Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Datganiad o fwriad cymhwysedd hyblyg ECO4 V1.1

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2023

Rhif y fersiwn: V1.1 

Mae’r datganiad hwn yn disgrifio meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Castell-nedd Port Talbot (LA Flex) ar gyfer y cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO4) (y “cynllun ECO4”) o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2026.

Bydd y cynllun ECO4 yn canolbwyntio ar gefnogi aelwydydd incwm isel ac agored i niwed. Bydd y cynllun ECO4 yn gwella’r cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni gan helpu i gyflawni ymrwymiadau tlodi tanwydd a sero net y Llywodraeth.

Cyfeirir at yr ymagwedd hyblyg y gall Awdurdodau Lleol (ALlau) ei dilyn i nodi aelwydydd sy’n agored i niwed ac yn dlawd o ran tanwydd, a allai elwa o fesurau arbed gwres ac ynni, fel “ECO4 Flex”.

Mae’r Cyngor yn croesawu cyflwyno llwybrau cymhwysedd ECO4 Flex gan fod hyn yn helpu’r Cyngor i gyflawni’i gynlluniau i wella cartrefi’r rhai sydd mewn tlodi tanwydd neu sy’n agored i niwed yn sgîl oerfel.

Mae’r Cyngor yn cyhoeddi’r Datganiad hwn o Fwriad ar 1 Chwefror 2023 i gadarnhau y bydd yn datgan bod aelwyd yn gymwys ar gyfer cynllun ECO4 os yw’n perthyn i o leiaf un o’r pedwar llwybr posibl a amlinellir isod.

Llwybr 1: Aelwydydd bandiau D-G y Weithdrefn Asesu Safonol sydd ag incwm gros blynyddol o dan £31,000. Mae’r terfyn hwn yn berthnasol beth bynnag yw maint, cyfansoddiad neu ardal yr eiddo.

Llwybr 2: Aelwydydd bandiau E-G y Weithdrefn Asesu Safonol sy’n bodloni dau brocsi o blith y canlynol:

  • Procsi 1) Cartrefi yn narpariaeth Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) 1-3 Cymru ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019
  • Procsi 2) Deiliaid tai sy’n cael ad-daliad Treth y Cyngor (ad-daliadau yn seiliedig ar incwm isel yn unig, gan eithrio’r ad-daliad person sengl).
  • Procsi 3) Deiliaid tai sy’n agored i niwed o ganlyniad i fyw mewn cartref oer, fel a nodwyd yn Arweiniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Dim ond un procsi o’r rhestr y gellir ei ddefnyddio, ac eithrio’r procsi ‘incwm isel’.
  • Procsi 4) Deiliad tŷ sy’n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd incwm isel.
  • Procsi 5) Deiliad tŷ a gefnogir gan gynllun sydd gan y Cyngor, a enwyd ac a ddisgrifiwyd gan y Cyngor fel cynllun sy’n cefnogi aelwydydd incwm isel ac agored i niwed at ddibenion Arweiniad NICE.
  • Procsi 6) Aelwyd a gafodd atgyfeiriad i’r Cyngor am gymorth gan gyflenwr ynni neu Gyngor ar Bopeth, oherwydd y nodwyd eu bod yn cael trafferth talu eu biliau trydan a nwy.
* Sylwer: nid oes modd defnyddio procsis 1 a 3 gyda’i gilydd.
Sylwer: Nid yw procsi 5 ar gael. Nid yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhedeg cynllun sy'n bodloni'r meini prawf hyn

Llwybr 3: Aelwydydd bandiau D-G y Weithdrefn Asesu Safonol a nodwyd fel aelwydydd incwm isel neu agored i niwed gan eu meddyg neu feddyg teulu, sy’n cynnwys preswylydd y gallai’r ffaith eu bod yn byw mewn cartref oer effeithio ymhellach ar eu cyflyrau iechyd. Gall y cyflyrau iechyd hyn fod yn rhai cardiofasgwlaidd, resbiradol, imiwnoataliedig neu’n gysylltiedig â symudedd cyfyngedig.

Gellir atgyfeirio aelwydydd o dan y llwybr hwn gan ymddiriedolaeth sylfaenol GIG, Ymddiriedolaeth GIG, Bwrdd Iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol, neu ddarparwr sy’n ymarferydd meddygol cyffredinol yn unig (gofynnwch am gopi o dempled llythyr atgyfeirio’r GIG drwy anfon e-bost at CBSCNPT i renewalarea@npt.gov.uk). 

Llwybr 4: Aelwydydd bandiau D-G y Weithdrefn Asesu Safonol a atgyfeirir o dan Lwybr 4: Targedu Pwrpasol. Gall cyflenwyr ac ALlau gyflwyno cais i BEIS pan fyddant wedi dod yn ymwybodol o aelwyd incwm isel ac agored i niwed nad yw eisoes yn gymwys o dan y llwybrau presennol.

Y Broses

Dylai aelwydydd sydd am wneud cais am arian ECO4 gysylltu ag un o’r gosodwyr ECO cymeradwy a restrir ar wefan Cymru Gynnes a fydd yn hwyluso’r broses ymgeisio.

Nodwch nad yw cynllun ECO4 yn gynllun a ariannir nac a reolir gan y Cyngor a bod sawl agwedd arno y tu allan i reolaeth neu ddyluniad y Cyngor.

Dim atebolrwydd

Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw ganlyniad negyddol, difrod neu golled sy’n deillio o dderbyn grant cynllun ECO4. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion sy’n gysylltiedig â’r cais paratoi neu’r arolwg cyn gosod neu o ganlyniad i waith a gyflawnir o dan y cynllun ECO4.

Sylwch nad yw’r Cyngor yn cymeradwyo unrhyw gyflenwr ynni penodol, asiant grant, gosodwr neu gwmni sy’n gysylltiedig â chymhwyso grantiau neu osod cynhyrchion ECO4.

Dylid codi unrhyw gŵyn neu broblem sy’n ymwneud â’r gwaith neu’r broses ymgeisio ar gyfer cynllun ECO4 gyda’r parti gosod / asiant/ cyllidwr. Mae ymwneud y Cyngor â’r cynllun wedi’i gyfyngu i’r datganiad cymhwysedd ar gyfer arian ECO4. Os byddwch am gael esboniad pellach ar y datganiad, anfonwch e-bost i  renewalarea@npt.gov.uk

Penderfyniad terfynol

Caiff y penderfyniad ynghylch a yw aelwyd yn derbyn mesur dan gymhwysedd hyblyg cynllun ECO4 neu ffrydiau ariannu eraill ECO ei wneud gan y cyflenwyr ynni neu eu hasiantau / contractwyr. NI fydd cymhwyster yn y datganiad o fwriad na'r datganiad a lofnodir gan y Cyngor yn gwarantu gosod unrhyw fesurau, gan mai'r cyflenwr fydd yn gyfrifol am y penderfyniad terfynol.

Er y bydd rhai o’r mesurau sy’n cael eu hariannu gan grant ar gael am ddim i ddeiliad y tŷ yn y man gwerthu, mae’n bosib y bydd eraill yn cael eu hariannu’n rhannol trwy grant ac y bydd angen cyfraniad gan ddeiliad y tŷ neu’r asiant er mwyn eu darparu.

Bydd rhyddid gan y perchennog neu'r meddiannydd i ddefnyddio’u disgresiwn i dderbyn neu wrthod unrhyw drefniant ariannol neu gontractiol sy'n ymwneud â gosod mesur neu arolwg neu wasanaeth cartref penodol, yn ôl eu dymuniad. Ni fydd y Cyngor yn rhan o unrhyw drefniadau o'r fath; bydd hyn rhwng y defnyddiwr ac unrhyw drydydd parti o'u dewis ar restr Cymru Gynnes o asiantau/gontractwyr cymeradwy yn unig.

Llywodraethu

Bydd angen i unrhyw gais am asesiad o dan y Datganiad hwn o Fwriad gael ei wneud i Cymru Gynnes. Ni fydd y Cyngor yn derbyn ceisiadau’n uniongyrchol.

Os ydych am wneud cais am gadarnhad o gymhwysedd ar gyfer y grant, cysylltwch yn uniongyrchol ag un o’r gosodwyr ECO cymeradwy a restrir ar wefan Cymru Gynnes

Dilysir holl geisiadau ECO4 gan Cymru Gynnes

Bydd angen i unrhyw drydydd parti, asiant neu gontractwr sydd â chleientiaid/chwsmeriaid y maen nhw am eu hatgyfeirio ar gyfer arian cynllun ECO4 fod ar restr Cymru Gynnes o gontractwyr / asiantau cymeradwy a sicrhau bod y cleientiaid hynny’n defnyddio gwasanaethau fetio Cymru Gynnes a bod Cymru Gynnes yn atgyfeirio’r cleientiaid hynny i’r Cyngor.

Monitro

Rhaid cofnodi gwybodaeth am nifer y datganiadau a roddir gan y Cyngor trwy ddefnyddio Rhif Cyfeirnod Unigryw yr Eiddo (UPRN), y cyfeiriad, y mesurau sydd i’w gosod, a’r llwybr cymhwysedd, a’u darparu i OFGEM.

Hysbysiad preifatrwydd

Er mwyn gwneud cais am arian cynllun ECO4, bydd angen i Cymru Gynnes, contractwyr ac asiantau gasglu data personol.  Nid yw’r Cyngor yn gallu prosesu datganiadau heb ymwneud â’r trydydd partïon hyn a enwyd.  Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am gael hyd i arian y cynllun ECO4, nac am drefnu i osod unrhyw fesurau. Er mwyn prosesu llythyr y datganiad, bydd angen i’r Cyngor gael yr wybodaeth ganlynol gan Cymru Gynnes: Enw’r Cleient, y Cyfeiriad, y dystiolaeth sy’n cefnogi’r cais a’r llwybr atgyfeirio.

Unwaith bydd datganiad wedi’i roi i Cymru Gynnes, bydd y Cyngor yn anfon yr wybodaeth yn y cais at OFGEM. Sylwch nad yw’r Cyngor yn gyfrifol am gynnig y grant na’i gyflenwi. Bydd y Cyngor yn trin yr holl ddata personol a brosesir ar gyfer cynllun ECO4 yn unol â gofynion Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig 2016 a Deddf Diogelu Data 2018. Bydd y Cyngor yn storio’r holl ddata personol am gyfnod heb fod yn llai na 3 blynedd.

Cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Adnewyddu ac Addasu Tai y Cyngor, sy’n esbonio sut mae’r Cyngor yn defnyddio data personol.

Datganiad a chadarnhau gwirio’r dystiolaeth

Dylai pob aelwyd a allai fod yn gymwys gyflwyno cais trwy un o gontractwyr / asiantau cymeradwy Cymru Gynnes er mwyn sicrhau bod modd iddynt naill ai elwa o’r cynllun ECO4 neu gael asesiad o’u cymhwysedd o dan unrhyw raglen berthnasol arall.

Y swyddog isod fydd yn gyfrifol am lofnodi datganiadau o gymhwysedd ar ran y Cyngor:

Uwch-swyddog Tai Christopher Davies
(01639) 686504 (01639) 686504 voice +441639686504

Awdurdodir y swyddogion sy’n dal y swyddi canlynol hefyd i lofnodi datganiadau o gymhwysedd ar ran y Cyngor:

  • Uwch-syrfëwr Tai:
  • Prif Swyddog – Gwasanaethau Tai a Digartrefedd

Cymru Gynnes fydd yn gweinyddu’r cynllun ECO4 ar ran y Cyngor yn unol â Gorchymyn ECO4 BEIS a bydd yn nodi aelwydydd cymwys trwy broses ymgeisio Ofgem.

Os bydd unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch y Datganiad hwn o Fwriad, cysylltwch â c.davies7@npt.gov.uk