Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cymorth i Fenywod - Thrive

Mae gwaith yn cael ei wneud gydag oedolion, plant a phobl ifanc rhwng 4 a 25 oed sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.

Mae'r tîm yn defnyddio dull teulu cyfan wrth ddarparu cymorth, a chyflawni hyn ar sail un i un a hefyd trwy waith grŵp.  Bydd y teulu'n cael eu hasesu a bydd gwasanaeth pwrpasol yn cael ei greu i ddiwallu eu hanghenion orau.

Mae'r gwasanaeth yn gyfyngedig o ran amser a'i nod yw meithrin gwytnwch o fewn y teulu tra'n eu paratoi gyda strategaethau ymdopi.

Nod y gwasanaeth yw cynyddu hyder a hunan-barch defnyddwyr gwasanaeth a'u cynorthwyo i ailadeiladu eu perthnasoedd teuluol.

Gellir gwneud atgyfeiriadau ar gyfer pob gwasanaeth drwy'r Un Pwynt Cyswllt (SPOC) 01639 686803 spoc@npt.gov.uk ac maent ar gael i deuluoedd nad oes angen cymorth arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Caiff pob atgyfeiriad ei drosglwyddo i banel atgyfeirio yn wythnosol a fydd yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael cymorth gan y gwasanaeth sy'n diwallu eu hanghenion orau. 

Ffurflen atgyfeirio Un Pwynt Cyswllt

  • SPOC Referral Form (DOCX 79 KB)

    i.Id: 4405
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: SPOC Referral Form
    mSize: 79 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/v30jqyfj/template-spoc-referral-form.docx