Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Hysbysiad Cau Heol Dros Dro – A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf

Gan ddechrau o ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024, bydd darn o ffordd ar gau dros dro (gweler map) ar ran o Heol Aman, yr A4069 ym Mrynaman Isaf, ar gyfer gwneud gwaith peirianneg sifil hanfodol gan yr Awdurdod Glo. Bydd y gwaith yn cymryd rhyw dair wythnos i’w gwblhau.

Hysbysiad Cau Heol Dros Dro – A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf

Mae’r gwaith gan yr Awdurdod Glo yn ofynnol i ddatrys problem fydd yn sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor yr heol, o ganlyniad i ddymchwel y tir a achoswyd gan waith glofaol hanesyddol o dan yr wyneb.

Ni fydd modd i gerbydau basio darn o’r A4069 Heol Aman, gan ddechrau o’r gyffordd â Heol y Glyn, ac yn ymestyn rhyw 250 metr tua’r gogledd.

Bydd dargyfeiriad i draffig ar waith gan ddefnyddio’r A4069, A4068, A4067, ac A474. Bydd arwyddion wedi’u gosod i’ch arwain ar hyd llwybrau amgen.

Bydd mynediad i gerddwyr a cherbydau argyfwng yn parhau i fod ar agor.

Effeithir ar y gwasanaethau bws lleol a’r teithiau cartref i ysgol canlynol:

·       Bydd First Cymru – Gwasanaeth 124 ond yn gwasanaethu Rhydaman i Frynaman Isaf, gan droi yn Heol Glyn / Y Banwen. 

·       Bydd Adventure Travel – Gwasanaeth 64 i Rydaman yn cael eu dargyfeirio drwy Bontardawe yn y ddau gyfeiriad. Fydd y teithiau hyn ddim yn gwasanaethu Cwm-twrch Isaf, Cwm-twrch Uchaf, Ystradowen, Cwmllynfell, Rhosaman na Brynaman Uchaf. Cysylltwch ag Adventure Travel i gael eu hamserlen dros dro.

·       Bydd DANSA – Gwasanaeth 167 yn cael ei atal dros dro, ac yn troi’n ôl yn Heol Glyn, gan ddychwelyd fel Gwasanaeth X26.

·       First Call Travel – Llwybr 973 i YG Ystalyfera o Frynaman Isaf. Bydd y daith yn dechrau 41 munud yn gynt am 07.15am yn hytrach na’r amser arferol, sef 07.54am.  Y man codi cyntaf yw Heol Barry, yna’r Banwen. Bydd yn rhaid i’r cerbyd gwblhau’r dargyfeiriad wedyn, drwy Bontardawe, ac yna casglu yn Heol yr Orsaf, Brynaman am 08.00am.  Bydd y gwasanaeth bws yn parhau â’i amserlen arferol oddi yno.

I gael mwy o ddiweddariadau am newidiadau i’r gwsanaethau bws, ewch i Traveline.Cymru neu ffoniwch 0800 464 0000.

hannwch hyn ar: