Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Y Weithrediaeth

Mae'r Cabinet yn cynnwys Arweinydd y Cyngor a hyd at naw Aelod Cabinet (gan gynnwys y Dirprwy Arweinydd).

Etholir Arweinydd y Cyngor gan y Cyngor sydd wedyn yn dewis eu Haelodau Cabinet i'w penodi gan y Cyngor.

Mae gan bob Aelod Cabinet gyfrifoldeb am bortffolio penodol o wasanaethau a pholisïau'r Cyngor, a neilltuir gan yr Arweinydd.

Y Cabinet yw prif gorff gwneud penderfyniadau'r Cyngor ac mae'n gyfrifol am weithredu fframwaith cyllidebol a pholisi'r Cyngor. Mae rhai materion allweddol, megis gosod y gyllideb a threth y cyngor yn flynyddol, yn parhau i fod yn fater i'r Cyngor benderfynu arno.

Fel arfer cynhelir cyfarfodydd y Cabinet bob tair wythnos a chânt eu cadeirio gan yr Arweinydd. Mae cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd ac eithrio pan fydd materion personol neu gyfrinachol yn cael eu trafod. 

Gwneir penderfyniadau ar y cyd gan y Cabinet yn y cyfarfod, a gyhoeddir wedyn mewn cofrestr penderfyniadau yn dilyn y cyfarfod. Gellir dod o hyd i gopïau o’r agendâu, adroddiadau, cofrestrau penderfyniadau a chofnodion cyfarfodydd y Cabinet ar wefan y Cyngor.