Datganiad I'r Wasg
Gwaith i Ehangu Sinema ac Uwchraddio Canolfan y Celfyddydau ym Mhontardawe yn Dechrau
Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect i ehangu'r sinema a gwella cyfleusterau yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe.
Mae'r gwaith uwchraddio'n cynnwys ychwanegu sinema newydd a fydd yn dal 70 o bobl, ochr yn ochr â gwelliannau i'r caffi a'r bar, swyddfa docynnau wedi'i hailddylunio, ac amrywiaeth o welliannau cosmetig. Yn ogystal â dyrchafu amwynderau'r ganolfan, bydd y prosiect hwn hefyd yn ei galluogi i ddangos ffilmiau mawr diweddaraf Hollywood, sef rhywbeth nad oedd yn gallu ei wneud o'r blaen.
Mae'r datblygiad hwn yn cefnogi uchelgeisiau'r cyngor fel y cânt eu hamlinellu yn ei Strategaeth Ddiwylliant arloesol, sy'n pwysleisio ymrwymiad y cyngor i fuddsoddi mewn diwylliant er mwyn rhoi hwb i dwf economaidd a llesiant cymunedol.
Mae'r prosiect yn cynnig cyfle nid yn unig i adfywio Canolfan Celfyddydau Pontardawe ond hefyd i leihau ei diffyg gweithredol blynyddol. Mae hefyd yn argoeli i roi bywyd newydd i ganol tref Pontardawe a chyfrannu at adfywio'r ardal leol.
Dywedodd Aelod Cabinet y cyngor dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cyngh. Cen Phillips: “Mae'r cyngor yn cydnabod effaith gadarnhaol y prosiect hwn ar gymunedau lleol yn y cymoedd, gan ei fod yn cynnig gwell cyfleusterau hamdden a diwylliant. Ar ben hynny, mae disgwyl y bydd strwythur staffio diwygiedig Canolfan y Celfyddydau ar ôl iddi gael ei ehangu yn creu swyddi.
“Mae'r penderfyniad i fwrw ymlaen â phrosiect y sinema yn cyd-fynd ag ymrwymiad y cyngor i gyfoethogi diwylliant, sicrhau twf economaidd a gwella llesiant cymunedol. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn edrych ymlaen at gwblhau'r prosiect trawsffurfiol hwn yn llwyddiannus.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys: “Mae'n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru gefnogi'r datblygiad hwn mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
“Ein cenhadaeth yw ei gwneud yn bosibl i'r celfyddydau fod yn bresennol ym mywydau pawb yng Nghymru, a bydd yr estyniad i adeilad presennol Canolfan Celfyddydau Pontardawe wedi'i ddylunio'n unigryw ac yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd yr ased cymunedol pwysig hwn yn y dyfodol.”
Drwy gydol y gwaith adeiladu, bydd y cyngor yn parhau i weithredu yn ôl yr arfer.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau yn: https://pontardaweartscentre.com/cy/