Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Arolwg 2024

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn casglu barn trigolion ac ymwelwyr ar ddigwyddiad poblogaidd Ffair Castell-nedd, sy’n cael ei gynnal yn flynyddol yng Nghanol Tref Castell-nedd.

Arolwg trigolion ac ymwelwyr

Bydden ni’n croesawu barn trigolion Castell-nedd Port Talbot a’r rhai o’r tu allan i’r sir a fu’n ymweld â’r ffair eleni (2024). Mae modd cwblhau’r arolwg Trigolion ac Ymwelwyr trwy ddilyn y ddolen hon https://online1.snapsurveys.com/dhyxuw.

Arolwg o fusnesau

Rydyn ni hefyd yn awyddus iawn i glywed barn busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghanol Tref Castell-nedd. Gallwch gwblhau arolwg Busnesau Canol Tref Castell-nedd trwy ddilyn y ddolen hon https://online1.snapsurveys.com/qk1myc.

Canlyniadau'r arolwg

Bydd y Cyngor yn defnyddio canlyniadau’r arolygon hyn i ddeall mwy am welliannau neu newidiadau y gallwn ni eu gwneud i weithrediad Ffair Castell-nedd i’r dyfodol, fel bod y digwyddiad yn parhau i fod o fudd i drigolion lleol, ymwelwyr a busnesau.

Copi papur

Bydd copiau papur o'r arolwg Trigolion ac Ymwelwyr ar gael o Lyfrgelloedd Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe o ddydd Mawrth 8 Hydref 2024.

Bydd yr arolygon yn cau ddydd Gwener 1 Tachwedd 2024.