Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Cylch gorchwyl

1. Nod

Bydd Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot yn cael ei sefydlu i roi cyngor i Weinidogion ar sut i ddiogelu a thyfu’r amgylchedd economaidd ac i gefnogi a lliniaru’r effaith ar y gweithwyr, y busnesau a’r cymunedau hynny[1] y mae prosiect datgarboneiddio Tata Steel UK (TSUK) yn effeithio arnynt yn uniongyrchol.

Er mwyn meithrin gwytnwch a hyder ar gyfer y dyfodol, bydd y Bwrdd Pontio yn canolbwyntio ar ddau faes gweithgarwch cyffredinol:

  1. Cymorth ar unwaith i’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol; a
  2. Cynllun ar gyfer adfywio a thwf economaidd ar gyfer y degawd nesaf.
[1] Bydd yr union grwpiau a’r ardaloedd yr effeithir arnynt yn cael eu pennu gan yr is-grwpiau ar ddechrau eu gwaith.

2. Pwrpas y Bwrdd Pontio

Rôl y Bwrdd Pontio fydd cynghori. Bydd Llywodraeth y DU a TSUK yn darparu hyd at £100 miliwn ar gyfer ymyriadau yn yr ardal dan sylw, a bydd y Bwrdd Pontio yn gwneud argymhellion ynghylch lle gellid buddsoddi’r cyllid hwnnw orau. Bydd y cyllid gwerth £100 miliwn yn ychwanegol i’r sbardunau cymorth busnes, sgiliau a chyflogadwyedd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i helpu’r rheini yr effeithir arnynt. Bydd hefyd yn ychwanegol i’r cymorth y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei roi i bobl a busnesau yr effeithir arnynt.

Bydd y Bwrdd Pontio yn gwahodd is-grwpiau i gael eu sefydlu i ysgogi ac ymgysylltu â phartneriaid lleol, i gynghori ac i oruchwylio’r gwaith o gynhyrchu’r cynllun twf economaidd ac adfywio. Bydd y Bwrdd Pontio yn cael ei gefnogi gan Grŵp Llywio fydd yn cynnwys swyddogion. Gweler Rhannau 9 a 10 o’r Cylch Gorchwyl hwn am rolau a disgwyliadau mwy penodol y Bwrdd Pontio.

Nid yw goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r prosiect datgarboneiddio gwerth £1.25 biliwn, gan gynnwys adfer safleoedd, yn rhan o gylch gwaith y Bwrdd hwn. Mater yw hwn i’r Adran Busnes a Masnach (DBT) ei arwain ar wahân gyda TSUK. Bydd DBT a TSUK yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd Pontio, yn enwedig lle mae cysylltiadau i’w gwneud â mesurau cefnogi a chyfleoedd adfywio tymor hwy. 

3. Cyd-destun

Ar 15 Medi 2023, cyhoeddwyd buddsoddiad o £1.25 biliwn i ddatgarboneiddio gweithrediadau TSUK. Mae grant gan Lywodraeth y DU yn cyfrif am £500 miliwn o’r buddsoddiad hwnnw.

Mae TSUK yn cyflogi tua 7,900 o bobl yn y DU, ac mae 3,900 ohonynt wedi’u lleoli ar safle Port Talbot. Mae’r pedwar safle arall yng Nghymru (Llanwern, Trostre, Shotton a Chaerffili) yn cyflogi tua 2,500 o bobl. Mae tua 1,500 o weithwyr wedi’u lleoli ar safleoedd yn Lloegr. Mae gweithrediadau TSUK hefyd yn cefnogi cryn dipyn o swyddi yn eu cadwyn gyflenwi ledled y DU.  Mae’r ffurfweddiad presennol ar gyfer gwneud dur yn safle Port Talbot TSUK yn cefnogi dull traddodiadol y System Ffwrneisi Chwyth/Ocsigen Sylfaenol. Mae’r ffwrneisi chwyth yn dod tuag at ddiwedd eu cylch bywyd ac mae cyfanswm yr allyriadau carbon deuocsid ar draws Tata Steel yn gyfrifol am 22 y cant o’r allyriadau carbon deuocsid tiriogaethol o Gymru.[2]

Bydd y prosiect, os bydd yn cael ei gynnal, yn moderneiddio’r gwaith o gynhyrchu dur ar safle Port Talbot ar gyfer y dyfodol. Felly, bydd gwaith y Bwrdd Pontio yn canolbwyntio’n bennaf ar Bort Talbot. Mae angen i TSUK nawr weithio’n agos gydag Undebau a staff ar eu cynigion cyn dod i benderfyniad terfynol.

[2] Rhestrau Nwyon Tŷ Gwydr ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon: 1990-2021 - NAEI, UK.

4. Amseriad

Bydd y Bwrdd Pontio yn cyfarfod yn fisol i ddechrau, gan symud i bob chwarter pan fo hynny’n briodol. Bydd y Bwrdd Pontio’n adolygu’r Cylch Gorchwyl ar ôl dau fis i benderfynu a yw’r amlder a’r aelodaeth yn dal yn briodol.

5. Ysgrifenyddiaeth

Bydd ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Pontio a’r is-grwpiau yn cynnwys swyddogion o Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd cyfrifoldebau’r ysgrifenyddiaeth yn cynnwys dosbarthu agendâu cyn cyfarfodydd a darparu cofnod o’r penderfyniadau a’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn dilyn pob un o gyfarfodydd y Bwrdd Pontio. Bydd papurau, dadansoddiadau a thystiolaeth yn cael eu comisiynu gan yr ysgrifenyddiaeth yn ôl y gofyn.

6. Cyfathrebu

Bydd cadeiryddion y Bwrdd Pontio yn cyfathrebu ar y cyd, gan ofyn am gyngor gan eraill yn ôl yr angen. Bydd ‘Protocol Cyfathrebu’ a ‘Chynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid’ hefyd yn cael eu datblygu i bennu’r egwyddorion a’r dulliau ar gyfer cyfleu’r cynllun economaidd a gwaith y Bwrdd Pontio gyda chytundeb cadeiryddion ac aelodau’r Bwrdd Pontio.

7. Aelodaeth a Llywodraethu

Amlinellir aelodaeth y Bwrdd Pontio, gan gynnwys trefniadau cadeirio, yn yr Atodiad. Amlinellir strwythur llywodraethu’r Bwrdd yn Ffigur 1. Gall aelodau enwebu dirprwyon i fynychu mewn amgylchiadau eithriadol ond disgwylir i aelodau wneud pob ymdrech i fynychu holl gyfarfodydd y Bwrdd. Bydd y Bwrdd Pontio hefyd yn cytuno a ddylid gwahodd mynychwyr a rhanddeiliaid ychwanegol – a all ddarparu rhagor o arbenigedd a gwybodaeth – i ymuno â’r Bwrdd Pontio ar sail ad hoc yn dibynnu ar y materion sy’n cael eu trafod.

8. Gweithio gyda’n gilydd: partneriaeth gyfartal

Bydd aelodau’r Bwrdd Pontio yn:

  1. Gweithio mewn partneriaeth i rannu gwybodaeth, dealltwriaeth ac adnoddau i leihau dyblygu a sicrhau’r manteision gorau posibl. Cytunir ar brotocol rhannu gwybodaeth.
  2. Rhannu’r holl wybodaeth berthnasol, ynghylch safleoedd TSUK, y gweithlu ac unrhyw newyddion busnes mawr arall (e.e. buddsoddiadau newydd posibl).
  3. Sicrhau bod holl aelodau’r Bwrdd Pontio yn cael eu cynnwys a’u bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn effeithiol..
  4. Bydd y Bwrdd Pontio yn sefydlu ac yn cynnal ymddiriedaeth – o fewn y Bwrdd Pontio, gyda Llywodraethau a gyda’r gymuned.
  5. Bydd y Bwrdd Pontio yn dwyn ynghyd bartneriaid o bob rhan o lywodraethau, awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb ac yr effeithir arnynt, gan ganolbwyntio ar gydweithredu i gyflawni nodau ac amcanion y Bwrdd.

9. Rôl – Bwrdd Pontio (Gweler Ffigur 1)

  1. Arwain yr ymateb lleol strategol i gefnogi gweithwyr TSUK, contractwyr, cymunedau a busnesau y mae ailstrwythuro busnes TSUK yn effeithio arnynt.
  2. Parhau i ymgysylltu â TSUK ar lefel Weinidogol i sicrhau gweithgarwch cydgysylltiedig mewn perthynas â’r ymyriadau sy’n cefnogi gweithwyr, teuluoedd, cymunedau a busnesau y mae proses TSUK o bontio i ddulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur yn effeithio arnynt.
  3. Hwyluso cyflwyniadau i Adrannau eraill Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a’u hasiantaethau i sicrhau mynediad at gyngor polisi amserol a chymorth perthnasol.
  4. Hwyluso mynediad at ddulliau cymorth cenedlaethol a lleol drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau, REACT, Gyrfa Cymru, Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, Innovate UK, Banc Busnes Prydain, cymorth ehangach ar gyfer datgarboneiddio gan Lywodraeth y DU, ac eraill i ymateb i anghenion lleol.
  5. Ystyried argymhellion ar gyfer cymorth pellach a gyflwynir gan yr is-grwpiau.
  6. Monitro gwaith yr is-grwpiau er mwyn rhoi cymaint o gyfleoedd buddsoddi perthnasol â phosibl i’r ardal.
  7. Nodi’r adnoddau sydd ar gael a’r adnoddau posibl (cyllid a phobl) sy’n gallu ymrwymo i gefnogi’r Bwrdd Pontio, ei waith a thwf economaidd yr ardal yn y dyfodol.
  8. Nodi buddsoddiad newydd a phresennol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ddarparu neu gyflymu rhaglenni wedi’u targedu i liniaru’r effaith ar yr economi leol.
  9. Gwneud argymhellion ynghylch sut dylid darparu’r cyllid gwerth £100 miliwn i gefnogi mesurau lliniaru priodol ar gyfer colli swyddi a gweithgarwch adfywio tymor hwy.
  10. Monitro a gwerthuso’r allbynnau a’r canlyniadau fel y’u diffinnir gan y Bwrdd Pontio a chomisiynu gwaith yn ôl yr angen i feincnodi effaith economaidd.

10. Rôl – Is-grwpiau

Bydd yr is-grwpiau’n gyfrifol am ysgogi partneriaid lleol a chasglu gwybodaeth am amrywiaeth o raglenni cymorth, gan argymell camau gweithredu neu ymyriadau i’r Bwrdd Pontio. Mae Ffigur 1 yn yr Atodiad yn dangos strwythur y Bwrdd Pontio. Rydym yn cynnig bod yr is-grwpiau’n canolbwyntio ar y canlynol:

a) Pobl, Sgiliau a Busnes:

Cymorth ac ymateb ar unwaith er mwyn:

  • Cynnal dadansoddiad priodol o’r bylchau (e.e. swyddi sydd ar gael; prinder llefydd hyfforddi ac ati) a defnyddio data i wneud argymhellion.
  • Sicrhau’r cymorth priodol ar yr adeg iawn i weithwyr yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, gan gynnwys darparu ail-gyflogaeth, ail-hyfforddiant, cyngor ar fudd-daliadau, cyngor ar bensiynau ac ati.
  • Cefnogi’r rheini sydd am sefydlu eu busnes eu hunain
  • Cefnogi’r busnesau hynny yr effeithir arnynt yn y gadwyn gyflenwi.
  • Rhoi cymorth iechyd a lles i’r rheini yr effeithir arnynt
  • Gweithio gyda phartneriaid lleol a sefydliadau AU/AB i rannu rhaglenni sgiliau sy’n addas ar gyfer gweithwyr yr effeithir arnynt, gan nodi bylchau a datblygu rhaglenni sgiliau newydd lle mae bylchau mewn hyfforddiant

b) Lle ac Adfywio

Cymorth ac ymateb tymor canolig - tymor hir dros yr un i 10 mlynedd nesaf er mwyn:

  • Gweithio gyda phartneriaid lleol i fesur y sioc economaidd bosibl i’r ardal yn y tymor byr a’r tymor hir, gan gynnwys effeithiau’r gadwyn gyflenwi.
  • Gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu strategaeth economaidd gredadwy i gefnogi proses bontio Port Talbot dros y degawd nesaf.
  • Datblygu a bwrw ymlaen ag achosion busnes i gael gafael ar y cyllid gwerth £100 miliwn.
  • Ystyried dulliau cymorth ehangach, gan gynnwys mesurau datgarboneiddio ehangach Llywodraeth y DU a fydd yn hwyluso proses bontio’r ardal.
  • Ceisio sicrhau buddsoddiad amgen er mwyn o leiaf ddisodli gwerth economaidd y swyddi a gollir a chefnogi cyfleoedd busnes newydd.
  • Pennu sut gellir ail-bwrpasu daliadau tir ar ddiwedd y datgomisiynu i gefnogi’r gwaith o adfywio safle Tata.
  • Cysoni a chysylltu cynigion ag amcanion strategol ehangach Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Cynigir bod gan bob is-grŵp aelodau sy’n bartneriaid allweddol i’w pennu’n lleol mewn trafodaeth gyda’r Bwrdd Pontio. Bydd yr is-grwpiau hyn yn cael eu hadolygu ar ôl dau fis oherwydd efallai y bydd rhai elfennau yn gofyn am sefydlu tasgluoedd ychwanegol.

Atodiad: Aelodau’r a Mynychwyr Bwrdd Pontio

Enw Sefydliad Rôl ar y Bwrdd Pontio

Y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Llywodraeth y DU Cadeirydd

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Llywodraeth Cymru Dirprwy Gadeirydd

Y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

Llywodraeth y DU Dirprwy Gadeirydd

Nusrat Ghani AS, Gweinidog Gwladol dros yr Uned Diogelwch Buddsoddiadau, a’r Gweinidog dros Ddiwydiant a Diogelwch Economaidd

Llywodraeth y DU Aelod

Y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd y Cyngor

Cyngor Castell-nedd Port Talbot Aelod
Cynrychiolwyr Tata Steel Tata Steel Aelod
Cynrychiolwyr Undeb Community, Unite a GMB Mynychwyr

Stephen Kinnock, AS dros Aberafan

Aelod Seneddol Lleol Aelod

Cynrychiolydd/Cynrychiolwyr Busnes / Cymunedol i’w cadarnhau yn y cyfarfod cyntaf

I'w cadarnhau Aelod(au)

 

Strwythur y Bwrdd Pontio a’r is-grwpiau Strwythur y Bwrdd Pontio a’r is-grwpiau