Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Helpwch gyda chynlluniau i ddatblygu digwyddiadau a gwyliau awyr agored yng Nghastell-nedd a Phort Talbot
    27 Mehefin 2024

    P’un ai ydych chi’n breswylydd, ymwelydd neu drefnwr digwyddiadau, hoffai Cyngor Castell-nedd Port Talbot glywed eich barn a’ch syniadau am ddigwyddiadau a gwyliau awyr agored i’r cyhoedd yn y fwrdeistref sirol dros y ddegawd i ddod er mwyn helpu ffurfio cynlluniau i’r dyfodol a dylanwadu arnyn nhw.

  • Cynnal digwyddiadau codi baner yng Nghastell-nedd a Phort Talbot i nodi Wythnos y Lluoedd Arfog
    21 Mehefin 2024

    GWAHODDIR AELODAU’R CYHOEDD i fynychu digwyddiadau codi baner yng Nghastell-nedd a Phort Talbot ddydd Llun 24 Mehefin, 2024 i nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog.

  • Arddangosfa odidog o flodau gwyllt yn gwobrwyo cynllun Caru Gwenyn y cyngor
    17 Mehefin 2024

    MAE CYNLLUN UCHELGEISIOL gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i drawsnewid ardaloedd o amgylch ei swyddfeydd yn The Quays ym Mharc Ynni Baglan yn ardaloedd o flodau gwyllt yn gwneud cynnydd cyflym.

  • Shopmobility yn cynnig gwasanaethau glan môr a chasglu newydd
    12 Mehefin 2024

    Mae Shopmobility Castell-nedd Port Talbot yn cyflwyno gwasanaeth sgwteri symudedd ar gyfer Glan Môr Aberafan am y tro cyntaf a hefyd yn cynnig gwneud bywyd yn haws i gwsmeriaid drwy ddarparu gwasanaeth casglu o ddrws i ddrws newydd.

  • Annog pleidleiswyr i wneud yn siŵr eu bod yn barod am yr etholiad cyn ei bod yn rhy hwyr
    11 Mehefin 2024

    Mae'n rhaid i unrhyw un sydd am bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau am hanner nos ar 18 Mehefin.

  • Sut mae Castell-nedd Port Talbot yn cydweithio i frwydro yn erbyn hiliaeth
    06 Mehefin 2024

    Mae cynulleidfa fawr mewn digwyddiad yng Nghastell-nedd wedi clywed sut mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i fynd i'r afael â hiliaeth.

  • Yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Meifod, mae'r sylw nawr yn troi at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf ym Margam
    04 Mehefin 2024

    Cymerodd dros 400 o ddisgyblion o ysgolion Castell-nedd Port Talbot ran yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024 ym Meifod, a ddaeth i ben yr wythnos diwethaf.

  • Arddangosfa Fawreddog i Goffáu Glaniadau D-Day mewn Canolfan Siopa
    30 Mai 2024

    Mae Canolfan Siopa Aberafan ym Mhort Talbot wedi dadorchuddio arddangosfa “golygfa glan y môr” fawreddog i goffáu glaniadau D-Day yn Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

  • Kathleen ganmlwydd oed yn cael ei hail fedal am gadw awyrennau Spitfire Prydain yn yr awyr yn ystod y rhyfel
    30 Mai 2024

    Mae menyw 100 oed a ddefnyddiodd ei sgiliau mecanyddol er mwyn helpu i sicrhau bod awyrennau ymladd enwog Prydain, sef y Spitfires, wedi parhau i hedfan yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi cael medal newydd am ei gwaith, yn lle'r un a aeth ar goll flynyddoedd yn ôl.

  • DIGWYDDIAD ARLOESI DIGIDOL YN GOSOD SAFON UCHEL AR GYFER Y DYFODOL
    28 Mai 2024

    Roedd y digwyddiad, lle roedd arbenigwyr yn y diwydiant, darparwyr gwasanaethau yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn bresennol, wedi amlinellu sut y bydd buddsoddiadau mawr mewn arloesi digidol a gwell cysylltedd yn dod â ffyniant parhaus i ranbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe.