Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Am Llwybr 16

Ni yw Llwybr 16!

Ni yw'r tîm gadael gofal ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.

Rydyn ni'n cefnogi pobl ifanc 16-25 oed sy'n derbyn gofal ac yn gadael gofal. 

Mae bod yn ifanc yn gallu bod yn amser heriol ac rydyn ni yma i wrando a rhoi cyngor a chefnogaeth i ti gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd ac yn dy helpu gyda'r pethau yma:

  • Iechyd a Llesiant
  • Tai
  • Budd-daliadau
  • Cyllid a Chyllidebu
  • Addysg a Hyfforddiant
  • Cyflogaeth a Gyrfaoedd
  • Cymorth ymarferol
  • Dy ddyfodol