Beth yw Strategaeth Dyfodol Gwaith?
Mae’r strategaeth yn nodi sut rydym yn bwriadu llunio Tîm CNPT dros y 5 mlynedd nesaf, er mwyn sicrhau gyda’n gilydd, fel un cyngor, y gallwn ganolbwyntio ar wneud yr hyn sy’n bwysig i’n trigolion, busnesau lleol a buddsoddwyr, gan helpu ein trigolion i fyw bywydau da.
Pam mage angen un arnom?
Mae gweithlu dawnus sydd â ffocws pendant yn hollbwysig er mwyn dod â'r blaenoriaethau strategol yn fyw a sicrhau y bydd y sefydliad yn cyflawni ei amcanion llesiant. Costau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â phobl yw 45% o gyfanswm ein gwariant. Felly, gall gwneud hyn yn anghywir fod yn ddrud iawn. Bydd gwneud hyn yn iawn yn arwain at welliannau sylweddol:
- Nodi anghenion newidiol dinasyddion ac ymateb iddynt.
- Galluogi cyflogeion i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a llesiant da.
- Adlewyrchu cyfansoddiad ein poblogaeth, gan atgyfnerthu'r cysylltiad rhyngom a'm cymunedau.
- Gwella ein gallu i arloesi drwy fod yn sefydliad gwirioneddol amrywiol a chynhwysol.
- Defnyddio gwybodaeth gan ein cyflogeion i lywio strategaethau hynod effeithiol a fydd yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial.
- Darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon sy'n rhoi gwerth da am arian.
- Creu brand cyflogwr atyniadol sy'n ein galluogi i recriwtio a chadw gweithlu hynod alluog.