Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Hawliau mynediad

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn briffyrdd sydd â hawliau mynediad amrywiol ac sydd wedi'u cofnodi ar Fap Diffiniol. Maent yn cynnwys:

Llwybrau Cerdded

Priffyrdd cyhoeddus y mae gan y cyhoedd hawl tramwy arnynt ar droed yn unig.

Llwybrau Ceffyl

Priffyrdd cyhoeddus lle gall y cyhoedd farchogaeth, arwain ceffyl, cerdded neu feicio. Rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogwyr.

Cilffyrdd Cyfyngedig

Yr holl hawliau uchod yn ogystal â'r hawl i yrru cerbydau a dynnir gan geffylau.

Cilffyrdd sy'n Agored i Bob Traffig (BOAT)

Yr holl hawliau uchod yn ogystal â'r hawl i yrru cerbydau a yrrir yn fecanyddol. Nid oes dyletswydd ar yr awdurdod priffyrdd i ddarparu wyneb ffordd sy'n addas i gerbydau.

Mae hawliau mynediad eraill yn cynnwys:

Llwybrau caniataol

Lle mae'r tirfeddiannwr wedi caniatáu hawl mynediad cyhoeddus.

Tir comin

Ceir mynediad cyhoeddus i gerddwyr i'r holl diroedd comin cofrestredig er mwyn cael awyr iach ac ymarfer corff. Nid oes hawl i'r cyhoedd feicio na gyrru cerbyd a yrrir yn fecanyddol ar dir comin.

Tir agored

Hawl mynediad cyhoeddus ar droed i ardaloedd o fynyddoedd, gweunydd, rhostiroedd a bryniau, yn ogystal ag ardaloedd y mae tirfeddianwyr wedi'u dynodi ar gyfer mynediad cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dynodi'i goedwigoedd dan deitl rhydd-ddaliad ar gyfer mynediad cyhoeddus.

Ardaloedd mynediad caniataol

Mae'r tirfeddiannwr wedi caniatáu hawl mynediad cyhoeddus ar droed. Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys rhai parciau gwledig, coetiroedd sy'n eiddo'r cyngor neu Coed Cadw, gwarchodfeydd natur a rhai rhannau o'r arfordir.

Llwybrau beicio

Hawl cyhoeddus i feicio gyda neu heb yr hawl i gerdded neu farchogaeth.