Datganiad I'r Wasg
-
Rhaglen sy’n werth £3.23m i atgyweirio a chynnal llwybrau, heolydd, pontydd a draenio ledled CPT07 Mawrth 2023
Mae aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo rhaglen eang gwerth £3.23m o welliannau, gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar gyfer llwybrau cerdded, heolydd, pontydd a systemau draenio ymhob rhan o’r fwrdeistref sirol.
-
Cyngor yn darparu cyllideb gytbwys wrth warchod swyddi a gwasanaethau allweddol06 Mawrth 2023
Cafodd cyllideb gytbwys sy’n gwarchod gwasanaethau hanfodol ac yn diogelu cannoedd o swyddi lleol, ac ar yr un pryd yn cynyddu gwariant mewn meysydd pwysig fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ei gymeradwyo mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ddydd iau (2 Mawrth 2023).
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyhoeddi galwad am brosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU06 Mawrth 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn galw am geisiadau ar gyfer prosiectau sy’n gallu cael eu cyflawni fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).
-
Maer Ieuenctid newydd Castell-nedd Port Talbot, Maddie Pritchard, i ganolbwyntio ar y Gymraeg a'r Amgylchedd03 Mawrth 2023
Mae Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Karen Jones, wedi urddo Maddie Pritchard, sy'n 17 oed, yn Faer Ieuenctid newydd y cyngor, mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhort Talbot ar Ddydd G?yl Dewi 2023.
-
Amgueddfa Cymru – Diwrnod Canfyddiadau’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy gydag Chlwb Archeolegwyr Ifanc CPT28 Chwefror 2023
Mae’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy (Portable Antiquities Scheme – PAS) yn annog dweud am eitemau archeolegol a ganfuwyd gan olrheinwyr metel ac aelodau eraill o’r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Bydd miloedd o eitemau’n cael eu canfod gan olrheinwyr metel yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys 20-30 eitem a nodir fel Trysor.
-
Gwaith ffordd hanfodol yn Nyffryn Afan – newid i’r amserlen28 Chwefror 2023
Oherwydd amgylchiadau na ellid mo’u rhagweld, ni fydd y gwaith o osod wyneb newydd ar Heol Maesteg yn digwydd ddydd Iau 2 Mawrth. Cafodd y gwaith gosod wyneb newydd ei ail-amserlennu, a bydd yn digwydd ddydd Gwener 3 Mawrth yn lle nawr.
-
Amser i gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot benderfynu ynghylch cynigion ar gyfer cyllideb 2023/2423 Chwefror 2023
Mae cynigion Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer cyllideb 2023/24 yn canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau hanfodol a channoedd o swyddi yn wyneb yr heriau sy'n gysylltiedig â'r rhyfel yn Wcráin, COVID-19, Brexit a chwyddiant niweidiol.
-
Digwyddiad Bord Gron yn dechrau rhoi ffocws ar y sgiliau a’r hyfforddiant fydd ei angen ar gyfer chwyldro gwyrdd Cymru23 Chwefror 2023
Fe wnaeth trafodaeth bord gron a fynychwyd gan gryn nifer yng Nghampws y Bae Prifysgol Abertawe ar Chwefror 17 ddechrau archwiliad mawr o’r ffordd orau i wneud yn fawr o’r sgiliau a’r hyfforddiant fydd angen ei weld ar gyfer yr economi werdd sy’n prysur ymestyn yn ne orllewin Cymru.
-
Gwaith ffordd hanfodol fel rhan o gynllun i daclo problemau trafnidiaeth Dyffryn Afan20 Chwefror 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwrw ymlaen â’i gynlluniau i daclo gofidiau am fynediad / trafnidiaeth hanfodol, a allai gael effaith sylweddol ar breswylwyr Abercregan a Glyncorrwg os nad yw’n cael ei wneud.
-
Allwch chi helpu i ddatblygu strategaeth leol newydd Castell-nedd Port Talbot ar gyfer diwylliant?15 Chwefror 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot y gweithio gyda’r ymgynghorwyr celfyddydol Counterculture i ddatblygu strategaeth leol newydd ar gyfer diwylliant, sy’n cwmpasu treftadaeth, chwaraeon, twristiaeth a’r celfyddydau.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 31
- Tudalen 32 o 57
- Tudalen 33
- ...
- Tudalen 57
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf