Gallwch feddwl am gysylltedd digidol fel cyfleustodau fel nwy, dŵr a thrydan.
Mae'n sail i bron pob agwedd ar fywyd modern ar draws:
- gwaith
- teithio
- hamdden
- iechyd
- addysg
Nod y dudalen hon yw helpu dinasyddion a busnesau i "gael eu cysylltu".
Mae'r Cyngor yn rhan o raglen ehangach Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Rydym yn rhannu dyheadau:
- gwell band eang i bawb – gadael neb ar ôl
- dod yn Rhanbarth Smart, yn barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg
- tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb