Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Coronafeirws - Cymorth i blant a phobl ifanc

Manylion y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn ystod Coronafeirws (COVID-19) i helpu i reoli bywyd dan gyfyngiadau symud ac yn ystod y pandemig. Mae COVID-19 yn effeithio ar bob un ohonom mewn amryw o ffyrdd, ond er y bu'n rhaid i wasanaethau newid eu ffocws efallai, rydym am i blant a phobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol wybod bod cefnogaeth ar gael.

Fel rhan o'r ymgyrch #ArosMewnCysylltiad i’r holl bobl ifanc sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'r gwe-dudalennau hyn yn amlygu'r amrywiaeth lawn o wasanaethau emosiynol a lles, llinellau cymorth a chefnogaeth sydd ar gael i ddiwallu pa angen bynnag sy'n codi, neu dawelu unrhyw bryderon.

Beth bynnag yw'r cwestiwn, waeth pa mor wirion neu ddibwys ydyw i rai, maent ar gael i helpu plant a phobl ifanc ddelio â'r hyn sy'n bwysig iddynt a'r hyn sy'n digwydd iddynt ar hyn o bryd.

Os ydych chi'n pryderu am ddiogelwch plentyn neu berson ifanc, mae gwasanaethau ar gael drwy gydol y pandemig. Ein gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt yw'r lle cyntaf i gael cymorth cynnar a chymorth y gwasanaethau cymdeithasol.

Gall unrhyw un gysylltu â'r tîm Un Pwynt Cyswllt i gael sgwrs a chael help.

Bydd gweithiwr cymdeithasol cymwys yn gwrando arnoch chi ac yn dweud wrthych ba wybodaeth, cyngor neu gymorth y gellir eu darparu a phwy all eich helpu o'r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, troseddau ieuenctid, addysg, ymyrryd ac atal cynnar, yr heddlu a'r trydydd sector.  Bydd yr hyn y gallwn ei drafod â chi ynglŷn â phlentyn penodol yn dibynnu ar y rheswm dros eich galwad ffôn a'r amgylchiadau.

Os ydych yn teimlo'n anniogel neu'n bryderus, gallwch ffonio'r tîm Un Pwynt Cyswllt ar:

SPOC Team
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

Os oes plentyn mewn perygl dybryd o niwed ffoniwch 999

  • Meic yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru, a gall eich helpu i gael gwybod am yr hyn sy'n digwydd yn eich ardal leol neu i ymdrin â sefyllfa anodd. Mae manylion ar gael yn https://www.meiccymru.org/cym/
  • Pelican Hyrwyddo Llythrennedd Emosiynol mewn Plant ag Anghenion Ychwanegol
  • Mae Platform 4YP yn elusen iechyd meddwl sy'n seiliedig ar gryfderau gyda thîm o hyfforddwyr sy'n barod i gefnogi pobl ifanc 13 - 16 oed sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Y nod yw cefnogi pobl ifanc i adeiladu strategaethau lles drostynt eu hunain https://platfform.org/join-platfform4yp/
  • TidyMinds Os ydych chi'n berson ifanc sy'n byw yn Abertawe neu Castell-nedd Port Talbot, rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddeall sut rydych chi'n teimlo, a dod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth.
  • Gallwch siarad â rhywun ar-lein drwy linell gymorth NSPCC, lle gall oedolion cyfeillgar eich cefnogi chi i roi gwybod eich bod yn teimlo'n anniogel.
  • Mae gwybodaeth ddefnyddiol i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn ystod y cyfnod hwn hefyd ar gael ar wefan Young Minds, sef elusen iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
  • Gall plant a phobl ifanc gyrchu cefnogaeth uniongyrchol drwy'r Samariaid - ffoniwch unrhyw bryd, am ddim ac o unrhyw ffôn: 116 123
  • The Mix - anfonwch neges destun i THEMIX: 85258
  • Gall Childline wrando ar eich pryderon a'ch helpu i ymdrin â nhw

Cefnogi lles seicolegol plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ystod y newidiadau a ddaeth yn sgil Coronavirus.

Bydd y gwasanaeth Seicoleg Addysg yn Castell-nedd Port Talbot yn parhau i gefnogi teuluoedd yn yr amseroedd heriol hyn. Maent ar gael i roi cyngor i deuluoedd a gofalwyr plant yn eu hymateb i ddiwallu anghenion dysgu a lles eu plant trwy'r ysgol.

Rydym yn cydnabod y bydd y sefyllfa ysgol bresennol yn heriol ac y gall y pryderon ynghylch Covid-19 gynyddu pryder plant a theuluoedd. Canllawiau Rhieni ar gyfer Seicolegwyr Addysg Arweiniad rhieni

Mae Gwasanaeth Cynhwysiad CNPT yn parhau i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn ystod y cyfnodau heriol hyn. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys nifer o dimau sy'n cefnogi'r Awdurdod Lleol wrth fynd i'r afael ag anghenion dysgwyr diamddiffyn, yn enwedig y rheini y mae ganddynt anghenion dysgu ychwanegol a'r rheini y mae angen cefnogaeth o ran lles arnynt. Dyma nhw:

  • Cefnogaeth i Ddysgu
  • Gwasanaeth Cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gwasanaeth Seicoleg Addysg
  • Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion
  • Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad, gan gynnwys Cynnydd
  • Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd

Mae hefyd dudalen Gwasanaeth Cynhwysiad CNPT ar Facebook, sy'n cynnwys awgrymiadau defnyddiol iawn ar gyfer ysgolion a theuluoedd. Chwiliwch am Wasanaeth Cynhwysiad Addysg CNPT a 'hoffwch' y dudalen i'w dilyn.

Mae gwe-dudalen Gwasanaeth Cynhwysiad CNPT ar gael hefyd. Ewch i www.npt.gov.uk a chwiliwch am Ysgolion a Dysgu a Chynhwysiad Disgyblion.

Yn ngolau effaith COVID-19 ar sefyllfa bresennol ysgolion a'r pryderon y gallai hyn eu hachosi, mae Gwasanaeth Cynhwysiad CNPT yn cynnig llinell gymorth ymgynghori dros y ffôn a allai eich helpu i'ch cefnogi chi a'ch plentyn gartref.

Gall eich pryderon fod yn gysylltiedig â'r ysgol neu fywyd teuluol. I ddechrau byddwch yn derbyn cynnig am ymgynghoriad 30 munud dros y ffôn gydag aelod mwyaf addas y gwasanaeth cynhwysiad, sy'n dibynnu ar eich anghenion, ac o bosib byddwch yn cael cynnig ymgynghoriad 30 munud dilynol dros y ffôn yn hwyrach. Cynhelir y rhain o fewn oriau gwaith arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gellir dod o hyd i'r ffurflen er mwyn cyrchu'r gwasanaeth yma.

Mae gan y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion Wasanaeth Galw'n Ôl i oedolion ar gyfer ysgolion cynradd. Diben y gwasanaeth hwn yw cefnogi rhieni wrth iddynt gefnogi lles emosiynol eu plant yn ystod y cyfnod hwn. Byddwch yn siarad â chwnselydd yr ysgol a fydd yn gallu'ch cyfeirio o ran cefnogi lles emosiynol eich plentyn.

Am ragor o wybodaeth ac i ofyn am alwad yn ôl, ewch i: https://www.npt.gov.uk/23236

Mae'r Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion hefyd bellach yn gallu ymestyn ein gwasanaeth cwnsela dros y ffôn i gleientiaid disgyblion ysgolion uwchradd newydd. Gall disgyblion ysgolion uwchradd gyfeirio'u hunain.

Call pandemig COVID-19, a hunanynysu yn benodol, effeithio ar iechyd meddwl.

Bywyd Actif- fideo hunangymorth ar-lein am ddim i unrhyw un 16+ sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl

Mae ARA (Asiantaeth Adfer Caethiwed), mewn partneriaeth â GamCare yn cyflwyno'r Rhaglen Atal Niwed Gamblo Pobl Ifanc. Nod y rhaglen genedlaethol hon yw cyflwyno gweithdai i bobl ifanc 11-19 oed a'u cefnogwyr ar bwnc gamblo a chodi ymwybyddiaeth o bobl ifanc a gamblo problemus. Mae gamblo problemus yn cynyddu yn y grŵp oedran hwn gydag ystadegau'n dangos bod 55000 (1.7%) o bobl ifanc 11-19 oed yn cael eu dosbarthu fel gamblwyr problemus, gyda 2.7% arall mewn perygl. Yn ogystal, gall ARA gynnig cwnsela cyfrinachol am ddim i bobl ifanc 11-19 oed.

Mae ARA (Asiantaeth Adfer Caethiwed)
(0330) 1340286 (0330) 1340286 voice +443301340286

I archebu lle gweithdy am ddim, cysylltwch RobertParker@Recovery4all.co.uk

Mae gan Barnardo’s linell gymorth / gwasanaeth Covid-19 o’r enw Boloh. Maent yn cydnabod bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar YP / teuluoedd o gefndiroedd BAME.

Mae'r llinell gymorth ar gael rhwng 1-8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer YP rhwng 11-25 oed a'u rhieni / gofalwyr. Maent hefyd yn darparu cefnogaeth ymarferol / emosiynol dros y ffôn / gwe-gamera ac ymlaen atgyfeiriadau at gymorth cymunedol arbenigol. Mae yna hefyd dîm o seicotherapyddion sy'n gallu darparu therapi (6 sesiwn) ar gyfer YP a rhieni / gofalwyr.

Gellir darparu gwasanaeth mewn gwahanol ieithoedd Saesneg, Wrdw, Hindi a Phwnjabi a bydd hyn yn ehangu i Amhareg, Tigrinya a Mirpuri.

CAMHS - Os oes angen ychydig o help ychwanegol ar blant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn, mae cefnogaeth ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).

Mae COVID-19 wedi arwain at newidiadau yn y ffordd y mae CAHMS yn darparu ei wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc ar draws Castell-nedd Port Talbot. Bydd ymgynghoriadau dros y ffôn yn cymryd lle y rhan fwyaf o apwyntiadau clinig.

Gwellwyd y ffordd o ddefnyddio cefnogaeth CAMHS drwy ddarparu Un Pwynt Cyswllt a llinell atgyfeirio dros y ffôn. Gwasanaeth agored yw hwn ar gyfer plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, ac mae'n darparu cyngor a chefnogaeth ac yn blaenoriaethu atgyfeiriadau dros y ffôn rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ffoniwch 01639 862744.

Os oes pryderon brys am iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc, gallwch gysylltu â Thîm Argyfyngau CAMHS drwy'r llinell gymorth Un Pwynt Cyswllt ac Atgyfeiriadau CAMHS yn 01639 862744 o 9.00am tan 5.00pm bob dydd Llun i ddydd Gwener. Y tu hwnt i'r oriau hyn ffoniwch y GIG ar 111.

CAHMS
(01639) 862744 (01639) 862744 voice +441639862744

Golau Dydd - canllaw ar-lein am ddim i gefnogi pobl trwy bryder a phryder

Mae Parent Talk yn cynnig gwybodaeth a chyngor ymarferol am ddim i rieni plant 0-19 oed gan Gweithredu dros Blant. Mae'r gwasanaeth sgwrsio un-i-un cyfrinachol ar-lein yn cysylltu rheini â hyfforddwr rhianta am gyngor ymarferol heb feirniadaeth a chefnogaeth emosiynol ac mae'r wefan yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch magu plant.

Bethan Watts yw’r arweinydd tîm rhaglenni Gweithredu dros Blant ar gyfer Parent Talk yng Nghymru ac mae'n aelod o dîm a all ymateb yn Gymraeg.  Meddai, "Mae hwn yn wasanaeth mor bwysig a blaengar i rieni a theuluoedd.  Mae'r pandemig wedi creu pob math o bwysau a gofynion ychwanegol a fydd yn cynyddu wrth i'r Nadolig nesáu, felly mae'r gallu i ddarparu'r gwasanaeth hwn yn Gymraeg yn bwysig iawn. Bydd yn galluogi rhieni sy'n siarad Cymraeg i fynegi eu hunain yn iawn ac mewn ffordd fwy cyfforddus ac yn ein helpu ni i ddarparu canlyniadau gwell i deuluoedd.

"Gan fod angen arweiniad ar gynifer o famau a thadau, mae angen gwasanaeth fel Parent Talk nawr yn fwy nag erioed. Mae ein hyfforddwyr rhianta ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gan rieni - mawr neu fach. Gall unrhyw un sydd am gael cymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn ac sydd am wneud hynny drwy'r Gymraeg fynd i parent-talk.org.uk/wales."

  • Meic Cymru - Meic yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Bydd Meic yn gwrando arnoch, hyd yn oed pan na fydd neb arall yn gwneud - ni fydd Meic yn eich barnu a bydd yn helpu drwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud newid. 
Meic Cymru
(0808) 8023456 (0808) 8023456 voice +448088023456
  • Childline - Mae Childline yn wasanaeth a ddarperir gan yr NSPCC i helpu unrhyw un dan 19 oed yn y DU gydag unrhyw broblem y maent yn mynd drwyddi. Gallwch siarad â nhw am unrhyw beth, boed hwnnw'n fawr neu'n fach, ac mae eu cwnselwyr hyfforddedig yno I helpu a chefnogi plant a phobl ifanc. 
Childline
(0800) 1111 (0800) 1111 voice +448001111
  • Young Minds - Young Minds yw prif elusen y DU sy'n brwydro dros iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar eu gwefan
Young Minds
(0800) 0232033 (0800) 0232033 voice +448000232033
  • Cwis Fideos Selffi Cymrwch ychydig o amser i chi eich hun -Mae Prosiect Fi, gan Platfform4YP, yn ofod ar-lein sy’n eich cefnogi chi gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles bob dydd. Mae’n rhywle ble gallwch adlewyrchu ar eich teimladau, darllen awgrymiadau ar edrych ar ôl eich lles, a dod o hyd i wybodaeth ar ble i fynd i gael mwy o help os oes angen. Mae gennym ystod o adnoddau (i’ch helpu chi i oroesi’r adegau hynny pan fydd angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch chi. Gallwch weithio drwy bopeth ar eich cyflymder eich hun. Mae eich lles yn bwysig – felly cymrwch ychydig o amser i chi eich hun.

  • Tidy Minds - Cyngor am iechyd meddwl i bobl ifanc. Gwefan newydd yw 'Tidy Minds' - fe'i lansiwyd yn ddiweddar ar gyfer pobl ifanc sy'n byw yn Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot. Mae'r wefan yn llawn gwybodaeth i'ch helpu i ddeall y ffordd rydych chi'n teimlo, a dod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth iawn.
  • Kooth - gwasanaeth cwnsela rhithwir. Mae gwasanaeth cwnsela rhithwir newydd ar-lein i bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe bellach ar gael. Mae Kooth, sydd am ddim, yn ffordd groesawgar a chyfrinachol I bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed gael mynediad at gefnogaeth lles emosiynol ac ymyrryd yn gynnar mewn iechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth yn cynnig sesiynau cwnsela un i un dienw gyda chwnselwyr hyfforddedig, cymwys a phrofiadol ac ymarferwyr lles emosiynol
  • Canllaw ar hunanladdiad a hunan-niwed wedi'i lansio i gefnogi ysgolion
  • Hwb
  • Pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc - Hwyliau isel
  • Samariaid - Dod o hyd i’ch ffordd - Canllaw i unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi
  • Galwch 111 dewiswch opsiwn 2 - Mae cymorth iechyd meddwl 24/7 bellach ar gael dros y ffôn ym Mae Abertawe. Gall pobl sy'n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd angen cymorth brys gyda materion iechyd meddwl nawr ffonio tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol am ddim, ddydd neu nos. Mae ffonio 111 a dewis opsiwn 2 yn rhoi galwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â thîm o 20 o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.

Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen i chi siarad â rhywun, gallwch wneud hynny ar-lein neu dros y ffôn. Mae siarad â phobl sy'n gwneud i chi deimlo'n ddiogel ac y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw yn bwysig.

Siaradwch ag oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo gartref, os gallwch wneud hynny. Os nad yw hyn yn bosib, peidiwch â phoeni. Mae llawer o fannau diogel lle gallwch siarad ag oedolion y gellir ymddiried ynddynt ar-lein neu dros y ffôn - eu swydd yw sicrhau bod help ar gael i blant a phobl ifanc y mae angen help arnynt. Does dim angen i chi deimlo'n nerfus, mae angen i bawb siarad â rhywun weithiau, a gofyn cwestiynau a chael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom i deimlo'n hapus, yn iach ac yn ddiogel.

Er ein bod dan gyfyngiadau symud ar hyn o bryd, mae digon o ffyrdd o sgwrsio, gofyn cwestiynau a chael cyngor. Rydym yma i'ch helpu gyda'ch pryderon a'ch cwestiynau - does dim problem yn rhy fach neu'n rhy fawr a byddwn bob amser yn ceisio'ch helpu.

Mae nifer o wasanaethau ar gael o hyd i sicrhau y gall pobl ifanc sy'n defnyddio'n gwasanaethau fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel, a chael yr hyn y mae ei angen arnynt gennym. Gallwch gysylltu â ni o hyd i gael yr help sydd ei angen. Mae gwybodaeth am sut i gysylltu â gwasanaethau'r cyngor a'r hyn sydd ar gael ac sy'n hygyrch ar gael yn www.NPT.gov.uk

Cymerwch gip ar Ysgol Rithwir Castell-nedd Port Talbot i gael gwybodaeth a all eich helpu o ran pethau i'w gwneud, help gydag addysgu ac astudio gartref a gwybodaeth bellach am sut i gael rhagor o gefnogaeth.

Mae'r tudalennau ysgolion yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, ac yn cynnwys popeth, o wybodaeth am gefnogaeth i syniadau ar gyfer pethau i'w gwneud.

Hefyd, gallwch weld isod fanylion y Gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd/Ataliaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, a'r mathau o gefnogaeth maent yn eu darparu ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys:

  • Teuluoedd yn Gyntaf
  • Plant a Theuluoedd - yn darparu dolenni i gyngor rhianta ac ymwybyddiaeth ofalgar
Plant a Theuluoedd
  • Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot
  • NPTCVS- Mae CVS Castell-nedd Port Talbot yn bodoli i gefnogi, hyrwyddo a datblygu cyfranogiad sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac unigolion yn y sector gwirfoddol yn Castell-nedd Port Talbot. Fel rhan o strwythur Cymorth Trydydd Sector Cymru, maent yn cynnig cefnogaeth mewn gwirfoddoli, cyllid cynaliadwy, llywodraethu da ac ymgysylltu a dylanwadu. P'un a ydych chi'n unigolyn sy'n chwilio am gefnogaeth eich hun, yn wirfoddolwr posib sydd eisiau helpu neu'n grŵp sydd am sefydlu i ddarparu gwasanaethau yn y gymuned, bydd CVS Castell-nedd Port Talbot yn gallu helpu
  • Cymorth i Fyfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot - Ar ôl i'r holl gyswllt myfyrwyr wyneb yn wyneb ddod i ben ar 20 Mawrth 2020 gellir defnyddio'r ddolen ganlynol i gael mynediad at wasanaethau studentsupport@nptgroup.ac.uk
  • Thrive (Women's Aid)"Mae Thrive Women's Aid yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol arbenigol i fenywod, plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rydym yn cefnogi teuluoedd i ailadeiladu eu bywydau ac adennill eu hannibyniaeth mewn cymunedau diogel, ac yn credu bod gan bawb yr hawl i ddyfodol heb ofn. Rydym yn ceisio annog, galluogi a grymuso'r rheini sydd wedi profi amgylchiadau heriol, ac yn angerddol ac yn ymroddedig yn ein hymagwedd at sicrhau y daw'r cylchred cam-drin i ben am byth." Am unrhyw ymholiadau ffoniwch
  • NSPCC Macro alias: nptContacthaglen gwaith grŵp i blant a phobl ifanc rhwng 9 a 13 oed yw NSPCC In Control, ac mae'n ceisio helpu i'w cadw'n ddiogel ac atal cam-drin rhywiol ar-lein. Mae'n para hyd at 8 wythnos a gellir ei ddarparu ar sail un i un pan fydd angen cefnogaeth ychwanegol ar blentyn neu berson ifanc. Bydd ymarferwyr yn cefnogi rhieni ac yn eu helpu i ddeall y gwaith sy'n cael ei gynnig i'w plant. Mae Protect and Respect yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed i gynnig cefnogaeth i blant y mae angen cefnogaeth arnynt i ddysgu am berthnasoedd iach neu sydd efallai'n cael eu hecsbloetio. Rydym yn rhoi cefnogaeth wedi'i theilwra i'r plentyn a'i riant neu ofalwr. Os oes gennych ymholiad ffoniwch 01792 456545 neu ewch i https://www.nspcc.org.uk/keeping-children-safe/our-services/nspcc-service-centres/ 
NSPCC
(01792) 456545 (01792) 456545 voice +441792456545
  • Barnardos - Gall gwasanaeth Beyond the Blue gynnig ystod o ymyriadau cefnogol a therapiwtig sy'n diwallu anghenion emosiynol a lles plant, pobl ifanc a'u rhieni. Bydd y gefnogaeth a ddarperir yn cael ei theilwra i bob teulu gan gynllun cymorth a ddatblygir mewn partneriaeth â'r teulu. Rydym yn gweithio gyda theuluoedd a'u plant hyd at 25 oed. Ymholi galwad neu e-bost:
Barnardos
(01639) 642215 (01639) 642215 voice +441639642215
  • Gwasanaeth Nyrsio Cymunedol i Blant
  • Childline - yn cynnig cwnsela 1: 2: 1 rhwng 9am - 10.30pm ar gyfer plant a phobl ifanc â phryder uchel ac ar gyfer teuluoedd sy'n profi cam-drin domestig
Childline
(01639) 862057 (01639) 862057 voice +441639862057

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu pecyn cymorth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 mlwydd oed. Yma fe welwch chwe rhestr chwarae i'ch cyfeirio at amrywiaeth eang o adnoddau ar-lein i'ch helpu drwy'r cyfnod hwn a thu hwnt. Ym mhob un o'r rhestrau chwarae, fe welwch wefannau hunangymorth, apiau, llinellau cymorth, a mwy sydd yma i gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles.