Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Treth y Cyngor

  1. Drwy ddarparu'ch gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

  2. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

        Gweinyddu Treth y Cyngor, gan gynnwys bilio, casglu a gorfodi.  

  1. Fel Rheolwr y Data, mae'n ofynnol i'r cyngor, dan GDPR, roi gwybod i chi am ba un o "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 GDPR y mae'n dibynnu arno i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar y ddau amod canlynol o Erthygl 6:

    1. Mae prosesu'r data'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn destun iddi". (Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU)..
    2. "Mae'r prosesu data'n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr." (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU).

  2. Gallwn rannu eich data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i'r cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny:

    • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (at ddibenion ymchwil ystadegol)
    • Llywodraeth Cymru (at ddibenion ymchwil ystadegol)
    • CThEM (i atal a chanfod twyll)
    • Asiantiaid Gorfodi (at ddibenion ufuddhau i orchmynion dyled)
    • Cyfreithwyr (ar gyfer cyngor cyfreithiol)
    • Datatank (i wneud gwiriadau preswylfeydd)
    • Gov Notify (ar gyfer anfonebu a gohebiaeth)
    • Tribiwnlys Prisio Cymru (i gynnal a chadw rhestr prisiad eiddo)
    • Cyflogwyr (i adennill Treth y Cyngor)
  1. Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y cyngor am gyfnod o
    •  8 mlynedd, fodd bynnag os yw cyfrifon Treth y Cyngor mewn ôl-ddyledion, neu os yw'r sawl sy'n talu'r Treth y Cyngor yn derbyn gostyngiad/wedi'i eithrio, gall fod angen i'r awdurdod gadw'r wybodaeth hon nes y bydd yr ôl-ddyledion wedi'u talu neu nad yw'r sawl sy'n derbyn gostyngiad/wedi'i eithrio yn hawlio hyn mwyach.
  1. Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gall eich methiant i roi'r wybodaeth honno i ni arwain at anallu'r cyngor i ddarparu gwasanaeth i chi a/neu gallech wynebu achos cyfreithiol.

  2. Byddem yn eich hysbysu bod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 GDPR y DU, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

  3. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd.  Bydd holl waith prosesu'ch data gennym ni yn cael ei wneud yn Ardal Economaidd Ewropeaidd y Deyrnas Unedig neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd.

  4. Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

  5. Sylwer, o dan GDPR y DU, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:

    1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
    2. Yr hawl i gael rheolwr data i gywiro data anghywir.
    3. Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    4. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig)..
    5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol
    6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.   

  1. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ein defnydd o'ch data personol, os ydych am gael mynediad ato neu os hoffech gyflwyno cwyn am brosesu'ch data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r cyngor yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

  2. Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r ysgol (gweler 11 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.  Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth