Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth am Yovo

Pwy ydyn ni?

Your Voice Matters yw'r Cyngor Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o ofal. Rydyn ni'n grŵp o bobl ifanc unigryw ac amrywiol rhwng 11 a 18 oed.

Beth yw ein gwaith?

Yn fwyaf pwysig, rydyn ni'n cael hwyl! Fel grŵp, rydyn ni wedi mwynhau dringo creigiau, trampolinio, ymweliadau addysgol, bowlio a beicio i enwi rhai yn unig. Mae gennym ni ddiddordeb angerddol mewn Hawliau Plant a sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal yn cael llais. Ein nod, trwy waith prosiect, yw gwella cyfleoedd a bywydau pobl ifanc. Rydyn ni bob amser yn croesawu aelodau newydd. Ymuna â ni i wneud gwahaniaeth. 

Gyda phwy rydyn ni'n gweithio?

Rydyn ni'n gweithio gyda llawer o grwpiau a sefydliadau er mwyn gwella Hawliau Plant. Dyma rai o'n partneriaid:

Sut mae ymuno?

Cysyllta â Darren Bartley Ffôn: 01639 685964 d.bartley@npt.gov.uk