Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad preifatrwydd - Llyfr Cydymdeimlo

Background

Drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben (UKGDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

  • cofnodi teyrngedau mewn llyfr cydymdeimlo ar lein.
  • cofnodi teyrngedau mewn llyfr cydymdeimlo i’w gadw yng Ngwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg.

Controlling your personal information

Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r cyngor, o dan y UKGDPR, eich hysbysu o ba rai o "Amodau Prosesu Data" UKGDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon, ein bod yn dibynnu ar yr amodau canlynol o Erthygl 6):

  • “mae'r prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr." (UKGDPR).

Gallwn rannu eich data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i'r cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny. Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

What we do with the information we gather

Bydd yr wybodaeth berthnasol a gesglir oddi wrthych ar y ffurflen hon yn cael ei dal gan y Cyngor i bwrpasau llunio’r llyfr cydymdeimlo, ac wedyn bydd yn cael ei gadw am gyfnod o dair blynedd, i gofnodi’r ffaith eich bod wedi dymuno cael eich cynnwys yn y llyfr.

Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gall eich methiant i roi'r wybodaeth honno i ni arwain at anallu'r cyngor i ddarparu gwasanaeth i chi a/neu gallech wynebu achos cyfreithiol.

Byddem yn eich hysbysu bod gennych yr hawl, o dan UKGDPR, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o'ch data personol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Bydd holl waith prosesu eich data personol gennym yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig neu yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Sylwer, o dan y UKGDPR, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:

  • yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
  • yr hawl i gywiro data gwallus gan reolwr data.
  • yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig). 
  • yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
  • yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
  • yr hawl i drosglwyddo data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein defnydd o'ch data personol, rydych yn dymuno cael mynediad at yr un data neu rydych am wneud cwyn am brosesu'ch data personol, cysylltwch os gwelwch yn dda â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r cyngor (gweler rhif 11 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a mwy o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y comisiynydd.