Dod yn aelod o'r llyfrgell
Dod yn aelod
Mae aelodaeth o'r gwasanaeth llyfrgell am ddim i holl drigolion y Sir. Gallwch ymuno ag unrhyw gangen o'r llyfrgell drwy gyflwyno prawf o'ch enw a'ch cyfeiriad presennol. Nid oes isafswm oedran ar gyfer ymuno, ond mae angen llofnod rhiant neu warcheidwad ar y rhai dan 18 oed.
Cofrestru ar-lein
trwy glicio ar y botwm isod ar �l i chi ddarllen a derbyn yr amodau aelodaeth. Bydd eich cerdyn aelodaeth yn cael ei bostio i'r cyfeiriad a roddwch ar y ffurflen gais aelodaeth ar-lein.
Amodau aelodaeth
- I fenthyg eitemau mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch cerdyn aelodaeth llyfrgell.
- Mae fideos, DVDs a chylchgronau ar gael i'w benthyca am bythefnos, gellir benthyca pob eitem arall am bedair wythnos.
- Gallwch fenthyg hyd at ddeg ar hugain o eitemau ar eich cerdyn. Gellir benthyca'r rhain oddi wrth unrhyw gangen o'r Gwasanaeth Llyfrgell a'u dychwelyd iddynt.
- Gall eitemau gael eu hadnewyddu ddwywaith mewn unrhyw gangen. Mae staff yn hapus i adnewyddu eitemau dros y ffôn yn ystod oriau agor, a fyddech cystal � sicrhau bod rhif eich cerdyn llyfrgell wrth law. Os gosodwyd archeb ar eitem sydd gennych ar fenthyg ni chaniateir adnewyddu.
- Gall eitemau gael eu dychwelyd mewn unrhyw gangen o'r Llyfrgell. Mae pwyntiau dychwelyd eitemau ar �l oriau ar gael ym mhob cangen. Ystyrir bod eitemau a adewir yn y pwynt dychwelyd eitemau ar �l oriau wedi'u dychwelyd ar y diwrnod nesaf y bydd y lyfrgell yn agored.
- Codir dirwyon hwyr am ddychwelyd eitemau yn hwyr.
- Aelod atal dros dro os oes gennych eitemau hwyr a thaliadau heb eu talu.
- Mae hysbysiadau hwyr yn nodyn atgoffa cwrteisi er hwylustod i chi. Codir ffi fechan am brosesu�r hysbysiadau hyn.
- Mae gwasanaeth archebu a/neu fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd ar gael ar gyfer yr eitemau hynny sydd ar fenthyg, sydd ar gael mewn cangen arall neu mewn gwasanaeth llyfrgell arall. Codir ffi fechan am y gwasanaeth hwn. Gallwch gadw eich archeb eich hun ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau drwy gatalogau mynediad cyhoeddus ein canghennau neu drwy gatalog ar-lein y Gwasanaeth Llyfrgell. rhaid ei ad-dalu.
- Ni ellir ad-dalu'r holl daliadau archebu, benthyciad rhyng-lyfrgell a cherdyn aelodaeth coll.
- Rhowch wybod i'r llyfrgell ar unwaith am gardiau coll. Byddwch yn gyfrifol am unrhyw eitemau a fenthycwyd cyn rhoi gwybod am y golled.
- Mae manylion aelodaeth yn gyfrinachol ac ni fyddant yn cael eu datgelu i bart�on eraill. ;Derbyn
Cliciwch y botwm isod i dderbyn yr amodau hyn ac ewch ymlaen i'r ffurflen gofrestru (rhaid i chi fod yn 18 oed neu drosodd i ymuno ar-lein).