Datganiad I'r Wasg
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Cynnal digwyddiad 'Cefnogi Busnesau yn y Rhanbarth' yn Orendy Parc Margam
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd busnesau lleol i fynychu’r digwyddiad 'Cefnogi Busnesau Castell-nedd Port Talbot a’r Rhanbarth’ cyn bo hir, fydd yn digwydd yn yr Orendy, Parc Margam, Port Talbot ddydd Mawrth, Ebrill 9, o 13:45 tan 17:00.
Mae’r digwyddiad hwn yn cyflwyno cyfle unigryw i fusnesau archwilio llwybrau ar gyfer arloesi, arallgyfeirio a thyfu, yn ogystal â chysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac adnoddau sy’n hanfodol ar gyfer eu datblygiad.
Gall mynychwyr ddisgwyl yr uchafbwyntiau canlynol:
- Gwybodaeth am gyfleoedd ariannu: enillwch fewnwelediad i gyfleoedd cyllido sydd ar gael i gefnogi eich busnes a bwydo’i dwf
- Dewch i gwrdd â Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Phrosiectau Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU: ymgysylltwch yn uniongyrchol â chynrychiolwyr o Fargen Ddinesig Bae Abertawe a phrosiectau Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF) i archwilio cyfleoedd i gydweithio
- Arddangosfa o Brosiectau Llwyddiannus: dewch i weld drosoch eich hun brosiectau ar draws sectorau amrywiol sydd wedi derbyn cyllid UKSPF, gan roi sylw i straeon llwyddiant ac arferion gorau.
- Mewnwelediadau gan Fusnesau Lleol: clywch gan fusnesau llwyddiannus sydd wedi llewyrchu o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot, gan gynnig mewnwelediad gwerthfawr a gwersi a ddysgwyd.
- Llwyfan Rhwydweithio: gwnewch gysylltiadau a phartneriaethau newydd â busnesau a phrosiectau eraill o fewn Castell-nedd Port Talbot
Meddai’r Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Rydyn ni wrth ein bodd o gynnal digwyddiad ‘Cefnogi Busnesau Castell-nedd Port Talbot a’r Rhanbarth’, sy’n pwysleisio ein hymrwymiad i feithrin cymuned fusnes fywiog a llachar."
“Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle unigryw i fusnesau lleol gael gwybodaeth am ariannu, creu cysylltiadau ystyrlon, ac ennill mewnwelediad gwerthfawr oddi wrth fusnesau eraill."
“Edrychwn ymlaen at groesawu busnesau o bob cwr o’r rhanbarth ac o gydweithio i yrru datblygiad economaidd ac arloesi yng Nghastell-nedd Port Talbot.”
Mae agenda’r digwyddiad yn cynnwys sesiynau cyflwyno gwybodaeth a chyfleoedd i rwydweithio, gan gynnwys:
13:45 - 14:00: Cyrraedd
14:00 - 14:15: Sylwadau agoriadol gan Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Nicola Pearce, Cyfarwyddwr Amgylchedd ac Adfywio, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
14:15 – 14:25: Cyflwyniad gan Dr. Jon Burnes: Cyfarwyddwr Portffolio, Bargen Ddinesig Bae Abertawe
14:25 - 14:35: Cyllid a Chefnogaeth sydd ar gael gan NPTCBC: Adil Piromohamed
14:35 - 14:45: Mewnwelediadau gan Innovate UK UKRI: Dr. Louise Jones, Pennaeth Ymchwil Drosi
14:45 - 15:00: Taflu Golau ar Fusnes Lleol: Rototherm
15:00 - 17:00: Sesiwn Rwydweithio
17:00: Clo
I gadw eich lle yn y digwyddiad hwn, archebwch drwy gyfrwng y ddolen hon os gwelwch yn dda: https://www.eventbrite.co.uk/e/supporting-businesses-in-neath-port-talbot-and-the-region-tickets-861575434317?aff=oddtdtcreator
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Heidi Harries ar heiharries@carmarthenshire.gov.uk.