Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Stori Gofalwyr Ifanc

Gall gofalu am rywun sy'n agos i ni roi boddhad mawr iawn a bod yn heriol iawn ar adegau.  Gall unrhyw un ddod yn ofalwr ifanc ar ryw adeg yn ystod eu plentyndod ac mae'n bwysig gwybod bod yna bobl sy'n gallu helpu a chynnig cefnogaeth. Mae stori Jamie i'w gweld isod.

Stori Jamie

Mae Jamie yn 15 oed ac yn ofalwr ifanc sy'n gofalu am ei fam a'i frawd. Mae Jamie wedi bod yn ofalwr am fwy na blwyddyn ac fe wnaeth hynny newid ei fywyd dros nos. Cyn hynny, roedd e'n gallu mynd allan gyda'i ffrindiau bron bob dydd ond dydy e ddim yn gallu mynd allan yn aml nawr am fod rhaid iddo helpu ei fam, cadw'r tŷ'n lân, coginio prydau bwyd, sicrhau bod ei fam yn cymryd ei meddyginiaeth a rhoi cymorth emosiynol. Pan fydd pobl yn gofyn iddo: "Pe baet ti'n cael siawns i beidio bod yn ofalwr ifanc, fyddet ti'n ei derbyn?' ei ateb bob amser yw: "Na, achos mae cwlwm gwych rhyngof i a mam a fyddwn i ddim yn newid hynny am bris yn y byd." Mae Jamie hefyd yn gofalu am ei frawd sy'n awtistig. Mae'n ymdopi'n dda ond mae'n gweld coginio'n anodd weithiau. Mae Jamie wedi cael cymorth gan ei wasanaeth gofalwyr ifanc lleol. Mae dod i adnabod gofalwyr ifanc sydd mewn sefyllfaoedd tebyg wedi'i helpu'n fawr.