Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Cydsynio i Gwrs Dŵr

  1. Drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

  2. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

    • Cydsynio i Gwrs Dŵr a/neu Orfodi Cydsynio i Gwrs Dŵr

  3. Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r cyngor, o dan y GDPR, eich hysbysu o ba rai o "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 y GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar y ddau amod canlynol o Erthygl 6:

    1. "Mae'n angenrheidiol prosesu'r data er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn destun iddo". (Erthygl 6(c) y GDPR).
    2. "Mae'r prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr." (Erthygl 6(e) y GDPR).

  4. Ni fyddwn yn rhannu'ch data personol ag unrhyw drydydd parti (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i'r cyngor) oni bai fod angen i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

  5. Bydd yr wybodaeth bersonol a oddi wrthych ar y ffurflen hon yn cael ei chadw gan y cyngor am gyfnod o 20 mlynedd.

  6. Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gall eich methiant i roi'r wybodaeth honno i ni arwain at anallu'r cyngor i ddarparu gwasanaeth i chi a/neu gallech wynebu achos cyfreithiol.

  7. Byddem yn eich hysbysu bod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 y GDPR, i gyflwyno gwrthwynebiad i'r awdurdod ar unrhyw adeg ynghylch y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

  8. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o'ch data personol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.  Bydd holl waith prosesu eich data personol gennym yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig neu yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

  9. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o'ch data personol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.  Bydd holl waith prosesu eich data personol gennym yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig neu yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

  10. Sylwer, o dan y GDPR, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:

    i. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
    ii. Yr hawl i gywiro data gwallus gan reolwr data.
    iii. Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    iv. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    v. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    vi. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).

    Gellir cael mwy o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth

  11. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein defnydd o'ch data personol, rydych yn dymuno cael mynediad at yr un data neu rydych am wneud cwyn am brosesu'ch data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r cyngor yn y cyfeiriad canlynol: Cyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

  12. Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r cyngor (gweler rhif 9 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a mwy o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth