Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd 2024 - Parc Margam 10k

  1. Drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU 2016 (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

  2. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

    • I gynorthwyo gyda threfnu’r digwyddiad a rheoli’r gwaith cofrestru ar ddiwrnod y digwyddiad.

  3. Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r cyngor, o dan y GDPR, eich hysbysu o ba rai o "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 y GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar yr amodau canlynol o Erthygl 6):

    • "Mae prosesu'r data'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract y mae gwrthrych y data'n rhan ohono neu er mwyn cymryd camau ar gais gwrthrych y data cyn ymrwymo i gontract."(Erthygl 6(b) y GDPR).

  4. Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir gennych ar y ffurflen hon yn cael ei chadw gan y cyngor am gyfnod o: Tair blynedd o ddyddiad y digwyddiad.

  5. Sylwer, at ddibenion contractau penodol sy'n gysylltiedig â chi, efallai y bydd angen i ni gael eich data personol gennych ac, os nad ydych yn gwneud hynny, gall fod yn dor-contract (bydd hyn yn golygu na fydd y cyngor yn gallu darparu gwasanaethau a gontractir i chi a/neu hawliad yn eich erbyn am iawndal cytundebol).

  6. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o'ch data personol y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

  7. Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

  8. Sylwer, o dan y GDPR, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:

    1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
    2. Yr hawl i gywiro data gwallus gan reolwr data.
    3. Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig). 
    4. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).

      Gellir cael mwy o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk.  

  9. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein defnydd o'ch data personol, rydych yn dymuno cael mynediad at yr un data neu rydych am wneud cwyn am brosesu'ch data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r cyngor yn y cyfeiriad canlynol: Cyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

  10. Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r cyngor (gweler rhif 9 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a mwy o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y comisiynydd yn www.ico.org.uk.