Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Prosiect Treftadaeth Castell-nedd Port Talbot (Eiddo ac Adfywio)

  1. Drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw’r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben (UKGDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)) ac rydych yn rhoi caniatâd i’r Cyngor ddefnyddio’ch data personol at y dibenion a nodir ym mharagraff 2 isod:

    Gan eich bod yn cydsynio i’r Cyngor ddefnyddio’ch data personol, fe’ch hysbysir y gallwch dynnu eich caniatâd i’r prosesu hwn yn ôl ar unrhyw adeg drwy ein hysbysu’n ysgrifenedig.

  2. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy’r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â’i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

    • Monitro a Gwerthuso Prosiect Treftadaeth Castell-nedd Port Talbot (Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn ystod ei gyfnod cyflawni

  3. Fel rheolwr data, mae’n ofynnol i’r cyngor, o dan y UKGDPR, eich hysbysu o ba rai o “Amodau Prosesu Data” UKGDPR y mae’n dibynnu arnynt i brosesu’ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â’r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon, ein bod yn dibynnu ar yr amodau canlynol o Erthygl 6):

    • “Mae’r prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i’r rheolwr” (Erthygl 6(1)(a) UKGDPR).

  4. Gallwn rannu eich data personol yn ddiogel â’r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i’r cyngor) yn unol â’r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda’r trydydd partïon hynny:

    • Contractwr - Ymgynghoriaeth Ruth Garnault
    • Cymdeithion - Gweni Llwyd

  5. Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir gennych yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o:

    • 5 mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect, sef 31 Mawrth 2024

  6. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o’ch data personol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd holl waith prosesu eich data personol gennym yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig, yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd.

  7. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

  8. Sylwer, o dan y UKGDPR, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â’u data personol:

    i. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
    ii. Yr hawl i gywiro data gwallus gan reolwr data.
    iii. Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    iv. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    v. Yr hawl i wrthwynebu i’w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    vi. Yr hawl i drosglwyddo data (h.y. trosglwyddo data’n electronig i reolwr data arall).

    Gellir cael mwy o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

  9. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein defnydd o’ch data personol, rydych yn dymuno cael mynediad at yr un data neu rydych am wneud cwyn am brosesu’ch data personol, cysylltwch  os gwelwch yn dda â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

  10. Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data’r cyngor (gweler rhif 9 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd a mwy o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y comisiynydd