Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynnal a Chadw dros y Gaeaf

Caiff hyn ei gyflawni trwy gynnal mynediad i wasanaethau a chyflogaeth trwy sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw eira ac iâ yn peryglu tramwyo'n ddiogel ar hyd y briffordd. Er mwyn cydymffurfio, byddwn yn gwneud y canlynol:- 

  • Ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth.

  • Cydymffurfio ag argymhellion ar gyfer cynnal a chadw dros y gaeaf yn y Côd Ymarfer ar gyfer Rheoli Cynnal a Chadw a hefyd ddilyn arweiniad oddi wrth NWSRG.

  • Cyhoeddi Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf.

  • Adolygu'r Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf  yn flynyddol, gan gynnwys ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

  • Graeanu ffyrdd a throedffyrdd fel mesur rhagofalus yn unol â'r Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf.

  • Ymateb i alwadau gan y cyhoedd yn unol â'r blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf.

  • Rhoi ei fesurau argyfwng ar waith trwy staffio 24 awr a chysylltu â'r cyhoedd os bydd tywydd argyfyngus.

  • Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i gynyddu cyfathrebu cymaint â phosib a lleihau'r perygl i'r cyhoedd.

  • Defnyddio dulliau o sicrhau effeithiolrwydd a diogelwch wrth leihau'r effaith ar yr amgylchedd.

  • Darparu gwybodaeth gyhoeddus am y Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf, trwy arddangos y llwybrau i'w graeanu fel mesur rhagofalus yn y canolfannau dinesig a chyhoeddi'r rhain ar y rhyngrwyd.

  • Adolygu'n flynyddol y defnydd o finiau graean a'u darpariaeth.