Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr 2020-21 Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai

Rhagair

Mae wedi bod yn flwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae pob un ohonom, mewn rhyw ffordd, wedi cael ein heffeithio gan y pandemig. Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol – yn gleientiaid, cleifion a staff - wedi cael eu gwthio i’r eithaf, ond rydym yn araf ddod allan i fyd newydd ar ôl y pandemig.

Er i’r holl waith llai brys/critigol fel rhaglenni newid, ymgyngoriadau a sesiynau hyfforddi staff gael eu hatal, buan iawn yr addasom i ffyrdd newydd o weithio. Cafodd cyfarfodydd wyneb yn wyneb eu canslo i gyfyngu ar ledaenu’r feirws, ond rydym wedi ymdrechu i sicrhau na chafodd y rheiny y mae angen cymorth arnynt eu gadael hebddo.

Bu’n rhaid i ni addasu’n gyflym i ffyrdd newydd o weithio. Cafodd llawer o staff eu hadleoli. Darparodd Gwasanaeth Diogel ac Iach Castell-nedd Port Talbot (CNPT) gymorth gyda siopa bwyd, casglu meddyginiaeth presgripsiwn, negeseuau bob dydd a gwiriadau lles, tra’n bod ni wedi gweithio’n agos gyda sefydliadau partner ar draws y sector iechyd, y sector cyhoeddus, annibynnol a gwirfoddol.

Ac ar y cyd â Llywodraeth Cymru, rydym wedi dosbarthu dros 10 miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol i ddarparwyr gofal cymdeithasol ledled CNPT.

Ar yr adeg hon, hoffwn dalu teyrnged hefyd i’r ymrwymiad a ddangoswyd gan staff ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac yn wir, y Cyngor ehangach.

Mae Arweinydd a Phrif Weithredwr y Cyngor, gyda chefnogaeth Aelodau ac uwch reolwyr, wedi sicrhau bod gwaith y Gyfarwyddiaeth i gefnogi’r plant, pobl ifanc, oedolion a phobl hŷn mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wedi parhau trwy gydol y cyfnod anodd hwn.

Mae hwn yn amser i fyfyrio, ond yn amser hefyd pan mae’n rhaid i ni edrych i’r dyfodol. Rhaid i ofal cymdeithasol fod yn fwy hyblyg, gallu addasu i newid, a bod yn gynaliadwy.

Er ein bod yn parhau i wynebu ansicrwydd, rwy’n gwybod y byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i helpu sicrhau ein bod yn cadw pobl agored i niwed mor ddiogel ag y bo modd.

Andrew Jarrett

Andrew Jarrett
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Iechyd a Thai Cyngor Castell-Nedd Port Talbot

Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr

Y llynedd, roedd cynllun gwasanaethau a gofal gan 2,675 o oedolion, tra bod nifer y rhai 65+ oed a oedd yn derbyn gwasanaeth wedi cynyddu eto i 2,037.

Rydym wedi cynnal nifer y Cydlynwyr Ardaloedd Lleol ac wedi’u gweld nhw’n dod ymhellach eto i’r blaen yn ystod y pandemig wrth ddatblygu ein cymunedau a helpu lleihau ynysigrwydd cymdeithasol.

Credwn yn gryf y bodlonir anghenion plant orau gan eu teuluoedd eu hunain os gellir cefnogi hyn yn ddiogel. Rwy’n falch o adrodd fod nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal wedi gostwng eto, sef 299 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2020, i lawr o 309 yn y flwyddyn flaenorol.

Mae gan ofalwyr di-dâl rôl amhrisiadwy nad yw’n cael ei chydnabod yn aml. Er mwyn helpu sicrhau bod gofalwyr yn cael eu hadnabod, eu cefnogi a bod ganddynt fywyd ochr yn ochr â gofalu, rydym wedi datblygu strategaeth gofalwyr lleol a fydd yn helpu sicrhau ein bod yn bodloni blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr. Rydym hefyd wedi cydweithio i ddatblygu strategaeth gofalwyr ranbarthol Gorllewin Morgannwg, ac wedi cydymffurfio â chanllawiau i ofalwyr ar gynllunio gweithredu at argyfyngau. Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi golygu nad oedd modd ymgymryd ag asesiadau gofalwyr wyneb yn wyneb, felly gostyngodd y nifer a gwblhawyd i 167 o 289 y flwyddyn flaenorol gan yr ymgymerwyd ag asesiadau dros y ffôn neu drwy Zoom.

Yn ystod y pandemig, gofynnom am wirfoddolwyr ar draws y Gwasanaethau i Oedolion i ddarparu cymorth i gartrefi gofal pobl hŷn a oedd yn cael anhawster gyda lefelau staffio oherwydd effaith Covid.

Bu gwirfoddolwyr yn gweithio mewn llety dros dro a sefydlwyd yn newydd i roi llety i bobl ddigartref yn ystod argyfwng y pandemig, tra bod rhai eraill wedi helpu gyda’r Gwasanaeth Diogel ac Iach yn ymgymryd â galwadau lles ledled Castell-nedd Port Talbot.

Dim ond rhan o’r stori y mae ystadegau’n ei hadrodd, ac mae pob un ohonom wedi cael ein cyfran dda o ddiweddariadau, siartiau a briffiau newyddion dyddiol.

Mae’r canlynol yn rhoi gwybodaeth fwy pendant – ynglŷn â beth wnaeth y Gyfarwyddiaeth ei gyflawni yn y flwyddyn ddiwethaf er gwaethaf, neu efallai oherwydd digwyddiadau – ac mae’n amlinellu’r hyn a welwn fel blaenoriaethau uniongyrchol i ni wrth i ni goleddu strategaeth y Cyngor, Adfer, Ailosod, Adnewyddu.

Sut mae Pobl yn Llywio ein Gwasanaethau?

Mae hyn yn ymwneud â sut y canfyddwn farn pobl am ein gwasanaethau fel y gallwn adeiladu ar arfer da.

Golygai’r pandemig y bu’n rhaid i ni wneud pethau’n wahanol, gyda gwasanaethau digidol a gwasanaethau ar-lein yn chwarae mwy o ran. Ac fe wnaethom ymrwymo i’r canllawiau i ofalwyr ar gynllunio gweithredu at argyfyngau.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae gwefan y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer plant ac oedolion wedi cael ei hailwampio i sicrhau ei bod hi’n hawdd mynd at y deunydd a’i fod yn ddiweddar. Fe wnaethom ddatblygu llwyfan digidol ar-lein i gipio llais y plentyn, gofalwyr a rhieni fel bod pawb yn cael y cyfle i gyfranogi mewn adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal yn ystod y pandemig. Lluniwyd deunydd Ymgynghori ar-lein ar gyfer partneriaid mewnol ac allanol i gefnogi datblygu’r ddarpariaeth gwasanaethau yn barhaus.

Mae bron i 200 o unigolion wedi cael cymorth trwy Negeseuon Testun/Galwadau yn ystod y flwyddyn i sicrhau cynnal cyswllt gydag unigolion y nodwyd eu bod yn wynebu risg yn ystod y pandemig. Rydym wedi cadw cysylltiad â sefydliadau’r trydydd sector ac wedi mynychu sesiynau ffocws a gweithgareddau hwyl drwy Teams /Zoom i gadw cysylltiad â phobl yn ystod cyfnodau ynysu/cyfnodau clo.

Hefyd, fe wnaethom ddefnyddio’r amser i ddiweddaru Cyfeiriadur Dewis o sefydliadau sy’n cynnig gofal a chymorth. Fel rhan o hyn, gweithiom gyda Dewis Cymru i ddatblygu ‘golwg clwstwr’ sy’n galluogi Gweithwyr Cymdeithasol i fynd at ddeunydd sy’n berthnasol i’r meysydd y maent yn gweithio ynddynt, a hyn yw cam olaf cwblhau.

Rydym wedi gweithio gyda’r Rhwydwaith Cydgynhyrchu Rhanbarthol sydd wedi helpu i ddatblygu’r Datganiad mewnol o Fwriad i Gydgynhyrchu er mwyn sicrhau bod cydgynhyrchu yn cael ei ymgorffori mewn gwaith cyfredol a gwaith yn y dyfodol. Hwn yw cam nesaf ein taith Cydgynhyrchu, ac rydym yn cydnabod y cymer amser i gydgynhyrchu’n llwyddiannus ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ond trwy sicrhau perthynas gyfartal lle mae pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, a’r rheiny sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau, yn rhannu’r pŵer i gynllunio a chyflenwi cymorth gyda’i gilydd, mae gan bawb gyfraniad hanfodol i’w wneud i wella ansawdd bywyd i unigolion a chymunedau.

Drwy’r pandemig, gweithiom gyda Platfform 4YP i gyflwyno sesiynau lles ar-lein yn wythnosol i bobl ifanc 13-16 oed, yn ogystal â gweithgareddau awyr agored pan oedd y canllawiau’n caniatáu hynny.

Roedd rhaglenni eraill yn cynnwys sesiynau wythnosol YoVo (Your Voice Matters) ar gyfer plant oedran cynradd ar Zoom, sesiynau syrcas ‘Circus Eruption’ yn cael eu cynnal ar-lein gydag chyfarpar yn cael ei bostio i deuluoedd, a’r prosiect ‘Comfort Mugs’ i estyn allan i bobl ifanc a oedd yn teimlo’n unig yn ystod y pandemig, lle’r oedd mygiau’n cael eu haddurno gyda negeseuon calonogol, wedi’u llenwi â siocledi a danteithion a’u postio allan at blant.

Cynhaliom gyswllt rheolaidd â gofalwyr ifanc drwy alwadau a negeseuon testun, a buom yn cynnal cystadlaethau ac yn gweithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru i hyrwyddo CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn).

Gweithiom gyda’r elusen Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant i sicrhau y gall plant gyfranogi ym mhob agwedd ar fywyd ysgol heb unrhyw gyfyngiadau ariannol, yr elusen Bullies Out Charity i hyrwyddo gwrthfwlio gyda phlant, a buom yn cydweithredu gyda’r Elusen Hawliau Plant i hyrwyddo hawliau plant ar lefel strategol ar draws y gwasanaeth, yn ogystal â chyflwyno gweithdai hyfforddiant ar-lein.

Mae prosiectau eraill yn cynnwys grŵp hawliau merched ar gyfer merched sydd â phrofiad o ofal, a grŵp anifeiliaid i blant sy’n cynnwys ci therapi ac ymweliadau â lloches i alpacas.

Ac fe lansiom ymgyngoriadau blynyddol newydd gyda phlant a theuluoedd yn ymwneud â gwasanaethau egwyliau byr i ddatblygu a gwella’r modelau gwasanaeth hyn yn barhaus.

Safon Ansawdd 1 - Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chydgynhyrchu canlyniadau llesiant personol y mae pobl am eu cyflawni

Mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth i helpu pobl i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Fe wnaeth yr Uned Gomisiynu gefnogi’r Gwasanaethau Plant i ailfodelu’r gwasanaeth cyfeillio gwirfoddolwyr teulu (gwasanaeth SHINE) i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn gwella canlyniadau pobl.

Adolygom gontractau a gomisiynwyd gan y Gwasanaethau Plant a oedd yn cynnwys ymgynghori â thimau gwaith cymdeithasol, plant, pobl ifanc, teuluoedd a rhanddeiliaid eraill i wella perfformiad gwasanaethau a modelau gwasanaeth yn y tymor byr a’r tymor hir. Fe wnaethom gefnogi darparwyr i wneud gwelliannau angenrheidiol i’r gwasanaethau, gan ddefnyddio prosesau monitro perfformiad ffurfiol pan oedd yn briodol, a darparom gymorth parhaus i Grŵp Llywio Eiriol Rhieni Gorllewin Morgannwg sydd â nod i ddatblygu gwasanaeth eiriol cymheiriaid rhieni newydd.

Hefyd, cynhaliom weithdai ymgysylltu â theuluoedd yn ymwneud â datblygu gwasanaethau newydd y Gronfa Gofal Integredig. Galluogodd y rhain i ni ofyn am arweiniad ac adborth ar agweddau amrywiol ar y broses datblygu’r cynllun, gan gynnwys: datblygu manylebau gofal a chymorth, datblygu eiddo a dylunio a chydgynhyrchu datganiad dull tendro a chwestiynau cyflwyniadau. Mae’r gweithdai ymgysylltu wedi darparu rhwydwaith cymorth i’r teuluoedd, unigolion a gofalwyr hefyd.

Blaenoriaethau ar gyfer 2020-21 – Beth ddywedom y byddem ni’n ei wneud a beth wnaethom ei gyflawni

Byddwn yn datblygu ymhellach y “drws blaen” i’r gwasanaethau cymdeithasol, gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth cydlynus

  • Mae ffurflen Atgyfeirio Sengl wedi’i chwblhau erbyn hyn i’w defnyddio gan y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau Oedolion. Deilliodd y ffurflen atgyfeirio hon o gydweithredu rhwng croestoriadau o staff y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd. Mae’r ffurflen yn hwyluso’r cyfle i nodi pryderon diogelu Oedolion (roedd y rhain yn cael eu cofnodi ar wahân yn flaenorol). Lansiwyd y ffurflen atgyfeirio sengl ar 4 Chwefror 2020 a dechreuwyd ei rhoi ar waith ar draws asiantaethau partner.

Byddwn yn datblygu mwy o integreiddio yn y trefniadau gweithio rhwng y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau Oedolion

  • Lansio ‘Pwynt Cyswllt Unigol’ Oedolion a Phlant - diben hyn yw gweithredu fel y cyswllt cychwynnol i bobl y mae angen gwybodaeth a chyngor arnynt yn ymwneud ag iechyd a lles plant, teuluoedd ac oedolion - roedd i fod i ddigwydd ar 1 Ebrill 2020 ond cafodd ei oedi oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, mae gwaith wedi parhau i integreiddio’r gwasanaeth drws blaen gymaint ag y gellir yn ymarferol, ac mae cyfathrebiadau wedi’u rhyddhau i randdeiliaid fel eu bod yn ymwybodol o’n ffurflen atgyfeirio integredig a’r manylion cyswllt. Hefyd, mae’r gwasanaeth wedi symud at rif ffôn a chyfeiriad e-bost integredig sengl er mwyn ymateb i’r holl atgyfeiriadau i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Un o ganlyniadau dull mwy integredig o weithio fu cwblhau asesiadau cynhwysfawr, amserol o’r pwynt atgyfeirio. Bydd Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant yn cael ei gysoni ymhellach fel rhan o’r gwaith i ailfodelu Gofal Cymdeithasol Oedolion, sydd i ddechrau yn ystod 2021/22.

Byddwn yn gweithredu’r Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol ar y Cyd gyda’n partneriaid iechyd

  • Gwahoddwyd trigolion gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ymuno ag ymgyrch Wythnos Gofalwyr (8 – 14 Mehefin 2020) i gydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan yr 20,000 o ofalwyr di-dâl yn y fwrdeistref.
  • Mae’r holl ofalwyr yn cael cynnig asesiad, ac mae gofalwyr nad ydynt yn derbyn y cynnig yn cael mynediad i wybodaeth, cyngor a chymorth yn ogystal â gwasanaethau’n cael eu darparu gan Wasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot.
  • Darparwyd cyfarpar diogelu personol i ofalwyr di-dâl drwy’r Gwasanaeth Gofalwyr.
  • Mae Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol pum mlynedd Gorllewin Morgannwg wedi’i datblygu, ac mae gweithgorau rhanbarthol wedi’u sefydlu i ddwyn y blaenoriaethau yn y strategaeth yn eu blaenau.
  • Ymrwymodd y Cyngor i egwyddorion y canllawiau ar gynllunio gweithredu at argyfyngau, i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu mesurau argyfwng yn ymwneud â COVID-19.

Byddwn yn ymgorffori ymagwedd yn seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl hŷn a phob anabl ar draws y Cyngor, ac yn sicrhau bod gan bobl fynediad i gefnogaeth eiriolaeth lle mae hynny’n ofynnol

  • Lle nodir bod angen eiriolwr ar rywun, gwneir trefniadau ar gyfer penodi un. Mae contract ar waith gan y Cyngor ar gyfer gwasanaeth eiriolaeth. Rydym wedi mabwysiadu ymagwedd yn seiliedig ar hawliau ar draws y gwasanaeth.

Safon Ansawdd 2 - Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl, a’u lles emosiynol

Mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn helpu pobl i ofalu am eu hiechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol.

Adferiad Cymdeithasol ac Emosiynol Plant sy’n Dioddef Trallod (CEASAR)

Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd y Gwasanaethau Plant grant o Gronfa Ymyrraeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi lles plant a theuluoedd, fel rhan o gyllid ychwanegol i gynorthwyo lles emosiynol. Mae’r prosiect Adferiad Cymdeithasol ac Emosiynol Plant sy’n Dioddef Trallod (CEASAR) yn creu cyfleoedd i bobl ifanc a rheini i feithrin hyder, hunan-barch, a chadernid emosiynol i ddatblygu amryw o sgiliau datblygiad personol. Ar y cyd â YMCA Port Talbot, bydd dau grŵp o gyfranogwyr ar wahân (8-12 oed a 13-16 oed) yn dilyn rhaglen o weithgareddau haf dros chwe wythnos, gan gynnwys ceufadu/canŵio, dringo yn yr awyr agored, byw yn y gwyllt a diwrnodau yn y mynyddoedd.

Mae’r Uned Gomisiynu wedi darparu cymorth dwys i ddarparwyr ac wedi monitro cartrefi gofal, darparwyr gofal yn y cartref a darparwyr gwasanaethau arbenigol Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl er mwyn eu cefnogi i barhau i ddarparu parhad gofal drwy’r pandemig. Mae cyfarfodydd fforwm darparwyr wedi’u cynnal yn wythnosol drwy Zoom/Teams trwy gydol y flwyddyn er mwyn ymgysylltu â darparwyr i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru o ran canllawiau perthnasol, ac fel ein bod ni’n deall ble mae’r pwysau yn y ddarpariaeth gwasanaethau, e.e. prinderau staff yn sgil hunanynysu.

Rydym wedi bod yn ffonio’r holl ddarparwyr yn wythnosol hefyd i fynd drwy bob agwedd ar y pandemig a sut yr oedd yn effeithio arnyn nhw, gan edrych ar ystadegau’n ymwneud â staffio/salwch/achosion positif o Covid/ niferoedd sy’n cael brechlyn/ darparwyr mewn statws digwyddiad ac ati. Caiff yr ymatebion hyn eu coladu ar daenlenni a’u rhannu gyda’n timau mewnol a’n partneriaid, mae cyfarfod RAG (Coch Melyn Gwyrdd) cartrefi gofal wedi’i gynnal yn wythnosol i fynd trwy bob ymateb y mae darparwyr cartrefi gofal wedi’i wneud i sicrhau nodi unrhyw bwysau neu faterion posibl yn gynnar. Cyfarfodydd amlasiantaeth yw’r rhain, ac maent yn cynnwys cydweithwyr o AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru), Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac Iechyd yr Amgylchedd, gyda chamau gweithredu’n cael eu cytuno lle bo angen.

Gan weithio gyda’r adran TG, rydym wedi datblygu System Froceriaeth Ddigidol Gofal yn y Cartref i wella effeithlonrwydd, cywirdeb a diogelwch data. Bydd y System Ddigidol yn disodli taenlenni sy’n cael eu diweddaru â llaw ar hyn o bryd, ac yn creu rhestr froceriaeth data fyw, a fydd yn cael ei chynhyrchu’n awtomatig a’i hanfon at ddarparwyr drwy Share Point. Byddwn yn defnyddio Share Point hefyd i rannu cynlluniau gofal, contractau a gwybodaeth arall am froceriaeth.

Mae’r System Brynu Ddeinamig yn gweithredu o dan Gontract Fframwaith i alluogi darparwyr i wneud cais i gael eu hychwanegu at y Fframwaith trwy broses dendro unrhyw bryd dros gyfnod y contract. Pan fyddant ar y Fframwaith, gall darparwyr gynnig am becynnau gofal drwy system yn ôl y gofyn drwy’r Froceriaeth Gofal yn y Gartref, sy’n gweithredu i leoli pobl ag anghenion gofal a chymorth gyda’r pecyn gofal priodol. Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth wyth o ddarparwyr gais i fod ar y Fframwaith Darparwyr Gofal yn y Cartref, ac roedd pump ohonynt yn llwyddiannus.

Timau Gwaith Cymdeithasol Oedolion

Bu timau gwaith cymdeithasol oedolion yn gweithio o’u cartref, ond buont yn cynnal ymweliadau lle’r oedd pryderon ynglŷn â diogelu neu lle nad oedd modd cynnal gweithgarwch neu gasglu’r wybodaeth ofynnol i gwblhau asesiad neu adolygiad gan ddefnyddio dulliau eraill.

Mae rheolwyr ar draws Castell-nedd Port Talbot wedi gweithio’n agos â chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd a Chyngor Abertawe i ddatblygu llwybrau a phrosesau i fireinio cynllunio rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Mae hyn wedi cynnwys staff gwaith cymdeithasol yn gweithio yn Ysbyty CNPT trwy gydol y pandemig i helpu hwyluso rhyddhau’n amserol o’r ysbyty.

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT)

Mewn llawer o ffyrdd, roedd paratoi ar gyfer dechrau’r pandemig yn fwy heriol nag ymateb i’r argyfwng ei hun. Fodd bynnag, roedd yr ymdrechion a wnaed gan y tîm cyfan o’r pwysigrwydd pennaf er mwyn i’r gwasanaeth barhau i weithredu.

Roedd rhyw 20-25 o atgyfeiriadau’n cael eu gwneud yn wythnosol i’r CMHT (De) cyn y pandemig, gyda chyfarfod sgrinio atgyfeirio’r CMHT yn cael ei gynnal ar fore Llun. Ers i’r llywodraeth bennu cyfnodau clo, mae’r gyfradd atgyfeirio wedi gostwng i rhwng 4-10 o atgyfeiriadau’r wythnos, gyda’r gostyngiad mwyaf mewn atgyfeiriadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol gan feddygon teulu. Mae’r CMHT wedi parhau i ymateb i geisiadau sgrinio gan y Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng neu ofal cleifion mewnol.   

Trefniadau wrth Gefn

I ymateb i’r pandemig, rhoddwyd trefniadau wrth gefn ar waith o fewn y CMHT (De). Roedd hyn yn cynnwys system raddio RAG ddynamig (COCH, MELYN, GWYRDD) i gategoreiddio lefel risg defnyddiwr gwasanaeth unigol. Datblygwyd proffiliau defnyddwyr gwasanaeth ynghyd â threfniant wrth gefn wedi’i gadw mewn ffeiliau priodol, gyda chynlluniau ar waith i ailasesu’r categorïau hyn yn wythnosol, pe bai angen rhoi’r cynllun wrth gefn ar waith yn sgil absenoldeb staff rhagweledig. Hyd yma, dim ond yn rhannol y gweithredwyd y cynlluniau hyn gan fod y CMHT wedi llwyddo i gynnal lefelau staffio digonol (a hynny wedi’i ategu gan aelod staff wedi’i adleoli dros dro o’r ward a gweithiwr cymdeithasol/asesydd o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (LPMHS) trwy gydol y pandemig.

Cydlynu Gofal (Rhan 2 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010)) a Rheoli Gofal (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014)).

Mae Cydlynwyr Gofal dynodedig (personél awdurdod lleol a phersonél iechyd) wedi parhau i gadw cyswllt rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth dros y ffôn yn bennaf, gyda chyswllt wyneb yn wyneb yn digwydd dim ond pan fo’n gwbl angenrheidiol. Mae Cydlynwyr Gofal yn gwneud yr ymdrech i siarad â defnyddwyr gwasanaeth ar eu llwythi achosion sy’n mynychu clinig depo, ac mae cynlluniau argyfwng wedi’u diweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn arferion gweithio. Yn gyffredinol, mae defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn wydn trwy gydol y cyfnod clo, ac ar y cyfan maent wedi addasu’n dda i newidiadau mewn arferion gweithio. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, oherwydd bod cyfuniad o therapïau wedi’u hatal am y tro a bod gwasanaethau yn y gymuned wedi’u cyfyngu am y tro, mae’r CMHT wrthi’n darparu gwasanaeth cynnal yn hytrach na chynllunio deilliannau a nodau i hyrwyddo adferiad.

Er yr ystyriwyd bod y cyfyngiad ar wasanaethau allweddol eraill y cyngor yn angenrheidiol, caiff hyn effaith ganlyniadol hefyd ar ddefnyddwyr gwasanaeth a Chydlynwyr Gofal / Rheolwyr Gofal. Er enghraifft, mae’r CMHT yn gweithio gyda nifer o unigolion y mae eu cyllid yn cael eu rheoli gan Adran Ddirprwy y Llys, ac mae cynlluniau effeithiol wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod lwfans personol yn cael ei dalu’n uniongyrchol i gyfrif banc.

Asesiadau’r Ddeddf Iechyd Meddwl

Mae’r Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) yn CMHT (De) ac AMHPau mewn timau eraill wedi parhau i ddarparu gwasanaeth AMHP statudol trwy gydol y pandemig.

Yn gyffredinol, nid oedd nifer y ceisiadau am asesiad o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn wahanol i’r lefelau cyn y pandemig. Fodd bynnag, gellid dadlau bod cynnydd bach wedi bod mewn ceisiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl po hiraf y mae’r argyfwng yn parhau. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn yr wythnosau diwethaf fod canslo adolygiadau meddygol i bobl â salwch meddwl anorganaidd yn arwain at gynnydd yn y ceisiadau am asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn sgil diffyg cydymffurfio o ran meddyginiaeth. Yn ogystal, mae cau gwasanaethau dydd arbenigol dros dro i bersonau hŷn ag anhwylder meddwl organig yn arwain at fwy o bwysau ar ofalwyr yn y cartref, gan arwain at fethiant gofal yn y cartref - ac yn arwain hefyd at geisiadau am asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Taliadau Uniongyrchol

Cynigir Taliadau Uniongyrchol i bobl, yn dilyn asesiad, fel dewis arall naill ai i wasanaethau mewnol neu ofal wedi’i gomisiynu, gan eu galluogi i gyflogi Cynorthwywyr Personol o'u dewis. Maent yn galluogi pobl i fodloni’u canlyniadau ac arfer dewis a rheolwyr dros y gofal a dderbyniant. Fe wnaeth nifer y pecynnau Taliadau Uniongyrchol ostwng fymryn trwy gydol 2020/21 gydag oddeutu 410 o bobl wedi cael cefnogaeth erbyn diwedd Mawrth 2021, gostyngiad o 35 yn ystod y 12 mis diwethaf, er y gwelodd y gwasanaeth gynnydd sylweddol yn y galw am gymorth ers dechrau’r pandemig. Mae’r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol (DPSS) mewnol yn sefydlu pecynnau newydd, yn darparu arweiniad a chymorth cyflogaeth, ac yn recriwtio Cynorthwywyr Personol, yn ogystal â darparu amryw o wasanaethau eraill. Parhaodd y DPSS i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr trwy gydol y flwyddyn yn cynorthwyo cyflogwyr a Chynorthwywyr Personol i weithio mor ddiogel ag y bo modd ac yn unol â’r gyfraith cyflogaeth.

Gwasanaethau Dydd Anghenion Cymhleth

Mae gwasanaethau dydd i bobl ag anghenion cymhleth yn cael eu darparu ar draws 3 safle yng Nghastell-nedd Port Talbot, (Trem y Môr, Brynamlwg a Rhodes House). Roedd cynlluniau ar waith i’r gwasanaeth yn Abbeyview, Mynachlog Nedd i adleoli i Frynamlwg a Rhodes House yn Aberafan ym mis Mai 2020 i alluogi pob un o’r cyfleusterau i fodloni anghenion unigol pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn well; fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws, caeodd y gwasanaethau dydd anghenion cymhleth ar 20 Mawrth 2020. Darparodd y staff a oedd yn cael eu cyflogi gan y gwasanaethau dydd wasanaeth allgymorth i nifer fach o ddefnyddwyr gwasanaeth yn y misoedd ar ôl cau’r gwasanaeth, ac ymatebodd staff yn gyflym i’r angen i wisgo cyfarpar diogelu personol, gan ddilyn arweiniad ac asesiadau risg Covid-19. Cafodd nifer o’r staff eu hadleoli i dîm newydd a ddatblygwyd i gynorthwyo’r tîm gofal cartref mewnol, a bu’n cynorthwyo pobl i baratoi prydau bwyd, casglu siopa a phresgripsiynau, ac ati; ac adleoliwyd rhai o’r staff i’r Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu. Darparodd nifer o’r staff gymorth ymarferol gwerthfawr i gartrefi gofal ar adegau o argyfwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae cynlluniau ar waith i’r gwasanaethau dydd anghenion cymhleth ailagor ar sail gyfyngedig a fesul cam yng nghanol mis Ebrill 2021.

Gofal cartref

Mae Tîm Lles Cymunedol y Cyngor yn darparu gofal cartref i bobl ledled y fwrdeistref. Mae’r Tîm yn defnyddio ethos ail-alluogi i gynorthwyo unigolion yn eu cartrefi eu hunain, er mwyn ei galluogi i barhau mor annibynnol ag y bo modd. Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth tymor byr a hirdymor. Caiff y gwasanaeth ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n arolygu’r gwasanaeth ac ansawdd y gofal a ddarperir yn rheolaidd. Mae’r gwasanaeth mewnol yn darparu gofal i 125 o bobl, sef rhyw 20% o’r gofal cartref sydd ei angen, a darperir y gweddill gan y farchnad allanol. Ymatebodd y tîm ar unwaith i bandemig y coronafeirws, ac addasodd yn gyflym i wisgo cyfarpar diogelu personol, gan ddilyn arweiniad ac asesiadau risg Covid-19; a pharhaodd i ddarparu ystod lawn y gwasanaethau i’r bobl y maent yn eu cynorthwyo.

Blaenoriaethau ar gyfer 2020-21 - Beth ddywedom y byddem ni’n ei wneud a beth wnaethom ei gyflawni

Byddwn yn datblygu ymhellach ein model gofal yn seiliedig ar gynnydd ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl, anableddau dysgu ac anableddau corfforol

  • Mae gweithgor llwybr cynnydd yn cyfarfod i edrych ar sut i gynorthwyo cynnydd pobl at wasanaethau byw’n fwy annibynnol ac i sicrhau ein bod yn comisiynu’r modelau gofal cywir.
  • Rydym yn parhau i weithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a darparwyr i ddatblygu modelau gofal newydd sy’n cefnogi cynnydd yn well.
  • Rydym wedi sefydlu 3 uned llety â chymorth i bobl â salwch meddwl, a symudwyd 2 o bobl i mewn i’r cynllun hwn yn 2020/21.
  • Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i ddatblygu gwasanaeth arbenigol byw â chymorth i 3 o bobl ag anghenion cymhleth anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD).
  • Mae darparwr wedi’i gomisiynu i ddarparu gofal yn y gwasanaeth gofal ychwanegol newydd y disgwylir iddo fynd yn fyw yn 2021/22.
  • Datblygwyd uned ar gyfer lleoliadau argyfwng

Byddwn yn datblygu’r ddarpariaeth gofal cartref a gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn i sicrhau bod digon o leoliadau o safon ar gael i ddiwallu angen lleol

  • Prynwyd 33 o welyau cartref gofal mewn bloc i gynorthwyo llif ysbyty ar ddechrau’r pandemig.
  • Cynhaliwyd cyfarfodydd darparwyr wythnosol yn 2020/21 i gefnogi’r farchnad gofal.
  • Gwnaed cyswllt wythnosol a darparwyr yn 2020/21 i fonitro a chefnogi’r farchnad gofal.
  • Cynhaliwyd cyswllt dyddiol â darparwyr a ddioddefodd o achosion o COVID-19, er mwyn darparu cymorth.
  • Sefydlwyd prosesau er mwyn darparu Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’r sector gofal i gynorthwyo â phwysau costau ychwanegol yn deillio o COVID-19.
  • Sefydlwyd proses ar gyfer dosbarthu cyfarpar diogelu personol i’r sector gofal.
  • Sefydlwyd rhestr gwirfoddolwyr o bobl o fewn y gyfarwyddiaeth er mwyn cynorthwyo darparwyr gofal â phrinderau staff difrifol yn deillio o COVID-19.
  • Sefydlwyd grŵp comisiynu rhanbarthol i gefnogi cynaliadwyedd y sector.
  • Datblygwyd cynlluniau wrth gefn ar gyfer gwasanaethau er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau gofal trwy gydol y pandemig.
  • Mae’r holl staff gofal cartref (mewnol ac allanol) bellach wedi’u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Byddwn yn gwneud gwaith â ffocws gyda phartneriaid er mwyn gwella mynediad i’r gefnogaeth iawn i blant a phobl ifanc â lles emosiynol/iechyd meddwl gwael

  • Mae cyfarfod adolygu cymheiriaid yn cael ei gynnal bob pythefnos, sy’n darparu fforwm trafod iach gydag asiantaethau partner. Trafodir teuluoedd y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw, yn ogystal ag unrhyw anghytundebau’n ymwneud â phenderfyniadau, gyda’r bwriad o gael cytundeb ac ymateb cyfunol. Mae cynrychiolaeth o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) mewn adolygiadau cymheiriaid yn galluogi cynnal trafodaethau am achosion er mwyn ystyried unrhyw gymorth iechyd a lles emosiynol naill ai gan CAMHS neu’r Gwasanaeth Ymyrryd ac Atal yn Gynnar (EIP) sy’n gysylltiedig â CAMHS.
  • Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn rhanbarthol i ddatblygu’r gwasanaethau cymorth lles emosiynol ac iechyd meddwl cywir.
  • Mae’r pandemig wedi cael effaith ar iechyd a lles emosiynol ein plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, ac rydym yn debygol o weld yr effeithiau hynny yn y blynyddoedd i ddod. Mae hwn yn faes y mae angen i ni ei ystyried ymhellach wrth fynd i mewn i 2021/22 a thu hwnt.

Safon Ansawdd 3 - Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed

Mae hyn yn ymwneud â helpu i amddiffyn pobl a allai wynebu risg o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod, niwed neu gamfanteisio

Blaenoriaethau ar gyfer 2020-21 - Beth ddywedom y byddem ni’n ei wneud a beth wnaethom ei gyflawni

Bydd yr holl blant a phobl ifanc y mae angen iddynt gael eu hamddiffyn, neu y nodwyd bod angen gofal a chymorth arnynt, yn cael dweud eu dweud am y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt

  • Mae holiaduron pwrpasol yn parhau i gael eu llunio, i gefnogi archwiliadau thematig penodol, a byddant yn cael eu hymgorffori fel rhan o’r broses lle bo’n berthnasol. Er enghraifft, gofynnwyd am farnau plant a phobl ifanc fel rhan o’r Asesiad Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Archwiliad Cyswllt Teulu. Lledaenwyd y canfyddiadau o’r archwiliad hwn i’r holl dimau a rheolwyr, gan gynnwys y Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Tîm Maethu. Hefyd, roedd arolwg ychwanegol ar waith ar ddechrau pandemig COVID-19 i gael barnau Defnyddwyr y Gwasanaeth Oedolion ar y cymorth y maent yn ei dderbyn gan eu gweithiwr dynodedig, ond bu’n rhaid gohirio hwn yn anffodus. Fodd bynnag, mae cysylltiadau helaeth i’w cael erbyn hyn rhwng y Tîm Sicrhau Ansawdd a’r Tîm Ymgysylltu a Chyfranogi, ac mae’r Rhaglen Archwilio ar gyfer 2021-22 wedi trefnu nifer o archwiliadau sy’n cynnwys adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, fel yr ymateb i COVID-19 yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion a’r Archwiliad Camfanteisio/Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
  • Byddwn yn parhau i adolygu a gwneud gwelliannau i’r ffordd y casglwn adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth i sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yn cael dweud eu dweud am y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y rhai â’r anghenion mwyaf cymhleth yn cael eu diogelu, ac yn cryfhau ein trefniadau i ddiogelu oedolion sy’n agored i niwed

  • Rydym yn parhau i weithio tuag at fireinio’r Llwybr Diogelu Oedolion i ddod â chysondeb ar draws y Gwasanaethau Plant ac Oedolion. Ymatebir i’r holl Adroddiadau Diogelu a dderbynnir ar achosion a gaewyd wrth y drws blaen erbyn hyn, hyd y ceir penderfyniad yr ymholiadau a126 (Gwneir ymholiadau diogelu o dan a126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).
  • Mae’r holl achosion agored yn parhau i gael eu goruchwylio gan y Tîm Diogelu Oedolion.
  • Mae’r Grŵp Diogelu Corfforaethol a’r Bwrdd Diogelu yn olrhain yr holl hyfforddiant Diogelu ar draws yr Awdurdod Lleol erbyn hyn. Bydd deunydd hyfforddi ychwanegol yn cael ei ddatblygu maes o law i ymateb i lansio a gweithredu’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ym mis Mawrth 2022. Mae gweithgor wedi’i sefydlu o dan y Grŵp Diogelu i oruchwylio’r gwaith hwn.
  • Caiff Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Oedolion ei oruchwylio gan y Grŵp Strategol Ymarfer o Safon (Awdurdod Lleol) a’r Bwrdd Diogelu. Tarfwyd ar y rhaglen archwilio a oedd yn benodol i Oedolion mewn Perygl o ganlyniad i COVID, ond mae hwn bellach ar y trywydd iawn gydag ymholiadau a126 a Chynadleddau achos sydd i’w harchwilio nesaf.

Byddwn yn sicrhau bod holl wasanaethau’r Cyngor yn dilyn arferion diogelu llym a chyson

  • Mae’r holl staff bellach yn gweithio’n unol â’r Gweithdrefnau Diogelu newydd Cymru Gyfan, ac mae cynnydd o ran gweithredu yn cael ei fonitro gan y Bwrdd Diogelu. Mae deunydd hyfforddi wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno fesul cam gan yr adran hyfforddi.
  • Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i sicrhau ymateb cyson i ddiogelu wrth y ‘drws blaen’, gyda Gwasanaethau Plant ac Oedolion bellach yn gweithredu fel un mewn ymateb i adroddiadau diogelu. Mae Polisi Hunan-Esgeuluso wedi’i gyflwyno ar draws Castell-nedd Port Talbot drwy’r Bwrdd Diogelu, ac mae gwaith ychwanegol yn parhau i sicrhau ymateb cadarn a chyson i’r holl adroddiadau diogelu. Mae offeryn gwneud penderfyniadau’n cael ei dreialu ar draws y Gwasanaethau Oedolion.
  • Cynhaliwyd rhaglen o Archwiliadau Amlasiantaeth yn deillio o’r Bwrdd Diogelu i adolygu’r newidiadau a wnaed o ganlyniad i’r gweithdrefnau newydd ar draws gwasanaethau plant ac oedolion. Roedd yr archwiliadau’n canolbwyntio ar drafodaethau/cyfarfodydd strategaeth; Ymholiadau Adran 126/47 a Chynadleddau achos (Plant ac Oedolion). Hyd yma, mae’r drafodaeth/cyfarfod strategaeth wedi’i gwblhau yn sgil y tarfu a achoswyd gan y pandemig.
  • Cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd 2020 i hyrwyddo cynlluniau i ddatblygu Gwasanaeth Cynadledda Grŵp Teuluol. Mae cyllid pellach wedi’i sicrhau ers hynny ac mae’r Awdurdod Lleol wedi comisiynu gwasanaeth ac yn defnyddio Cynadleddau Grŵp Teuluol nawr.
  • Mae pob ffurf ar gam-fanteisio (niwed y tu allan i’r teulu) bellach yn cael eu rheoli ar y dechrau gan y Timau Ardal priodol, gan gynnwys Cyfarfodydd Strategaeth ar gyfer Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, gan greu’r gofod felly i ymgorffori’r ymagwedd Diogelu Cyd-destunol ar draws ymarfer. Mae pecyn cymorth yn cael ei dreialu ar hyn o bryd i gefnogi a chryfhau’r ymateb i niwed y tu allan i gartref y teulu.
  • Bydd sicrhau Arferion Diogelu cadarn, trylwyr a chyson yn parhau’n flaenoriaeth i’r Gwasanaeth wrth fynd i mewn i 2021-22.
  • Mae canran yr ail-gofrestriadau plant ar gofrestr amddiffyn plant yr awdurdod lleol wedi gostwng o 13.9% yn 2019-20 i 7.4% yn 2020/21. Gallai nifer is yr ail-gofrestriadau adlewyrchu cynllunio a chymorth o ansawdd gwella yn y pwynt datgofrestru.

Safon Ansawdd 4 - Annog a chefnogi Pobl i Ddysgu, Datblygu a Chymryd Rhan mewn Cymdeithas

Mae hon yn edrych ar sut y gallwn helpu pobl i ddysgu a rhyngweithio â phobl eraill fel y gallant fod yn rhan o’u cymunedau.

Tîm Cysylltu Cymunedau

Mae’r Tîm Cysylltu Cymunedau (CCT) yn darparu cyfleoedd yn y gymuned i bobl agored i niwed o 16 oed sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Yn ystod 2020/21 ataliwyd y gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan y Tîm Cysylltu Cymunedau oherwydd pandemig y coronafeirws, fodd bynnag, cafodd nifer o’r staff eu hadleoli i dîm newydd a ddatblygwyd i gynorthwyo’r tîm gofal cartref mewnol ac i gynorthwyo pobl i baratoi prydau bwyd, casglu siopa a phresgripsiynau, ac ati; ac adleoliwyd rhai o’r staff i’r Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu. Trwy gydol y flwyddyn, derbyniodd pawb sy’n defnyddio’r Tîm Cysylltu Cymunedau alwadau ffôn lles rheolaidd.

Gwasanaeth Annibyniaeth Gymunedol

Mae’r Gwasanaeth Annibyniaeth Gymunedol (CIS) yn darparu cefnogaeth yn gysylltiedig â thai i helpu pobl agored i niwed 16+ oed sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Nod y Gwasanaeth yw meithrin hyder ac annibyniaeth pobl trwy roi iddyn nhw’r set sgiliau sydd ei hangen arnynt i fyw bywyd annibynnol. Yn ystod 2020/21, cafodd gwasanaethau wyneb yn wyneb a ddarperir gan y Gwasanaeth Annibyniaeth Gymunedol eu hatal oherwydd y pandemig. Cafodd nifer o’r staff eu hadleoli i dîm newydd a ddatblygwyd i gynorthwyo’r tîm gofal cartref mewnol ac i gynorthwyo pobl i baratoi prydau bwyd, casglu siopa a phresgripsiynau, ac ati; ac adleoliwyd rhai o’r staff i’r Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol (COTS)

Mae’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol yn darparu gwasanaeth asesu a chynllunio, a’i nod yw galluogi pobl i fyw mor annibynnol ag y bo modd trwy ddarparu cyngor, cymhorthion a chyfarpar. Mae’r tîm yn cynnal asesiadau codi a chario hefyd i gefnogi’r farchnad gofal cartref mewnol ac allanol. Mae’r tîm yn gweithio’n agos â chydweithwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i gynorthwyo annibyniaeth pobl ac i leihau risgiau. Ymatebodd y tîm ar unwaith i bandemig y coronafeirws, ac fe wnaethant addasu’n gyflym i wisgo cyfarpar diogelu personol, gan ddilyn canllawiau ac asesiadau risg Covid-19, a pharhaont i ddarparu ystod lawn o wasanaethau i’r bobl y maen nhw’n gweithio â nhw. Yn 2020/21, darparodd y tîm wasanaeth i bron i 1,300 o bobl.

Bspoked

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu cyfleoedd gwaith, hyfforddiant a chyflogaeth i oedolion sydd ag ystod o anableddau. Y diben yw creu amgylchedd byw sy’n paratoi defnyddwyr gwasanaeth ac yn rhoi’r offer a’r sgiliau iddynt i ddatblygu’u potensial ac i gefnogi’u cynnydd i gyflogaeth am dâl neu gyflogaeth wirfoddol, neu weithgareddau yn y gymuned. Yn ystod 2020/21, ataliwyd y gwasanaeth yn Bspoked oherwydd y pandemig; fodd bynnag, cafodd nifer o’r staff eu hadleoli i dîm newydd a ddatblygwyd i gynorthwyo’r tîm gofal cartref mewnol. Hefyd, datblygodd staff amryw o ffyrdd gwahanol i ymgysylltu â’r bobl sy’n mynychu Bspoked, gan gynnwys cwisiau a digwyddiadau ar-lein. Trwy gydol y flwyddyn, derbyniodd pawb a oedd yn defnyddio Bspoked alwadau ffôn lles yn rheolaidd

Blaenoriaethau ar gyfer 2020-21 - Beth ddywedom y byddem ni’n ei wneud a beth wnaethom ei gyflawni

Byddwn yn datblygu ymhellach ein gwasanaethau gofal canolraddol i alluogi mwy o bobl i gynnal eu hannibyniaeth ac ailafael yn eu hannibyniaeth trwy weithredu’r model adferiad o’r ysbyty i’r cartref

  • Cafodd y Model Ysbyty i’r Cartref [Hospital 2 Home] (H2H) ei adolygu yn ystod y pandemig ac fe’i hail-lansiwyd fel y model Rhyddhau Cleifion yn Gyflym [Rapid Discharge] yn seiliedig ar y model Rhyddhau i Ymadfer ac Asesu (D2RA).
  • Yng Ngorffennaf 2020, sefydlwyd tîm amlddisgyblaethol i frysbennu a sgrinio’r holl atgyfeiriadau ysbyty i mewn i’r Awdurdod Lleol er mwyn sicrhau bob pobl yn cael eu gweld gan y gwasanaeth cywir ar yr amser cywir, a bod cefnogaeth ddiogel i bobl pan fyddant yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
  • Rhwng Gorffennaf 2020 a Mawrth 2021, rydym wedi cefnogi 571 o bobl sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty.

Byddwn yn adolygu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer y bobl â’r anghenion mwyaf cymhleth i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben

  • Mae’r Rhaglen Comisiynu ar gyfer Anghenion Cymhleth (Ymagwedd ranbarthol) yn parhau â’i hagenda i gyflawni dull ar y cyd mewn perthynas â threfniadau comisiynu, caffael a marchnata er mwyn bodloni anghenion unigolion ag anghenion cymhleth.
  • Mae’r ffocws yn parhau ar asesiadau o ganlyniadau, cynllunio gofal ac adolygiadau o safon.
  • System froceriaeth ranbarthol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu i sicrhau gofal o ansawdd da am gost gynaliadwy.
  • Datblygu cynlluniau byw â chymorth – twf mewn capasiti ac mewn modelau cyflwyno gwasanaethau i fodloni anghenion poblogaeth gynyddol o bobl ifanc mewn cyfnodau pontio.
  • Cysylltiadau â chomisiynu i ddatblygu modelau cyflwyno gwasanaethau, gan nodi bylchau, i gefnogi anghenion newidiol/blaenoriaethau’r unigolion hynny rydym yn eu cefnogi, gyda ffocws ar fodel gwasanaeth yn seiliedig ar gynnydd yn ogystal â darpariaeth arbenigol o ansawdd da ar gyfer anableddau dysgu ac iechyd meddwl.
  • Rydym yn parhau i fesur canlyniadau i bobl â’r anghenion mwyaf cymhleth ar sail achos wrth achos.
  • Mae gan Dimau Gwaith Cymdeithasol ddull wedi’i gynllunio wrth gynnal adolygiadau, ac maent wedi gwneud cynnydd wrth gynnal adolygiadau rhagorol, a rhagwelant y byddant yn gwneud cynnydd pellach.

Byddwn yn hyrwyddo menter gymdeithasol

  • Rydym yn parhau i gefnogi sefydliadau gwirfoddol y 3ydd sector er mwyn cynorthwyo, cynghori a llywio hyrwyddo mentrau cymdeithasol. Yn anffodus, o ganlyniad i bwysau Covid-19, oedwyd yr amcan hwn. Mae’r gwaith hwn yn allweddol i lwyddiant y mentrau cymunedol parhaus amrywiol, fel Adeiladu Cymunedau Diogel a Chydnerth, fodd bynnag, oherwydd Covid-19, bu’n rhaid oedi rhaglenni peilot cymunedol i’n galluogi i ganolbwyntio ar ein cyfrifoldebau diogelu. Caiff hyn ei ailystyried yn 2021/22 fel rhan o ddatblygiad parhaus cymorth Ymyrryd ac Atal yn Gynnar (EIP) o fewn Gofal Cymdeithasol Oedolion. Mae ein prosesau caffael yn ystyried hyrwyddo Mentrau Cymdeithasol hefyd.

Safon Ansawdd 5 – Darparu cefnogaeth i bobl ddatblygu a chynnal perthnasoedd diogel ac iach yn y cartref, gyda’r teulu ac yn bersonol

Mae hyn yn ymwneud â helpu pobl i gyflawni perthnasoedd iach yn y cartref a gyda’r bobl y maent yn agos atynt.

Comisiynu gwasanaethau newydd

Fe wnaeth yr Uned Gomisiynu gynorthwyo’r Gwasanaethau Plant i ddatblygu a chomisiynu ystod o wasanaethau newydd (a oedd yn cynnwys digwyddiadau profi’r farchnad), gan gynnwys:

  • Gwasanaeth Cynadledda Grwpiau Teuluol;
  • Prosiect Adferiad Cymdeithasol ac Emosiynol Plant sy’n Dioddef Trallod (CEASAR); a
  • Gwasanaeth Therapi Ceffylau.

Rhaglen Ddysgu gyda Chymorth Ceffylau Whispers

Mae Dysgu gyda Chymorth Ceffylau (EAL) yn fath o ddysgu trwy brofiad sy’n cynnwys ceffylau a hwylusydd sy’n gweithio gydag un person i greu newid cadarnhaol. Yn aml mae EAL yn cynnwys nifer o weithgareddau buddiol gyda cheffylau, fel arsylwi, trin, gwastrodi, gwaith paratoi, ac ymarferiadau heriol strwythuredig sy’n canolbwyntio ar anghenion a nodau person ifanc. Mae EAL yn darparu cyfleoedd dieiriau unigryw i bobl ifanc er mwyn gwella hunanymwybyddiaeth, adnabod ymddygiadau camaddasol a nodi teimladau negyddol. Mae ymchwil yn tynnu sylw at fod yr ymagwedd hon wedi esgor ar ganlyniadau cadarnhaol i bobl ag anawsterau cymdeithasol ac anghenion iechyd meddwl sy’n gallu arwain at newidiadau sylweddol mewn gwybyddiaeth, hwyl, barn, mewnwelediad, canfyddiad, sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu, ymddygiad a dysgu.

Gwasanaeth Niwed Cudd / Hidden Harm Service

Sefydlwyd y Gwasanaeth Niwed Cudd i gynnig help a chefnogaeth i bobl i leihau neu sefydlogi’u defnydd o gyffuriau neu alcohol, a’i nod yw helpu rhieni i ddeall sut mae defnyddio cyffuriau/alcohol yn effeithio ar eu plant. Nid oes gan lawer o ddefnyddwyr alcohol neu gyffuriau adloniadol unrhyw broblem o ran darparu cartref diogel, sicr a hapus i’w plant. Mae llawer o rieni nad ydyn nhw’n defnyddio sylweddau yn methu diwallu anghenion eu plant. Gall defnydd o sylweddau rheolaidd ac afreoledig ddod â phroblemau iechyd, ariannol, emosiynol a rhianta i’w ganlyn. Gall greu problemau mewn perthnasoedd teuluol ac effeithio ar fywydau plant mewn llawer o ffyrdd. Gall ymatal rhag cymryd cyffuriau neu alcohol fod yn anodd eithriadol, felly mae lleihau neu sefydlogi defnydd gyda chymorth gweithwyr proffesiynol yn gam cyntaf pwysig yn aml i helpu teuluoedd gyda’r anawsterau hyn. Gall unrhyw riant atgyfeirio’i hun neu gall roi caniatâd i atgyfeiriad gael ei wneud gan staff y gwasanaethau cymdeithasol at wasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Blaenoriaethau ar gyfer 2020-21 - Beth ddywedom y byddem ni’n ei wneud a beth wnaethom ei gyflawni

Camddefnyddio Sylweddau

Cyn Ebrill 2020, nid oedd unrhyw wasanaethau cymorth fel y bo’r angen yn benodol ar gyfer unigolion sy’n camddefnyddio alcohol a / neu sylweddau. Oherwydd cynnydd adroddedig mewn camddefnyddio sylweddau ymhlith cleientiaid, sefydlwyd prosiect peilot o Ebrill 2020 i ddarparu cymorth yn gysylltiedig â thai i unigolion mewn perygl o fod yn ddigartref er mwyn eu galluogi i gynnal eu tenantiaeth a lleihau cyfnodau o ddigartrefedd dro ar ôl tro.

Gyda’n partneriaid, byddwn yn datblygu ein Strategaeth Cymorth i Deuluoedd ymhellach i sicrhau bod gwasanaethau o’r amrywiaeth a’r ansawdd cywir ar gael i ddiwallu anghenion

  • Golygai effaith y Pandemig yn ystod 2020-21 y bu’n rhaid i ni addasu ffyrdd o weithio gyda phlant a theuluoedd, i fod yn fwy creadigol ac arloesol. Parhaodd gweithio mewn partneriaeth a chyfathrebu yn ganolog i’r ymagwedd hon.
  • Cynhaliwyd ymarferiad craffu ar lwythi achosion ac arferion gweithio gyda’r Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd, a datblygwyd dull o weithio sy’n fwy seiliedig ar gyrchnodau ac sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau, sy’n bodloni galw’r Gwasanaeth yn well. Bydd y dull hwn yn cael ei roi ar waith yn llawn o 1 Ebrill 2021.
  • Parhawyd i gynnal cyfarfodydd wythnosol o’r Panel Adnoddau gyda phartneriaid amlasiantaeth i sicrhau bod y cymorth gorau’n cael ei ddarparu o’r adnoddau mwyaf priodol, ar adeg sy’n gywir ar gyfer anghenion plant a theuluoedd.
  • Mae Gweithgor Rhanbarthol wedi’i sefydlu gyda Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd Abertawe i sicrhau bod dull mwy cydgysylltiedig o weithio i gefnogi teuluoedd gyda gwasanaethau o’r amrywiaeth a’r ansawdd cywir.
  • Mae amrywiaeth o hyfforddiant amlasiantaeth wedi’i darparu ar draws y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd, i hybu datblygiad unigol a sicrhau bod y lefel orau o gymorth yn cael ei darparu i blant a theuluoedd.
  • Parhaodd y Gwasanaeth Gweithio Gyda’n Gilydd [Working Together Service] i weithio’n agos gyda theuluoedd yn ystod 2020-21 ac wrth wneud hynny, ataliodd yr angen i unrhyw blant yr oedd y gwasanaeth yn gweithio gyda nhw yn ystod y cyfnod hwn rhag cael eu derbyn i ofal.
  • Gyda’r pandemig byd-eang yn dal i effeithio ar bob agwedd ar fywyd, mae ein Gwasanaethau Cymorth Integredig i Deuluoedd (IFSS) wedi parhau i ddarparu dull â ffocws o gyrraedd teuluoedd y mae angen cymorth arnynt gyda phryderon defnyddio sylweddau, fel bod y plant yn y teuluoedd hynny’n cael y rhianta cywir i ffynnu.
  • Bydd sicrhau bod gennym Strategaeth Cymorth i Deuluoedd sy’n gadarn, trylwyr a chyson i ddarparu’r gwasanaethau o’r amrywiaeth a’r ansawdd cywir i fodloni anghenion y plant a’r teuluoedd hynny rydym yn eu cefnogi, yn parhau yn flaenoriaeth i’r Gwasanaeth wrth i ni fynd i mewn i 2021-22.

Safon Ansawdd 6 - Gweithio gyda phobl a’u cefnogi i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas sy’n diwallu’u hanghenion

Mae hyn yn ymwneud â helpu pobl i wella eu hincwm, elwa o gael bywyd cymdeithasol a bod â lle addas i fyw ynddo.

Datblygom ein Cynllun Byw â Chymorth cyntaf i unigolion â diagnosis iechyd meddwl. Fe wnaeth yr unigolion a nodwyd ar gyfer y cynllun drosglwyddo o leoliadau preswyl costus iawn.

Aethom ati i ddatblygu Cynllun Gofal Ychwanegol ar draws pob anabledd yn cynnwys bloc o fflatiau hunangynhwysol wedi’u hailwampio. Bydd y gefnogaeth yn cynnwys un aelod o staff 24 awr a chymorth targedig ychwanegol os oes angen. Bydd unigolion a nodir ar gyfer y cynllun yn trosglwyddo ar gyfer gofal cartref preswyl i gael cefnogaeth emosiynol ychwanegol a byw â chymorth. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn hwyluso ‘cyfarfod a chyfarch’ i’r unigolion sy’n symud i mewn i’r eiddo ac i ymgysylltu â’r darparwr newydd. Disgwylir i bawb symud i mewn erbyn mis Hydref 2021.

Porth Cefnogi Pobl / Supporting People Gateway

Sefydlwyd y Porth Cefnogi Pobl ym mis Gorffennaf 2017 i reoli atgyfeiriadau yn y lle cyntaf ar gyfer gwasanaeth cymorth newydd fel bo’r angen. Ymestynnwyd hyn yn 2018 i gynnwys atgyfeiriadau ar gyfer ein gwasanaethau llety i Bersonau Ifanc, a datblygwyd proses atgyfeirio, asesu a dyrannu gynhwysfawr ar y cyd â darparwyr cymorth. Yn ystod 2020, ymestynnwyd y Porth Cefnogi Pobl eto i reoli atgyfeiriadau ar gyfer llety â chymorth generig i’r digartref, cymorth iechyd meddwl a llety fel y bo’r angen a chymorth fel y bo’r angen ar gyfer camddefnyddio sylweddau. 

Derbyniodd y Porth 537 o atgyfeiriadau yn 2020/21.

Digartrefedd a Thai

Yn ystod 2019-20, cynhaliwyd peilot a ddarparodd gymorth ailsefydlu i unigolion a oedd wedi dioddef argyfwng iechyd meddwl / digartrefedd ac a oedd wedi cael cymorth i gael llety parhaol gan wasanaeth a ariennir gan y Grant Atal Digartrefedd. Yn sgil llwyddiant y gwasanaeth hwn, parhaodd i mewn i 2020/21.

Fel rhan o gynllunio Cam 2 Llety i Bobl Ddigartref, sicrhawyd cyllid i ddisodli un tŷ presennol â 3 ystafell wely a oedd yn cael ei rannu gyda 4 o fflatiau hunangynhwysol, a symudwyd tenantiaid presennol yn llwyddiannus ar ddechrau 2021/22.  Hefyd, sicrhawyd cyllid ychwanegol ar gyfer Cam 2 Llety i Bobl Ddigartref i ddatblygu 7 uned llety â chymorth arall i unigolion sy’n ddigartref / yn cael eu bygwth â digartrefedd, ac sydd ag anghenion iechyd meddwl / anghenion cymhleth. Disgwylir y bydd y rhain yn gweithredu’n llawn yn ystod 2021/22.

Fe wnaethom sicrhau grant o bron i £5 miliwn i adeiladu tai fforddiadwy newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot (gan gynnwys dros £1 miliwn o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn a hawliwyd yn erbyn tanwariant mewn meysydd eraill ledled Cymru), ac yn ystod y flwyddyn cwblhawyd 91 o gartrefi newydd cymdeithas dai a ariannwyd gan grant. Mae tai fforddiadwy, fodd bynnag, yn cael eu darparu gan gymdeithasau tai gyda grant a heb grant, gan weithio gyda datblygwyr tai preifat weithiau pan fydd amodau cynllunio’n mynnu eu bod yn gwneud cyfraniad tai fforddiadwy. Felly, amcangyfrifir mai cyfanswm nifer y cartrefi cymdeithasau tai newydd a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, er gwaethaf cyfyngiadau’r pandemig ar y diwydiant adeiladu, yw 110 o leiaf.

Wrth i’r pandemig daro’r wlad, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd i bob cyngor i sicrhau bod yr holl bobl ddigartref yn cael llety ar unwaith, ac i alluogi i hyn ddigwydd, diddymwyd y cyfyngiadau o ran blaenoriaethu angen ar unwaith. O ganlyniad, cododd y galw am lety argyfwng dros dro o’r cyfartaledd o 40 i bron i 140 dros nos. I fodloni’r galw hwn, roedd angen nifer fawr o letyau ychwanegol.

Wrth i amwynderau gau i lawr, cytunodd Gwesty’r Ambassador a chanolfan awyr agored L&A i roi llety i’r digartref, a gyda chymorth a chyllid gan Lywodraeth Cymru rhoddwyd y cymorth gofynnol a gwasanaethau amrywiol ar waith yn syth.

Parhaodd y galw’n uchel eithriadol trwy gydol y flwyddyn; daeth yr holl landlordiaid cymdeithasol lleol at ei gilydd gyda rhai yn cynnig unedau ychwanegol i’w defnyddio fel llety argyfwng dros dro.

Wrth i’r sefyllfa barhau, darparodd Llywodraeth Cymru gyfle i wneud cais am gyllid i greu unedau llety ychwanegol ar gyfer y tymor hwy, ac roedd nifer o’r cynlluniau a roddwyd gerbron yn llwyddiannus.  

Y pandemig wnaeth ysgogi’r mwyafrif o’r galw ychwanegol, a pherthnasoedd yn chwalu a phobl oedrannus yn gwarchod eu hunain ac yn gofyn i aelodau eraill y teulu i adael oedd y prif resymau dros y galw am lety. Yn ystod rhan olaf y flwyddyn, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i gynyddu staff yn y gwasanaeth er mwyn helpu i fodloni’r galw ychwanegol, ac i ddarparu mwy o gymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth hefyd, roedd 13 o swydd newydd wrthi’n cael eu creu.

Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai

Wrth i’r pandemig daro’r wlad, trodd gwasanaeth y Grant Cyfleusterau i’r Anabl ei ffocws at gynorthwyo’r ysbytai i gael pobl allan o’r ysbyty ac atal pobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty; daeth gwaith y Grant Cyfleusterau i’r Anabl i ben am beth amser, ac roedd mwyafrif defnyddwyr y gwasanaeth yn oedrannus ac yn gwarchod eu hunain. Cafodd rhywfaint o fân waith argyfwng ei wneud hyd nes i'r gwasanaeth ailddechrau yn yr haf.

Cafodd prosesau a gweithdrefnau gweithio newydd eu creu yn ystod y cyfnod clo er mwyn eu gwneud yn addas i’r trefniad gweithio o gartref ac yn addas i’r cyfyngiadau a oedd ar waith; mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, roedd cyfanswm o 97 o swyddi wedi’u cwblhau, gyda chyfanswm amser o 363 o ddiwrnodau o’r dechrau i’r diwedd, yn wahanol iawn i’r flwyddyn flaenorol oherwydd y cyfnod clo. Darparwyd cyfanswm o 457 o fân addasiadau i gartrefi pobl trwy gyllidebau a phrosesau eraill. Effeithiwyd yn sylweddol ar weithgarwch y gwasanaeth gan y cyfnod clo, gan gynnwys unigolion yn gwarchod eu hunain nad oeddent eisiau pobl i fynd i mewn i’w cartrefi.

Hawliau Lles

Mae’r Uned Hawliau Lles yn parhau i helpu trigolion lleol drwy hunanatgyfeiriad neu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol; darperir cyngor ar eu hawliadau budd-dal. Mae’r Uned yn cynnig llinell gymorth gyhoeddus, cymorth i lenwi ffurflenni a chynrychiolaeth mewn tribiwnlysoedd apeliadau, gyda chymorth cyllid Cymunedau am Waith. Mae’r Uned wedi darparu gwasanaeth trwy gydol y pandemig COVID, er iddo wynebu heriau sylweddol yn sgil cyfyngiadau’r cyfnod clo, dim cyfarfodydd wyneb yn wyneb a chynnal tribiwnlysoedd apeliadau o bell, er enghraifft.

Hefyd, mae’r Uned yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Macmillan, sy’n darparu cyllid i gynghorwyr budd-daliadau Macmillan; eto, gwnaed y gwaith hwn o bell o leoliadau ysbytai. Er gwaetha’r heriau, yn ystod y flwyddyn, fe wnaeth yr Uned helpu dros 1,890 o bobl a chynyddu incymau budd-daliadau trigolion gan £7.3 miliwn.

Yr Iaith Gymraeg

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i gyfnerthu trefniadau mewn perthynas â’r Gymraeg trwy gydol y pandemig COVID; mae uwch swyddogion y Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda chydweithwyr corfforaethol i hyrwyddo a chefnogi gweithredu Safonau’r Gymraeg a datblygu Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg. Ni dderbyniodd y Gyfarwyddiaeth unrhyw gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn.

Blaenoriaethau ar gyfer 2020-21 - Beth ddywedom y byddem ni’n ei wneud a beth wnaethom ei gyflawni

Gan weithio gyda phartneriaid tai strategol, byddwn yn parhau i atal digartrefedd

Cafodd 66.7% (226 o 339) o aelwydydd eu hatal yn llwyddiannus rhag mynd yn ddigartref (Targed Dangosydd Perfformiad Allweddol y Cynllun Corfforaethol: 60%), o gymharu â 51.5% ar gyfer yr un cyfnod, sef 2019-20.

Oherwydd newidiadau brys yn y ddeddfwriaeth ar ddiwedd mis Mawrth 2020 o ganlyniad i COVID-19, mae’r galw am lety dros dro wedi cynyddu 140% o gymharu â’r cyfartaledd arferol, a bu’n rhaid chwilio am safleoedd llety newydd. Mae rhan o hyn yn cynnwys 18 o unedau ychwanegol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sydd ar brydlesi tymor byr i ddechrau, ond cânt eu hadolygu’n rheolaidd yn unol â’r galw.

Mae cyfarfodydd cyswllt rheolaidd yn cael eu cynnal gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar lefel rheolwyr a lefel weithredol i sicrhau cyfathrebu parhaus, a bod yr holl brosesau yn adlewyrchu lefel newydd y galw. Mae hyn yn sicrhau bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdodau Lleol yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithlon bosibl wrth weithio tuag at ailgartrefu unigolion sy’n agored i niwed.

Yn sgil y gwaharddiad ar droi allan, roedd y lefel atal yn llwyddiannus yn uwch nag a ragwelwyd. Fodd bynnag, disgwylir cynnydd pellach yn y galw pan godir y gwaharddiad yn yr haf 2021, a bydd offer atal ar gyfer hynny yn cael eu penderfynu bryd hynny ochr yn ochr â thrafodaethau gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddiddymu troi allan i fod yn ddigartref.

Byddwn yn targedu cyllid sydd ar gael i ddarparu cymorth tai effeithiol ar gyfer pobl y nodir bod angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol arnynt

Mae’r Grant Cymorth Tai (HSG) yn cynnwys Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a Gorfodi Rhentu Doeth Cymru). Mae ffocws y Grant Cymorth Tai ar atal digartrefedd - mae’n atal pobl rhag mynd yn ddigartref, yn sefydlogi eu sefyllfa dai, neu o bosibl yn helpu pobl ddigartref i ddod o hyd i lety a’i gadw.

Yn sgil y galw cynyddol o ganlyniad i newidiadau deddfwriaeth Covid, bu gofyniad i gynyddu adnoddau o fewn y gwasanaeth Opsiynau Tai i fodloni’r galw hwnnw. Mae cynnydd yn y Grant Cymorth Tai wedi galluogi’r gwasanaeth i wneud hynny, mae 13 o swyddi ychwanegol wedi’u cymeradwyo a chwblheir y recriwtio erbyn diwedd yr haf 2021. Mae hyn yn cynnwys capasiti ychwanegol ar gyfer gwaith atal a chefnogi o fewn y gwasanaeth. Hefyd, mae prosiectau newydd yn cael eu hariannu drwy’r Grant Cymorth Tai lle bydd partneriaid yn darparu cymorth arbenigol a fydd yn cynorthwyo Opsiynau Tai i fodloni’u gofynion statudol.

Yn ystod 2020/21, darparwyd bron i 3,400 o gyfnodau o gymorth i unigolion a theuluoedd, gyda 2,300 o unigolion yn derbyn cymorth fel bo’r angen, a 1,063 o unigolion mewn llety â chymorth.

Byddwn yn parhau i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl o fewn cyfyngiadau’r cyllid sydd ar gael i’r Cyngor

Amharwyd ar gyflwyno’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl gan y pandemig Covid-19 yn ystod 2020/21. Cafwyd cyfnodau estynedig o anweithgarwch yn sgil y cyfnodau clo niferus, tra bod prinderau yng nghyflenwad deunyddiau a llafur wedi achosi oedi sylweddol hefyd. Arweiniodd hyn at gynnydd yn yr amser a gymer i ddarparu Grant Cyfleusterau i’r Anabl o gyfartaledd o 196 yn 2019/20 i 363 yn 2020/21, a gostyngiad yn nifer y Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a gwblhawyd o 212 yn 2019/20 i 97 yn 2020/21. Targed Dangosydd Perfformiad Allweddol y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2020/21 oedd 230 o ddiwrnodau cyfartalog i’w cwblhau.

Fe wnaeth y galw am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ostwng hefyd gan fod pobl yn gwarchod eu hunain yn ystod y cyfnod clo ac ni wnaethant gysylltu â’r awdurdod; disgwylir i’r galw hwn ddod i mewn i’r gwasanaeth yn 2021/2022 yn ychwanegol at y galw arferol. 

Byddwn yn adeiladu ar ein gwaith fel Rhieni Corfforaethol er mwyn sicrhau bod pob person ifanc yn cael llety a chefnogaeth addas pan fydd yn gadael gofal y Cyngor

  • Effeithiwyd ar gyfleoedd i’r rhai sy’n gadael gofal gan y Pandemig. Er bod y Gwasanaeth wedi ymdrechu i gynnal a chefnogi’r rhai sy’n gadael gofal mewn cyfnod sydd wedi bod yn un anodd i bawb, mae cyfleoedd wedi lleihau. Mae hwn yn faes y bydd angen i’r Awdurdod Lleol ganolbwyntio sylw arno wrth i ni ddechrau dychwelyd i normalrwydd, ac wrth i gyfleoedd pellach ddod ar gael i’r rhai sy’n gadael gofal.
  • Canran y rhai a oedd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yn barhaus am 12 mis ar ôl gadael gofal oedd 44.4%, a’r ganran am 24 mis ar ôl gadael gofal oedd 41.9%. Mae’r ffigurau hyn islaw’r targed ac yn sylweddol islaw canlyniadau blynyddoedd blaenorol.

Sut Rydym yn Gwneud yr Hyn Rydym yn ei Wneud

Ein Gweithlu a Sut Rydym yn Cefnogi’u Rolau Proffesiynol

Er bod y pandemig wedi atal hyfforddiant wyneb yn wyneb dros dro, cynigiom raglen hyfforddi gynhwysfawr ar-lein a oedd yn amrywio o ymwybyddiaeth o Awtistiaeth i ddiogelu ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd, o hyfforddiant digidol i ofalwyr maeth i ddelio â datgeliadau trais rhywiol. Cyfranogodd cyfanswm o 1,718 o fynychwyr mewn 265 o sesiynau hyfforddi.

Trwy gydol y pandemig, cefnogwyd y gwasanaeth gan y Swyddogion Datblygu Hyfforddiant (TDO) yn ei ymateb i Covid-19 a sefydlodd raglen o hyfforddiant i hyfforddi gwirfoddolwyr a oedd yn barod i weithio mewn cartrefi gofal preifat fel y bo’r angen. Maent wedi cyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb mewn ymdrin â chleientiaid a chyfleoedd e-ddysgu ar gyfer Theori Codi a Chario i gefnogi hyfforddiant wyneb yn wyneb, yn ogystal â rheoli heintiau, Rheoli Lles trwy gydol y Pandemig Covid-19, a diogelu. Mae Swyddogion Datblygu Hyfforddiant yn parhau i gefnogi’r holl wasanaethau, yn fewnol ac allanol, mewn perthynas â darparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar faterion a phryderon Codi a Chario, a lle bo angen maent wedi darparu ymweliadau ar y safle a  hyfforddiant yng nghartrefi unigolion.

Ein Hadnoddau Ariannol a Sut Rydym yn Cynllunio ar gyfer y Dyfodol

Mae degawd o bwysau ariannu yn y sector cyhoeddus sydd wedi gweld llai o adnoddau a galw cynyddol, law yn llawn â’r pandemig byd-eang, yn golygu bod cynllunio ariannol yn parhau’n her i’r Cyngor.

Mae uwch swyddogion yn derbyn adroddiadau misol a pharatoir adroddiadau chwarterol i Aelodau Etholedig. Mae’r adroddiadau hyn yn monitro rhagolygon gwariant yn erbyn cyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n helpu nodi tueddiadau, ac amlygu pwysau costau a chyfleoedd i wneud arbedion. Mae monitro yn cynorthwyo proses pennu’r gyllideb am y flwyddyn ganlynol a Blaengynllun Ariannol y Cyngor.

Mae’r Blaengynllun Ariannol yn pennu ymagwedd rheoli ariannol tair blynedd y Cyngor, gan gynnwys amcanestyniadau, asesiad o risgiau allweddol a’n hymagwedd tymor canolig at gyflawni blaenoriaethau ariannol allweddol a blaenoriaethau gwasanaeth y Cyngor.

Ein Gwaith mewn Partneriaeth, Arweinyddiaeth Wleidyddol a Chorfforaethol, Llywodraethu ac Atebolrwydd

Parhaodd y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, a Bwrdd y Cabinet, i gyfarfod o bell trwy gydol y pandemig COVID, gan roi blaenoriaeth i’r materion, yn enwedig mewn perthynas â’r ymateb i COVID, fel y bo’r gofyn. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn mwynhau’r cyngor, y cymorth ac arweiniad a ddarperir gan ei Haelodau Cabinet, ac yn wir, y Cyngor ehangach.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn hollbwysig yn ystod y pandemig COVID, gan ganiatáu darparu gwasanaethau a chynaliadwyedd gwasanaethau, gweithio’n agos â phartneriaid ar draws y sector iechyd, a’r sector preifat a’r trydydd sector.

Llywodraethu

Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu’r Fframwaith Cyflawni Llywodraethu Da mewn Llywodraeth Leol 2016 (y Fframwaith), a ddatblygwyd gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a Chymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol  (SOLACE). Er mwyn cydymffurfio â’r Fframwaith, mae’n rhaid i’r Cyngor gyhoeddi Datganiad Llywodraethu Blynyddol (AGS), sy’n egluro’r prosesau a’r gweithdrefnau sydd ar waith er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau’n effeithiol.

Mae cyfrifoldebau a phrosesau llywodraethu corfforaethol wedi parhau ar waith trwy gydol y pandemig COVID.

Cwynion a Sylwadau

Mae Gweithdrefn Gŵynion a Sylwadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i  seilio ar ganllawiau arfer da a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Rheoliadau Gweithdrefn Gŵynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 a Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014. Mae’r weithdrefn ar gael i sicrhau bod gan bawb sy’n gwneud cwyn ynglŷn â gwasanaethau cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot hawl i gael eu clywed yn briodol. Mae’n rhaid diogelu a hyrwyddo’u buddion pennaf. Mae’n rhaid i’w barnau, eu dymuniadau a’u teimladau gael eu clywed. Dylai eu pryderon gael eu datrys yn gyflym ac effeithiol. 

Mae’r Tîm Cwynion wedi gweithio o bell trwy gydol y pandemig COVID; bu nifer o heriau, yn enwedig o ran peidio â gallu cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Wedi dweud hynny, mae staff wedi parhau i ddarparu gwasanaeth ymatebol i gefnogi achwynwyr wrth fynd i’r afael â’u cwynion a’u canlyniadau dymunol, lle bo’n briodol.

Derbyniwyd cyfanswm o 37 o gŵynion y llynedd, a oedd yn ostyngiad ar y flwyddyn flaenorol (64 yn 2019-20). Derbyniom 125 o ganmoliaethau hefyd yn ystod y flwyddyn.

Blaenoriaethau ar gyfer 2021/22 – Beth rydym eisiau ei gyflawni eleni

Wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae’r Gyfarwyddiaeth wedi nodi’r canlynol fel ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod:

  1. Sicrhau ymagwedd gadarn, gydnerth a chyson at ymarfer diogelu
  2. Ymgorffori ymhellach ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau o fewn y gwasanaethau plant ac oedolion
  3. Cefnogi plant a phobl ifanc i fyw mewn teuluoedd diogel, sefydlog a pharhaol a sicrhau mai dim ond y plant hynny y mae angen iddynt dderbyn gofal sydd mewn gofal
  4. Cyflawni ailfodelu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Oedolion
  5. Datblygu ac ymgorffori Model Rhyddhau i Ymadfer ac Asesu i gefnogi pobl i ddychwelyd adref yn brydlon ac yn ddiogel o’r ysbyty
  6. Cynnal adolygiad o ddarpariaeth weithredol gwasanaethau dydd
  7. Datblygu Gwasanaethau Ymyrryd ac Atal yn Gynnar

Nod pob un o’r rhain yw sicrhau bod y rheiny sy’n cael gofal cymdeithasol a chymorth yn cael eu trin ag urddas, effeithlonrwydd ac empathi.