddiadau o'r fath, gan gynnwys sicrhau bod y cyfleuster i gyhoeddi adroddiadau ar gael ar wefan y cyngor.

Hawliadau a Thaliadau

19.1 Bydd rhaid cyflwyno pob hawliad i Is-adran y Trysorlys y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol erbyn 8fed y mis. Ni thelir hawliadau a gyflwynir ar ôl mwy na 90 niwrnod oni bai fod amgylchiadau eithriadol yn cyfiawnhau'r hawliad hwyr, y bydd rhaid i'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ei gymeradwyo.

19.2 Telir lwfansau gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol drwy gredyd banc uniongyrchol ar 28ain niwrnod o bob mis (yn amodol ar addasiadau ar wyliau banc a phenwythnosau).

19.3 Lle byddai talu rhandaliad yn sicrhau bod aelod yn derbyn mwy na'i hawl oherwydd newidiadau i'r rheoliadau neu amgylchiadau perthnasol eraill o'r fath, gostyngir y taliad yn briodol.        

19.4 Telir cyflog a lwfansau eraill i aelodau dan y cynllun hwn drwy system gyflogres y cyngor. Ni ddarperir ar gyfer talu aelodau drwy'r Gwasanaeth Arianwyr.

Pensiynau

20.1 Bydd yr awdurdod yn galluogi aelodau sy'n gymwys i ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, fel a weinyddir gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe. Mae cyflogau sylfaenol a chyflogau uwch yn gymwys ar gyfer tâl pensiynadwy.

Cydymffurfio

21.1 Yn unol â'r rheoliadau, mae'n rhaid i'r awdurdod gydymffurfio â gofynion y panel o ran monitro a chyhoeddi taliadau a wneir i aelodau ac aelodau cyfetholedig fel a nodir yn Atodlen 3.

Arall

22.1 Cymeradwywyd cytundeb y gweithlu gan undebau llafur a staff yn 2013 a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018.

22.2 Atgoffir aelodau bod hawliadau treuliau'n destun archwiliad mewnol ac allanol.

Atodlen 1

Dyletswyddau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer teithio a chynhaliaeth:-

  • Bod yn bresennol mewn cyfarfod o'r awdurdod neu unrhyw un o bwyllgorau'r awdurdod neu unrhyw gorff y mae'r awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu unrhyw bwyllgor corff o'r fath;
  • Bod yn bresennol mewn cyfarfod unrhyw gymdeithas awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohono;
  • Bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu gan un o bwyllgorau'r awdurdod, neu gan un o gyd-bwyllgorau'r awdurdod ac o leiaf un awdurdod arall;
  • Dyletswydd yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau'r Cabinet, neu mewn cysylltiad â gwneud hynny.
  • Dyletswydd a gyflawnir yn unol â rheol sefydlog sy'n gofyn am bresenoldeb aelod neu aelodau pan agorir dogfennau tendro;
  • Dyletswydd yr ymgymerir â hi mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod sy'n grymuso'r awdurdod neu'n mynnu bod yr awdurdod yn archwilio neu'n cymeradwyo archwilio mangre;
  • Bod yn bresennol mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwyir gan yr awdurdod neu ei Gabinet;
  • Unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir, yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau, neu mewn cysylltiad â gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys presenoldeb aelodau ar gais Cyfarwyddwr Corfforaethol (neu un o'r Penaethiaid Gwasanaeth yn ei absenoldeb) mewn cysylltiad â swyddogaethau'r cyngor neu'r Weithrediaeth, gan gynnwys bod yn bresennol mewn cynadleddau, seminarau a chyrsiau fel cynrychiolydd awdurdodedig y cyngor;
  • Nid yw 'bod yn bresennol' o reidrwydd yn cyfeirio at unrhyw un o swyddfeydd y cyngor, er enghraifft gwahoddiad i fynd i gyfarfod dydd neu nos, fforwm, digwyddiad, seminar, etc, mewn cysylltiad â swyddogaethau'r cyngor, pan fo Cyfarwyddwr Corfforaethol neu Bennaeth Gwasanaeth yn ystyried ei fod yn dderbyniol y dylid cynrychioli'r cyngor.

Atodlen 2 

Cyfraddau Milltiredd

Cerbydau modur preifat o bob maint

  • Hyd at 10,000 o filltiroedd - 45 ceiniog y filltir
  • Dros 10,000 o filltiroedd - 25 ceiniog y filltir

Beiciau Modur Preifat

  • 24 ceiniog y filltir

Beiciau

  • 20 ceiniog y filltir

Ychwanegiad ar gyfer teithwyr

  • 5 ceiniog y filltir

Ar gyfer teithiau allan sy'n fwy na 100 milltir, mae'n ofynnol i aelodau sicrhau y defnyddir y dull mwyaf economaidd o deithio.

Ar gyfer teithiau y tu allan i Gastell-nedd Port Talbot, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr telir un hawliad milltiredd yn unig ar gyfer hyd at bedwar aelod a/neu swyddog sy'n cyflawni'r un ddyletswydd sydd wedi'i chymeradwyo, oni bai fod hyn yn afresymol am resymau logistaidd, gweithredol neu economaidd; dan yr amgylchiadau hyn, bydd angen cael cymeradwyaeth benodol y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol.

Ni thelir treuliau teithio o ran 'dyletswyddau ward'.

Dylid cyflwyno derbynneb TAW am danwydd gyda phob hawliad milltiredd.

Lwfans Cynhaliaeth

Nid yw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) yn mynnu bod awdurdodau lleol yn clustnodi'r uchafswm dyddiol (£28 y diwrnod) rhwng gwahanol brydau o fwyd, gan fod yr uchafswm dyddiol y gellir ei ad-dalu'n cwmpasu cyfnod o 24 awr a gellir ei hawlio am unrhyw bryd o fwyd pan fo'n berthnasol, os cyflwynir derbynebau gyda'r hawliad. Fodd bynnag, penderfynodd y cyngor yn ei gyfarfod ar 24 Mawrth 2010 rannu'r gyfradd ddyddiol ar gyfer cynhaliaeth fel a ganlyn:

  • Brecwast - £6.88
  • Cinio - £9.49
  • Te - £3.73
  • Pryd gyda'r hwyr - £22.90

Ni chaniateir i gostau diodydd alcoholig gael eu had-dalu.

Nid ad-delir hawliau cynhaliaeth ar gyfer busnes swyddogol a gynhelir yn y sir neu'r awdurdod (fel y trefniant presennol). Nid yw hyn yn berthnasol i aelodau cyfetholedig neu'r sawl a benodir sy'n byw y tu allan i ffiniau'r awdurdod.

Aros Dros Nos

Yr uchafswm lwfans ar gyfer aros dros nos yw £200 yn Llundain a £95 ym mhob man arall.  Caiff ffi o £30 y nos ei thalu i aros dros nos gyda ffrindiau neu berthnasau.

Fel arall, mewn amgylchiadau penodol, e.e. gwestai cynadledda neu lle nad oes llety addas ar gael, gellir trefnu llety dros nos ymlaen llaw a'i dalu gan yr awdurdod uwchben y terfynau uchod, yn amodol ar resymoldeb a chymeradwyaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol.

Lwfans Aelodau Cyfetholedig

Telir lwfans aelodau cyfetholedig, ar gyfer yr aelodau cyfetholedig hynny â hawliau pleidleisio, ar y gyfradd a nodir isod:

Rôl Swm
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ac Archwilio

£268

(4 awr a mwy)

£134

(hyd at 4 awr)
Aelodau cyffredin Pwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref

£238

(4 awr a mwy)

£119  

(hyd at 4 awr)
Aelodau cyffredinol Pwyllgorau Safonau, Pwyllgor Craffu ar Addysg, Pwyllgor Craffu ar Droseddu ac Anhrefn a Phwyllgor Archwilio.

£210  

(4 awr a mwy)

£105  

(hyd at 4 awr)
Cynghorwyr Cymuned a Thref sy'n eistedd ar Bwyllgorau Safonau Prif Gynghorau

£210

(4 awr a mwy)

£105

(hyd at 4 awr)

Gellir talu aelodau cyfetholedig am amser paratoi rhesymol cyn cyfarfodydd – gan gynnwys bod yn bresennol mewn cyfarfodydd pwyllgor, seminarau, hyfforddiant a chyfarfodydd â swyddogion.

Mae cyfarfodydd o hyd at bedair awr yn daladwy ar gyfradd hanner diwrnod. Diffinnir cyfarfod diwrnod llawn fel un sy'n para dros bedair awr.

Atodlen 3

Cydymffurfio

  • Bydd yr awdurdod yn trefnu i gyhoeddi ar wefan y cyngor y cyfanswm a delir i bob aelod ac aelod cyfetholedig o ran cyflog, lwfansau, ffïoedd ac ad-daliadau, a hynny erbyn 30 Medi fan bellaf ar ôl diwedd y flwyddyn dan sylw. Rhaid anfon copi hefyd at y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn yr un dyddiad cau. At ddibenion tryloywder, bydd hyn yn cynnwys cydnabyddiaeth ariannol o bob swydd gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan aelodau etholedig.
  • Bydd yr awdurdod yn cyhoeddi datganiad ar wefan y cyngor o gyfrifoldeb sylfaenol cynghorwr, a disgrifwyr rolau ar gyfer deiliaid swyddi cyflog uwch, a fydd yn nodi'n glir y dyletswyddau a ddisgwylir.
  • Bydd yr awdurdod yn cyhoeddi ar wefan y cyngor atodlen flynyddol o Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau, a hynny erbyn 31 Gorffennaf y flwyddyn y mae'r atodlen yn berthnasol iddi fan bellaf.
  • Bydd yr awdurdod yn anfon copi o'r atodlen i'r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn 31 Gorffennaf y flwyddyn y mae'r atodlen yn berthnasol fan bellaf.
  • Bydd yr awdurdod yn cadw cofnodion presenoldeb aelodau/aelodau cyfetholedig mewn cyfarfodydd cyngor, Cabinet a phwyllgorau, a dyletswyddau cymeradwy eraill y mae aelod/aelod cyfetholedig yn cyflwyno hawliad am ad-daliad yn eu cylch.
  • Bydd yr awdurdod yn trefnu i gyhoeddi adroddiadau blynyddol a lunnir gan aelodau ar wefan y cyngor. 
  • Pan fo'r awdurdod yn cytuno i dalu rhywun i gyflenwi yn achos absenoldeb teuluol, bydd yn rhoi gwybod i'r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol am y manylion, gan gynnwys y swydd benodol a hyd y cyfnod cyflenwi, o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad.

Atodlen 4

Y cyflogau sylfaenol a'r cyflogau uwch sy'n daladwy i aelodau'r prif gynghorau ym 2023/24

Bydd yr atodlen hon ar waith rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024

Ffïoedd ar gyfer aelodau cyfetholedig (â hawliau pleidleisio) awdurdodau lleol

Rôl Swm
Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau a Phwyllgorau Archwilio

£268

(4 awr a mwy)

£134

(hyd at 4 awr)
Aelodau cyffredin Pwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref

£238

(4 awr a mwy)

£119  

(hyd at 4 awr)
Aelodau cyffredin Pwyllgorau Safonau; Pwyllgor Craffu ar Addysg; Pwyllgor Craffu ar Droseddu ac Anhrefn a Phwyllgor Archwilio

£210  

(4 awr a mwy)

£105  

(hyd at 4 awr)
Cynghorau tref a chymuned sy’n eistedd ar bwyllgorau safonau prif gynghorau

£210

(4 awr a mwy)

£105

(hyd at 4 awr)

Bydd Cyflogau Dinesig (lle cânt eu talu) yn daladwy fel a ganlyn i Aelodau o’r prif Gynghorau

  • Arweinwyr Dinesig - £26,400
  • Dirprwy Arweinwyr Dinesig - £21,340

Atodlen 5

Atodlen Cydnabyddiaeth Aelodau 2023-2024

(yn effeithiol o 1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024)

Cyflog sylfaenol blynyddol - £17,600

Aelodau etholedig canlynol yr awdurdod â'r hawl i gael cyflog sylfaenol:

  • Cllr A Aubrey
  • Cllr T Bowen
  • Cllr W Carpenter
  • Cllr H C Clarke
  • Cllr C Clement Williams
  • Cllr M Crowley
  • Cllr A Dacey
  • Cllr H Davies (Hayley)
  • Cllr H Davies (Heath)
  • Cllr O Davies
  • Cllr R Davies
  • Cllr S Freeguard
  • Cllr N Goldup-John
  • Cllr S Grimshaw
  • Cllr M Harvey
  • Cllr J Henton
  • Cllr C James (Cathy)
  • Cllr J Jones
  • Cllr L Jones
  • Cllr C Jordan
  • Cllr D Keogh
  • Cllr T Latham
  • Cllr C Lewis
  • Cllr D Lewis
  • Cllr A Lockyer
  • Cllr A Lodwig
  • Cllr R Mizen
  • Cllr K Morris
  • Cllr S Paddison
  • Cllr S Penry
  • Cllr M Peters
  • Cllr P Rees
  • Cllr S Renkes
  • Cllr S Reynolds
  • Cllr P Richards
  • Cllr M Spooner
  • Cllr D Thomas
  • Cllr S Thomas
  • Cllr D Whitelock
  • Cllr L Williams
  • Cllr R Wood

Pob aelodau sy'n gymwys i dderbyn lwfans gofal.

  • Costau gofal ffurfiol (wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) i'w talu fel y gwelir.
  • Costau gofal anffurfiol (anghofrestredig) i'w talu hyd at gyfradd uchaf sy'n cyfateb i Gyflog Byw'r DU Go Iawn ar yr adeg yr eir i'r costau.

Hawliadau Cyflogau Uwch (yn cynnwys cyflog sylfaenol)

Rôl Cynghorydd Cyflog Uwch Blynyddol
Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Gymunedau ac Arweinyddiaeth Strategol Y Cyng. S Hunt £59,400
Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet - Tai a Diogelwch Cymunedol Y Cyng. A Llewellyn £41,580
Aelod y Cabinet - Cyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol Y Cyng. S Knoyle £35,640
Aelod y Cabinet-Addysg a Blynyddoedd Cynnar Y Cyng. Nia Jenkins £35,640
Aelod y Cabinet- Natur, Twristiaeth a Lles Y Cyng. C Phillips £35,640
Aelod y Cabinet - Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaid Y Cyng. J Hurley £35,640
Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Y Cyng. S Harris £35,640
Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd Y Cyng. J Hale £35,640
Aelod y Cabinet - Cynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd Y Cyng. W Fryer Griffiths £35,640
Aelod y Cabinet - Strydlun Y Cyng. S Jones £35,640
Cadeirydd - Craffu'r Cabinet Y Cyng. P Rogers £26,400

Cadeirydd - Craffu ar Wasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Y Cyng. C Galsworthy £26,400
Cadeirydd - Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles Y Cyng. R Phillips £26,400
Cadeirydd - Craffu ar Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun Y Cyng. S Pursey £26,400
Cadeirydd - Cynllunio Y Cyng. C James £26,400
Cadeirydd - Cofrestru a Thrwyddedu Y Cyng. A Richards £26,400
Cadeirydd - Gwasanaethau Democrataidd Y Cyng. S Rahaman £26,400
Arweinydd yr wrthblaid fwyaf Y Cyng. R Jones £26,400

Gellir talu cyfanswm o 18 o gyflogau uwch ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Hawl i Gyflogau Dinesig

Rôl Cynghorydd Cyflog dinesig blynyddol
Pennaeth Dinesig (Maer) Y Cyng. C Williams £26,400

Dirprwy Bennaeth Dinesig (Dirprwy Faer)

Y Cyng. M Crowley £21,340

Hawliad Fel Aelodau Cyfetholedig Statudol

Rôl Aelod Swm Lwfans Aelodau Cyfetholdeig
Cadeirydd - Pwyllgor Safonau L Fleet £268 Daily Fee / £134 ½ Day Fee
Is-gadeirydd - Pwyllgor Safonau T Ward £210 Daily Fee / £105 ½ Day Fee
Cadeirydd - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio J Jenkins £268 Daily Fee / £134 ½ Day Fee
Aelod Annibynnol - Pwyllgor Safonau D Lewis £210 Daily Fee / £105 ½ Day Fee
Aelod Annibynnol - Pwyllgor Safonau A Davies £210 Daily Fee / £105 ½ Day Fee
Aelod Cyngor Cymuned - Pwyllgor Safonau C Edwards £210 Daily Fee / £105 ½ Day Fee
Aelodau Lleyg sy'n Pleidleisio - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio A Bagley, M Owen, H Griffiths £210 Daily Fee / £105 ½ Day Fee
Aelodau Cyfetholedig sy'n Pleidleisio - Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Lles A Amor, M Caddick, L Newman £210 Daily Fee / £105 ½ Day Fee