Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

CCUHP

Cytundeb rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) sy'n amddiffyn hawliau dynol plant a phobl ifanc o dan 18 oed.  Mae'n rhestru'r hawliau y dylai plant a phobl ifanc eu derbyn ac yn egluro sut dylai plant gael eu trin.

Rwyt ti’n gallu darllen am CCUHP yma

Neu rwyt ti’n gallu gwrando ar blant yn siarad am hawliau a pham maen nhw'n bwysig yma:

Dyma rai o'th hawliau:

Chwarae (Erthygl 31)

Eich hawl i ymlacio a chwarae.

Llais (Erthygl 12)

Eich hawl i ddweud beth ddylau ddigwydd ac i rywun wrando arnoch.

Dysgu (Erthygl 28)

Eich hawl i ddysgu a mynd i'r ysgol.

Bywyd iach (Erthygl 6)

Mae gennych yr hawl y fywyd ac i dyfi i fod yn iach.

Crefydd (Erthygl 14)

Eich hawl i ddilyn eich crefydd eich hun.

Amddiffyniad (Erthygl 36)

Dylech gael eich diogelu rhag gwneud pethau a allai beri niwed i chi.

Preifatrwydd (Erthygl 16)

Eich hawl i breifatrwydd.

Bod yn ddiogel (Erthygl 11)

I beidio a chael eich cymryd o'r wlad yn anghyfreithlon.

Eisiau gwybod mwy?

Edrych ar y gwefannau yma: