Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Ymyrryd yn Gynnar ac Atal (Cymorth Cynnar)

  1. Drwy ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)) ac rydych yn caniatáu i'r Cyngor ddefnyddio eich data personol at y dibenion a nodir ym mharagraff 2 isod.Am eich bod yn caniatáu i'r cyngor ddefnyddio'ch data personol, sylwer y gallwch dynnu'ch caniatâd prosesu hwn yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni'n ysgrifenedig.
  2. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:
    Mae angen i'r Cyngor brosesu data fel y gall ddarparu gwasanaeth i ddiwallu eich anghenion unigol chi a'ch teulu. Drwy gasglu eich data, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gydlynu cefnogaeth ar draws gwasanaethau mewnol ac allanol i ddarparu ymateb priodol i chi ac anghenion eich plentyn i sicrhau eich bod yn elwa o'r ystod o ymyriadau a gwasanaethau a ddarperir.
  3. Fel Rheolwr Data, mae gofyn i'r cyngor o dan GDPR y DU roi gwybod i chi ar ba un o'r "Amodau Prosesu Data" yn Erthygl 6 GDPR y DU y mae'n dibynnu i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych, ein bod yn dibynnu ar yr amod(au) canlynol o Erthygl 6: “Mae gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd i'w ddata gael ei brosesu at un diben penodol neu fwy." (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU).
  4. Gallwn rannu'ch data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i'r cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny
    • Gwasanaeth Iechyd
    • Llywodraeth Cymru
    • Heddlu
    • Gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf a gomisiynir gan CNPT
    • Cymdeithasau Tai
    • Awdurdodau Lleol Eraill
  5. Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o 10 mlynedd ar ôl dyddiad y panel.
  6. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd holl waith prosesu'ch data gennym ni yn cael ei wneud yn Ardal Economaidd Ewropeaidd y Deyrnas Unedig neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd.
  7. Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.
  8.  Sylwer, o dan GDPR y DU, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:
    1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data
    2. Yr hawl i gael rheolwr data i gywiro data anghywir
    3. Yr hawl i gael data wedi'i ddileu (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig)
    4. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig)
    5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol
    6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall)

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

  1. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ein defnydd o'ch data personol, os ydych am gael mynediad ato neu os hoffech gyflwyno cwyn am brosesu'ch data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r cyngor yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.
  2. Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r cyngor (gweler rhif 9 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y Comisiynydd.