Mae Strategaeth Digwyddiadau Castell-nedd Port Talbot newydd yn cael ei chyflwyno gan y Cyngor i annog twf digwyddiadau awyr agored yn yr ardal.
Mae'r Cyngor yn awyddus i gael barn preswylwyr, ymwelwyr a threfnwyr digwyddiadau ac i ddeall yn well y mathau gwahanol o ddigwyddiadau a gwyliau awyr agored lleol yr hoffai pobl fynd iddynt yn ein sir drwy holiadur ar-lein.
Bydd canlyniadau'r holiadur yn arwain y camau gweithredu a gynhwysir yn y strategaeth newydd yn uniongyrchol.
Bydd copïau papur o'r holiadur hefyd ar gael yn Llyfrgelloedd Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe tan ddydd Mercher 24 Gorffennaf 2024 pan fydd yr arolwg ar-lein hefyd yn cau.
Mae'r strategaeth newydd yn cael ei chyflwyno fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau'r Cyngor, sydd yn ei thro'n cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU.