O ymgeisydd i gydweithiwr, dyma sut
Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael croeso a thriniaeth deg yn Nhîm CPT – ac mae hynny’n dechrau cyn i chi ymuno â ni..
Gall ein proses ymgeisio amrywio’n dibynnu ar y rôl yr ydych chi’n ymgeisio amdani, ond ymhob achos, ein nod yw bod yn agored, yn deg ac yn wrthrychol drwy gydol holl daith y broses recriwtio.
Rydyn ni’n gyflogwr cyfleoedd cyfartal, felly os oes angen unrhyw gefnogaeth neu gymorth arnoch ar unrhyw bwynt yn ystod y broses ymgeisio, anfonwch e-bost at jobs@npt.gov.uk neu ffoniwch ein Tîm Cefnogi Cyflogaeth ar 01639 686837. Byddwn ni’n falch iawn o wneud unrhyw addasiadau rhesymol fydd eu hangen.
Proses Ymgeisio Pedwar Cam
1. Ymgeisio
All our vacancies are listed on our Search & Apply page. All applicants must complete an online application form before the published closing date. We can accept manual applications if you are unable to complete one online.
2. Llunio Rhestr Fer
Bydd y rheolwr recriwtio’n llunio rhestr fer o’r ceisiadau y dymunant eu symud i’r cam nesaf, Byddan nhw’n ystyried yr holl gymwysterau, profiad a sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r swydd wrth ddod i benderfyniad. Byddwn ni’n gadael i chi wybod y canlyniad os nad ydych chi’n llwyddiannus yn y cam hwn.
3. Cyfweliad
Byddwn ni’n eich gwahodd i gael cyfweliad gyda ni – gallai hyn fod wyneb yn wyneb neu’n rhithiol, drwy gyfrwng Microsoft Teams neu Zoom. Yn eich gwahoddiad i gyfweliad, byddwn ni’n gadael i chi wybod pwy fydd yn eich cyfweld chi ac a fydd unrhyw dasgau ychwanegol ar gyfer eich cyfweliad fel cyflwyniadau neu asesiadau.
4. Cydymffurfio a Fetio
Os byddwch chi’n llwyddiannus, ac yn cael cynnig swydd yn Nhîm CPT, byddwn ni’n gwneud gwiriadau cyn cyflogi. Bydd y gwiriadau hyn yn amrywio o swydd i swydd, ond byddant yn cynnwys gwiriadau hawl-i-weithio, holiadur meddygol cyn lleoli, gwiriad bylchau mewn cyflogaeth a geirdaon. Efallai y byddwn hefyd yn gwneud gwiriad DBS, gwiriad trwydded yrru neu ddilysiad cyrff proffesiynol Os oes unrhyw wiriadau eraill y bydd angen eu gwneud ar gyfer swydd benodol, byddwn ni’n gadael i chi wybod beth yw’r rhain fel rhan o’r broses gyflogi.
Os gallwn gynnig unrhyw gefnogaeth neu gymorth ar unrhyw adeg yn y broses ymgeisio, anfonwch e-bost at jobs@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 686837. Pob lwc i chi!
Dysgu mwy
Dysgu mwy am sut y gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth gyda’n llwybrau mynediad i waith
Dysgu mwy am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn CPT.
Cwestiynau Cyson
Rydyn ni am wneud y broses recriwtio mor dryloyw â phosib er mwyn eich helpu i ymlacio er mwyn i chi allu bod ar eich gorau. Os oes gennych gwestiwn ar unrhyw adeg, peidiwch â bod ofn gofyn!
Cyfeiriwch at eiriad yr hysbyseb a’r gofynion ‘hanfodol’ a nodir yn y dogfennau disgrifiad swydd a manyleb y person.
Oes. Yn achos rhai swyddi, fel gofal personol neu fod yn ddeiliad allwedd eiddo, rhad i chi fod dros leiafswm oedran penodol. Os dyma’r achos, byddwn ni’n gwneud hynny’n amlwg yn yr hysbyseb swydd bob amser.
Byddwn ni’n cynnal gwiriadau cyn cyflogi yn ystod y cam gwneud cynnig amodol. Mae’r gwiriadau hyn yn dibynnu ar ba swydd rydych chi wedi ymgeisio amdani. Gallent gynnwys holiadur meddygol cyn cyflogi, geirdaon, gwiriad DBS, cymwysterau a thystiolaeth fod gennych hawl i weithio yn y DU. Ar gyfer unrhyw swydd y byddwch chi’n ymgeisio amdani, rhaid i chi ddatgan unrhyw euogfarn heb ei disbyddu adeg gwneud y cais. Ar gyfer euogfarn sydd wedi’i disbyddu, bydd hyn yn dibynnu ar y swydd rydych chi’n ymgeisio amdani. Gellir cael mwy o wybodaeth a chyngor ar wefan NACRO.
Gallwch. Rydyn ni’n hybu Polisi Gweithio Hyblyg y gall unrhyw ymgeisydd wneud cais amdano. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yma.
Mae hyn wir yn dibynnu ar y swydd rydych chi’n ymgeisio amdani. Fel arfer, gall y broses recriwtio gymryd unrhyw beth rhwng pedair a chwe wythnos, yn dibynnu ar y gwiriadau cyn cyflogi fydd angen eu gwneud.
Bydd geirda’n cael ei geisio adeg gwneud cynnig amodol. Ond efallai y byddwn ni’n gofyn am eirda ar gyfer swyddi mewn ysgolion ar gam cyfweld y broses.
Gallwch ymgeisio am gynifer bynnag ag y dymunwch.
Byddwch. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os na chawsoch lwc adeg llunio rhestr fer. Byddwn ni hefyd yn cynnig adborth i chi os ydych chi’n aflwyddiannus ar ôl cyfweliad.
Gallwch newid amser eich cyfweliad cyn dyddiad cau archebu cyfweliad (mae hyn yn cael ei nodi gan y rheolwr recriwtio) gan ddefnyddio eich cadarnhad e-bost archebu cyfweliad gwreiddiol. Fel arall, ffoniwch y rheolwr recriwtio (bydd manylion cyswllt ffôn yn eich e-bost archebu cyfweliad gwreiddiol) i newid eich slot.
Dal yn chwilfrydig?
Oes cwestiwn sy’n dal heb ei ateb? E-bostiwch jobs@npt.gov.uk os gwelwch yn dda