Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Meysydd chwarae

Mae gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot 50 o leoedd chwarae gyda chyfleusterau ar gyfer plant o bob oed. Mae'r rhan fwyaf yn addas ar gyfer yr ystod oedran 3 i 12 oed.

Mae'r lleoedd chwarae'n amrywio mewn maint a nifer yr unedau chwarae. Cânt eu harchwilio'n rheolaidd i fodloni gofynion iechyd a diogelwch.

Ein nod yw darparu lleoedd chwarae heriol, hwyl a diogel sydd ar gael i'r holl ddefnyddwyr. Rydym yn cydnabod bod chwarae'n hanfodol i blant a phobl ifanc wneud ffrindiau, dysgu amdanynt eu hunain a'r byd o'u hamgylch. Mae cyfarpar chwarae traddodiadol fel siglenni a chylchoedd troi ar gael yn ogystal ag ardaloedd ar gyfer plant hŷn, megis Cwrt Peli Tai-bach a rampiau sglefyrddio ar Lan y Môr a Chae James.

Mae rhestr o leoliadau chwarae yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gael isod. Mae'rr holl ardaloedd chwarae'n cael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

  • Pobl Ifanc Glan Môr Aberafan, Port Talbot
  • Glan Môr Aberafan, Port Talbot
  • Parc Sglefrio Glan Môr Aberafan, Port Talbot
  • Parc Baglan, Baglan
  • Bishop Mead, Gweunydd Baglan
  • Stryd Bowen, Castell-nedd
  • Parc y Bryn, Y Bryn
  • Coedtir Brynnau, Cimla
  • Cefn-yr-Allt, Aberdulais
  • Tir Comin Cimla, Cimla
  • Coed Hirwaun, Pentref Margam
  • Stryd y Groes, Felindre
  • Parc Crymlyn, Sgiwen
  • Heol Evans, Castell-nedd
  • Yr Orsaf Dân, Y Cymer
  • Ger-yr-Afon, Gwauncaegurwen
  • Clôs Goetre, Goetre
  • Antur Parc y Gnoll, Castell-nedd
  • Parc y Gnoll Iau, Castell-nedd
  • Teras Graham, Sgiwen
  • Heol Glynderwen, Waunceirch
  • Heol-y-Coed Cae, Cwmllynfell
  • Stryd Hopkin, Aberafan
  • Hunters Ridge, Tonna
  • Parc Jersey, Llansawel
  • Parc Brenin Siôr V, Pontardawe
  • Heol Llwyn, Cwmgors
  • Lôn Tan-yr-Allt, Alltwen
  • Teras Margaret, Blaengwynfi
  • Maes yr Hafod, Llangatwg
  • Mount Pleasant, Hillside
  • Cae James, Llansawel
  • Oakwood, Pont-rhyd-y-fen
  • Parc-y-Darren, Ystalyfera
  • Parc Newydd, Llansawel
  • Parc Siencyn Powell, Cwmafan
  • Parc-y-Werin, Gwauncaegurwen
  • Parc Ynysderw, Pontardawe
  • Pen-y-Dre, Castell-nedd
  • Parc Coffa Talbot, Port Talbot
  • Cwrt Peli Tai-bach, Tai-bach
  • Parc Tollborth, Margam
  • Parc Tudor, Croeserw
  • Canolfan Hamdden Cwm Nedd, Glyn-nedd
  • Gerddi Victoria, Castell-nedd
  • Parc Victoria, Llansawel
  • Parc Vivian, Sandfields
  • Sgwâr Wellfield, Castell-nedd
  • Cae Chwarae Rhodfa Western, Sandfields
  • Parc Ynyscorrwg, Glyncorrwg