Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth am Ieuenctid CnPT

Nod Gwasanaeth Ieuenctid CNPT yw rhoi profiadau diddorol a heriol i bobl ifanc. Ymuna â ni, byddi di’n cael hwyl ac fe wnawn ni dy helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a dod yn aelod gweithgar a gwerthfawr o'r gymuned. Sut byddwn ni'n gwneud hyn? Mae gennym ni dîm o weithwyr ieuenctid  sy'n ymgysylltu â phobl ifanc ac yn darparu prosiectau ieuenctid arloesol. Rydyn ni'n gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed. Os bydd angen unrhyw gymorth a chefnogaeth arnat ti, rydyn ni yma i ti. Mae ein tîm wedi’u hyfforddi i helpu pobl ifanc sy'n cael amser anodd. Rydyn ni'n rhoi cymorth a chyngor ar amrywiaeth o faterion o ofalwyr ifanc i bobl LHDT.