Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Y Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai

  1. Mae'r cyngor yn darparu gwasanaethau i gymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddynt. Er mwyn gwneud y gwaith hwn, mae'n rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny a chadw cofnod o'r gwasanaethau hynny.

  2. Drwy ddarparu'ch gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

  3. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni'i swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

    • Mae'r Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai (HRAS) yn darparu cymorth i breswylwyr gan gynnwys darparu cynlluniau Adnewyddu Tai Atgyweirio Grŵp a fesul Bloc, gwelliannau Effeithiolrwydd Ynni ac ECO Flex. (Rydym yn gwirio ceisiadau ar gyfer ECO Flex dan y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO4) i ganiatáu i breswylwyr gael gafael ar gyllid gan gwmnïau ynni, eu hasiantiaid neu eu gosodwyr).

      Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfeirio uniongyrchol at asiantaethau eraill a all gynnig rhagor o gyngor a/neu gymorth ariannol sydd ar gael o gynlluniau/brosiectau allanol, mae'r rhain yn cynnwys Gofal a Thrwsio, NYTH, Cymru Gynnes, Atal troseddau a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

  4. Fel Rheolwr Data, mae gofyn i'r cyngor o dan GDPR y DU roi gwybod i chi ar ba un o'r "Amodau Prosesu Data" yn Erthygl 6 GDPR y DU y mae'n dibynnu i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych, ein bod yn dibynnu ar yr amod(au) canlynol o Erthygl 6;

    • Mae'r prosesu data'n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr.

  5. Bydd y math o wybodaeth rydym yn ei chasglu i gefnogi'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n cynnwys:

    • Enw a chyfeiriad
    • Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys rhif ffôn symudol neu rif llinell dir a chyfeiriad e-bost
    • Dyddiad geni
    • Gwybodaeth ariannol (lle bo'n berthnasol) i ddangos tystiolaeth o gymhwysedd gan gynnwys; cyfriflenni cyfrif banc, cyfriflenni cyfrifon cynilo, tystiolaeth o enillion o fanylion hunanasesu busnes, manylion morgais neu gytundebau rhentu, hawl i fudd-dal a gwybodaeth ategol fel y bo'n berthnasol i bob maen prawf ar gyfer grant.
    • Biliau Cyfleustodau
    • Manylion pobl eraill sy'n ymwneud â'ch cais, gall hyn gynnwys eich partner ac aelodau eraill eich aelwyd.
    • Gwybodaeth am gyflwr iechyd sy'n ymwneud â chi/aelodau eraill o'ch aelwyd sy'n berthnasol i'ch cais

  6. Gallwn dderbyn/gasglu'r wybodaeth ganlynol gan adrannau eraill y cyngor a phartneriaid i gefnogi'ch cais:

      • Tystysgrifau perfformiad ynni (o'r gofrestr Tystysgrifau Perfformiad Ynni  genedlaethol neu gan Aseswr Ynni Domestig)
      • Data arolwg technegol gan gwmni 3ydd parti i gefnogi argymhellion ar gyfer mesurau ynni
      • Cadarnhad Treth y Cyngor eich bod yn byw yn eich eiddo
      • Gwirio gweithred eiddo ynghylch perchnogaeth eiddo lle bo'n berthnasol.
      • Gwybodaeth sy'n ymwneud â pha welliannau y gellir eu gwneud i'ch cartref, fel arbedion/gostyngiadau ariannol, arbedion ynni

    Er mwyn darparu'n gwasanaeth, mae'n bosib y bydd angen i ni rannu'ch data personol â thrydydd partïon, mae'r rhain yn cynnwys asiantaethau fel: Cymru Gynnes (Cwmni budd cymunedol) Llywodraeth Cymru, OFGEM ac unrhyw gontractwyr a benodir i wneud gwaith.

  7. Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y cyngor am hyd at 10 mlynedd, fodd bynnag bydd hyn yn ddibynnol ar y cymorth rydych yn ei dderbyn a'r amodau a osodir ar y cymorth hwnnw, a gallai felly gael ei chadw am gyfnod byrrach.

  8. Sylwer ei bod yn ofynnol i ni gasglu data personol penodol, ac os nad ydych yn darparu'r wybodaeth honno i ni, gall hyn olygu na fydd y cyngor yn gallu darparu gwasanaeth i chi.

  9. Fe'ch hysbyswn fod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 GDPR y DU, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

  10. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd holl waith prosesu'ch data gennym ni yn cael ei wneud yn Ardal Economaidd Ewropeaidd y Deyrnas Unedig neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd.

  11. Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

  12. Sylwer, o dan GDPR y DU, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:

    i. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
    ii. Yr hawl i gywiro data gwallus gan reolwr data.
    iii. Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    iv. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    v. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    vi. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).
    Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth

  13. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ein defnydd o'ch data personol, os ydych am gael mynediad ato neu os hoffech gyflwyno cŵyn am brosesu'ch data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r cyngor, Cyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

  14. Mae'n rhaid i ni ddweud wrthych os byddwch yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r cyngor, ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan y Comisiynydd