Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tîm o Amgylch y Teulu

Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu ar gyfer teuluoedd sydd eisiau gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywyd teuluol, ond sydd angen cefnogaeth i wneud hynny.                                    

Mae’n dod ag amrywiaeth o bobl ac asiantaethau ynghyd sy’n gweithio gyda’r teulu cyfan.

Rydyn ni’n darparu gwasanaethau i deuluoedd lle mae:

  • Aelod 0-25 oed o’r teulu
  • Anawsterau wedi cael eu nodi sy’n galw am help gan 2 asiantaeth neu fwy, e.e. ysgol, iechyd, tai.
  • Gwasanaethau cymdeithasol heb ymwneud â’r sefyllfa.

Gallwch chi gael atgyfeiriad i Tîm o Amgylch y Teulu gan weithiwr proffesiynol arall sy’n adnabod eich teulu, fel Athro, Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd, Gweithiwr Ieuenctid, neu gallwch chi atgyfeirio eich hunan.

Y nod yw cefnogi teuluoedd i wneud y newidiadau angenrheidiol i wella’u bywydau a byw’n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain.      

Beth allwch chi ei ddiwsgwyl gan y Tîm o Amgylch y Teulu?

Gall atgyfeiriadau ar gyfer pob gwasanaeth gael eu gwneud trwy’r Un Pwynt Cyswllt (SPOC) 01639 686802 spoc@npt.gov.uk ac maen nhw ar gael i deuluoedd sydd ddim angen cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r holl atgyfeiriadau’n cael eu trosglwyddo i banel atgyfeirio wythnosol, a fydd yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth sy’n cyfateb orau i’w hanghenion.