Hepgor gwe-lywio

Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot

Croesawgar, gonest a dramatig o Gymreig

Mae Castell-nedd Port Talbot wir yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Wedi’i leoli rhwng bryniau Bannau Brycheiniog a thraeth euraidd Aberafan, mae ein sir yn cynnig cysylltiadau chwim i Gaerdydd ac Abertawe ynghyd â dos iachus o fyw mewn ardal led-wledig gyda thai fforddiadwy ac ysgolion o safon uchel.

O’r mynyddoedd a’r cymoedd, yr afonydd a’r arfordir, i’r tirweddau gwledig a diwydiannol sy’n gyforiog o dreftadaeth falch, mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnig lle o amrywiaeth enfawr ble daw harddwch a gwytnwch ynghyd i greu tirwedd annisgwyl ac ymdeimlad cymunedol digymar yn nhrefi a phentrefi ein sir..

Mae’r bobl sy’n byw yma yn gymaint rhan o’r ardal â’r tirweddau. Gallwch ddod ar draws ein cymeriad dihafal ymhobman – cyfeillgar a di-flewyn-ar-dafod. Os ydych chi’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, cewch gyfle i ddod yn rhan o gymuned glos sy’n cynnig ymdeimlad gwirioneddol o berthyn. Ac mae hynny’n amhrisiadwy.

CPT mewn rhifau

64 cynghorydd
6,500+ o weithwyr
5 cwm
3 thref
140,000 preswylydd
540+ milltir o lwybrau seiclo a cherdded
3 milltir o draeth
1 campws
25 prentisiaeth wedi’i sefydlu
3,250+ o fusnesau

Dod o hyd i swydd