Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Etholiad

Cygnor Tref Glyn-nedd - Ward Gorllewin Canolog

Ethol Cynghorydd Cymuned

  1. Bydd etholiad yn cael ei gynnal er mwyn ethol Cynghorwyr Cymuned dros y Ward isod.
  2. Rhaid i bapurau enwebu gyrraedd swyddfa’r Swyddog Canlyniadau, Ystafell 233, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ ar unrhyw ddiwrnod wedi dyddiad yr hysbysiad hwn, ond nid yn hwyrach na 4pm 18 Hydref 2024.
  3. Fel arall, rhaid i bapurau enwebu electronig cyflawn gael eu danfon i: enwebiadau@npt.gov.uk yn unol a'r trefniadau a nodir yn y datganiad ar gyflwyno’n electronig a geir drosodd.
  4. Gellir cael papurau enwebu o swyddfeydd y Swyddog Canlyniadau, Ystafell 233, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot o 10 Hydref 2024.
  5. Os oes cystadleuaeth am leodd yn yr etholiad, yna cynhelir y pleidleisio ar 14 Tachwedd 2024.
  6. Rhaid i geisiadau i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 12 ganol nos, 29 Hydref 2024. Gellir gwneud cais ar-lein yn: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
  7. Rhaid i geisiadau am bleidleisiau drwy’r post, neu geisiadau i’w diwygio neu eu ddiddymu, gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Ystafell 233, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, Erbyn 5pm ar 30 Hydref 2024.
  8. Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Ystafell 233, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot erbyn 5pm ar 6 Tachwedd 2024.
  9. Mae'n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn ar sail anallugrwydd corfforol, neu am rhesymau gwaith/gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar 14 Tachwedd 2024. Mae'n rhaid bod yr anallugrwydd corfforol wedi digwydd ar ol 5pm 6 Tachwedd 2024. I wneud cais ar sail gwaith/gwasanaeth, mae’n rhaid bod y person wedi dod i wybod na all fynd i'r orsaf bleidleisio’n bersonol ar ol 5pm 6 Tachwedd 2024.
Ward Nifer y Cynghorwyr
Gorllewin Canolog 1

Dyddideig 10 Hydref 2024

Karen Jones
Swyddog Canlyniadau
Y Ganolfan Ddinesig,
Port Talbot SA13 1PJ

Chyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ