Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rhowch gynnig i'r Gymraeg!

Rhowch gynnig ar y Gymraeg!

Os hoffech chi ddysgu Cymraeg, gwella eich sgiliau iaith, magu eich plentyn yn ddwyieithog neu ddysgu mwy am y Gymraeg a gwasanaethau dwyieithog yng Nghastell-nedd Port Talbot, cliciwch ar y dolenni isod:

I gael rhagor o wybodaeth am ofal plant cyfrwng Cymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am ddysgu Cymraeg a dosbarthiadau sy’n agos atoch chi.

Ydych chi eisiau dysgu Cymraeg, gwella’ch sgiliau iaith, magu eich plentyn yn ddwyieithog, neu ddysgu am y Gymraeg a gwasanaethau dwyieithog? Dy Ganllaw i addysg Gymraeg.

Clwb Cwtsh

Hoffech chi siarad Cymraeg gartre gyda’ch plant?

Rhaglen ragflas wyth wythnos, yn llawn hwyl ac yn canolbwyntio ar siarad Cymraeg â phlant ifanc. Mae wedi’i bwriadu ar gyfer darpar rieni, rhieni/gofalwyr a’r teulu estynedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Cymraeg i Blant

Mae prosiect Cymraeg i Blant yn cynnig ystod eang o weithgareddau difyr, sydd ar gael am ddim, i’ch cefnogi chi a’ch plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg:

            • tylino babanod a yoga i fabanod
            • sesiynau i feithrin hyder yn y Gymraeg
            • sesiynau stori a chân
            • a llawer mwy . . .

Rhagor o wybodaeth am Cymraeg i Blant neu cysylltwch ag Abertawe/Castell-nedd Port Talbot

  • Leanne Walker - 07483149552 - leanne.walker@meithrin.cymru
  • Patsy Bracewell - 07988850832 - patsy.bracewell@meithrin.cymru

Facebook: Cymraeg i Blant Abertawe/CNPT