Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad preifatrwydd - Cofrestrwyr (1)

Cefndir

Mae’r polisi hwn yn esbonio sut y defnyddir yr wybodaeth amdanoch a gesglir gennym a'ch hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth honno.

Yr hyn rhydym yn ei gasglu

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni gasglu gwybodaeth bersonol oddi wrthych er mwyn cofrestru digwyddiad. Y brif ddeddfwriaeth sy'n rheoli casglu gwybodaeth gofrestru yw Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, Deddf Priodasau 1949 a Deddf Partneriaeth Sifil 2004. Gall fod yn ofyniad cyfreithiol, oherwydd y deddfau hyn, a deddfwriaethau eraill, i ddarparu manylion penodol. Os nad ydych chi'n darparu'r wybodaeth y mae’n ofynnol i chi ei rhoi i ni, gallech fod yn atebol i dalu dirwy, ymysg pethau eraill, neu efallai na fyddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth rydych yn gwneud cais amdano, megis priodas neu bartneriaeth sifil.

Gellir casglu gwybodaeth bersonol oddi wrthych hefyd os ydych yn cyflwyno cais i'r swyddfa hon, er enghraifft am dystysgrif neu i gywiro gwybodaeth mewn cofnod cofrestr.

Caiff yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu ei chadw a'i phrosesu gan swyddogion cofrestru'r ardal gofrestru hon. 

Mae'r uwch-gofrestrydd yn rheolwr data ar gyfer cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau, a gallwch gysylltu ag ef yn y Swyddfa Gofrestru, Forster Road, Castell-nedd SA11 1HL.

Yr awdurdod lleol yw'r rheolwr data ar gyfer cofrestru partneriaethau sifil a gellir cysylltu ag ef drwy'r Swyddog Priodol ar gyfer Materion Cofrestru, Gwasanaethau Cyfreithiol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

Mae'r Cofrestrydd Cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr yn rheolwr data ar y cyd ar gyfer cofrestru genedigaethau, priodasau, marwolaethau a phartneriaethau sifil a gallwch ysgrifennu i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, Trafalgar Road, Southport PR8 2HH.

Swyddog Diogelu Data'r awdurdod lleol yw Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

Yr hyn a wnawn gyda'r wybodaeth a gasglwn

Darperir copi o unrhyw gofnod mewn cofrestr gan y swyddfa hon, yn unol â’r gyfraith, i unrhyw ymgeisydd, ar yr amod ei fod yn darparu digon o wybodaeth i ddod o hyd i'r cofnod perthnasol ac yn talu'r ffi briodol. Gellir rhoi’r copi ar ffurf copi papur ardystiedig (“tystysgrif”) yn unig. Gellir cyflwyno cais am dystysgrif hefyd i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Mae mynegeion ar gyfer digwyddiadau a gofrestrir yn y swyddfa hon ar gael i aelodau'r cyhoedd er mwyn eu helpu i ddod o hyd i'r cofrestriad y gallai fod ei angen arnynt.  Nid yw'r mynegeion hyn yn cael eu harddangos ond gellir gwneud cais i gael copi ohonynt.

Bydd copi o'r wybodaeth a gasglwyd gan swyddog cofrestru hefyd yn cael ei anfon at y Cofrestrydd Cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr er mwyn cadw cofnod canolog o bob cofrestriad.

Gall gwybodaeth gofrestru sy'n cael ei chadw yn y swyddfa hon gael ei rhannu â sefydliadau eraill er mwyn i ni gyflawni’n swyddogaethau, neu er mwyn galluogi eraill i wneud hynny. 

Byddwn yn rhannu gwybodaeth ar sail gyfreithlon at y dibenion canlynol yn unig:

  1. Dibenion ystadegol neu ymchwil
  2. Dibenion gweinyddol gan gyrff swyddogol e.e. sicrhau bod eu cofnodion yn gyfoes er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus
  3. Atal neu ddarganfod twyll, dibenion mewnfudo a phasbort

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am y data y mae'r gwasanaeth cofrestru'n ei chadw, a rhestr lawn o'r sefydliadau y gallwn rannu data â nhw, pwrpas rhannu data a'r sail gyfreithlon dros wneud hynny yn www.npt.gov.uk/16514. Fel arall, gall staff y swyddfa hon roi'r wybodaeth i chi.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol

Mae gennych yr hawl i wneud cais i weld yr wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch, i gael gwybod sut rydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, i gywiro gwybodaeth anghywir (lle caniateir hyn yn ôl y gyfraith) ac i gyfyngu ar ein gwaith o brosesu'ch gwybodaeth bersonol. Mewn rhai amgylchiadau mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu'ch gwybodaeth bersonol.  Ni fydd eich gwybodaeth yn destun gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Caiff gwybodaeth gofrestru ei chadw am gyfnod amhenodol yn unol â'r gyfraith.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am gasglu, defnyddio neu ddatgelu'ch gwybodaeth bersonol, ysgrifennwch at yr Uwch-gofrestrydd yn y Swyddfa Gofrestru, Forster Road, Castell-nedd SA11 1HL.

Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am sut rydym yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Mae manylion ynghylch sut gallwch wneud hyn i’w cael yn https://ico.org.uk