Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Gwasanaeth Rheoleiddiol Cyfreithiol

Rhif fersiwn: 1.0

Dyddiad cyhoeddi: 27/10/2022

  1. Drwy ddarparu'ch gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

  2. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol: gweinyddu a gorfodi’r canlynol

    • Trwyddedau Cerbydau Hacni (tacsis) a Hurio Preifat
    • Trwyddedau, hawlenni a hysbysiadau alcohol ac adloniant,
    • Trwyddedau, hawlenni a hysbysiadau gamblo
    • Trwyddedau a hawlenni casglu elusennol
    • Trwyddedau cychod a chychwyr
    • Trwyddedau tân gwyllt
    • Cofrestru trinwyr gwallt
    • Trwyddedau petrolewm
    • Trwyddedau delwyr metel sgrap
    • Trwyddedau sefydliadau rhyw a lleoliadau adloniant rhyw
    • Cofrestru perfformwyr sy'n perfformio hypnotiaeth ar y llwyfan
    • Caniatâd Masnachu ar y Stryd
    • Cofrestru sefydliadau tatwio, tyllu cosmetig, aciwbigo, electrolysis
    • Cofrestru Tiroedd Comin
    • Hawliau Tramwy

     

  3. Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r cyngor, o dan y GDPR, eich hysbysu o ba rai o "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 y GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar y ddau amod canlynol o Erthygl 6:
    1. "Mae prosesu'r data'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn destun iddi". (Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU).
    2. “Mae'r prosesu data angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr.” (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU).


  4. Ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat, byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel â'r Heddlu yn unol â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cytunedig sydd gennym ar waith gyda nhw.  Byddant yn cadw data o'r fath a rannwyd at ddibenion lleihau unrhyw risg o ran diogelu i aelodau'r cyhoedd.

  5. Gallwn rannu'ch data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i'r cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny

    • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
    • Yr Heddlu
    • Y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd
    • Byrddau Iechyd Lleol y GIG
    • Y Gwasanaethau Mewnfudo
    • Llysgenadaethau Tramor os ydych yn ddinesydd tramor neu wedi byw dramor
    • Menter Twyll Genedlaethol
      Y Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol (NAFN) - Cronfa ddata genedlaethol o achosion o wrthod a dirymu trwyddedau gyrwyr cerbydau hacni a hurio preifat
    • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
    • Cyllid a Thollau EM
    • DVLA
    • Awdurdodau Lleol eraill


  6. Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y cyngor cyhyd ag y bydd y drwydded, yr hawlen, y caniatâd neu'r hysbysiad yn bodoli neu hyd at 6 mlynedd ar ôl iddi/iddo ddod i ben.

  7. Pan fo ymgeisydd am drwydded i yrru cerbyd hacni neu hurio preifat yn cael ei wrthod neu lle mae deiliad trwydded o’r fath yn cael ei ddirymu, bydd eich data personol yn cael ei roi ar y Gofrestr NR3 - Cofrestr Genedlaethol o Wrthodiadau a Dirymiadau Gyrwyr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat ( “y gofrestr”).  Os bydd eich manylion yn cael eu rhoi ar y gofrestr, bydd y cyngor yn cadw'ch gwybodaeth bersonol am hyd at 25 mlynedd.  Mae’r gofrestr yn cael ei chynnal gan y Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol (NAFN) a’u manylion cyswllt yw:

    Gwasanaeth Data a Chudd-wybodaeth NAFN  
    Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Tameside
    PO Box 304
    Ashton under Lyne
    OL6 0GA

    Ffôn: 0161 342 3480

    E-bost: general@nafn.gov.uk

  8. Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gall eich methiant i roi'r wybodaeth honno i ni arwain at anallu'r cyngor i ddarparu gwasanaeth i chi a/neu gallech wynebu achos cyfreithiol

  9. Fe'ch hysbyswn fod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 GDPR y DU, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol

  10. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd holl waith prosesu'ch data gennym ni yn cael ei wneud yn Ardal Economaidd Ewropeaidd y Deyrnas Unedig neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd.

  11. Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

  12. Sylwer, o dan GDPR y DU, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:
    1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
    2. Yr hawl i gael rheolwr data i gywiro data anghywir
    3. Yr hawl i gael data wedi'i ddileu (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig)
    4. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio at ddibenion marchnata uniongyrchol
    6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).

    Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth

  13. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ein defnydd o'ch data personol, os ydych am gael mynediad ato neu os hoffech gyflwyno cwyn am brosesu'ch data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r cyngor yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

  14. Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r ysgol (gweler 11 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.  Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y Comisiynydd yn wefan y Comisiynydd Gwybodaeth