Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Adran AD y Cyngor yn y ras i ennill tîm mewnol gorau, a dau aelod o staff yn cystadlu am statws ‘seren ar gynnydd’

Mae adran Adnoddau Dynol Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael eu rhoi ar restr fer y Tîm Mewnol Gorau yng ngwobrau blynyddol Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) Cymru.

Staff y Cyngor

Ac mae dau o dîm AD y cyngor, Lucy Miles-Colwell a Robyn Mort ymysg deg o bobl a enwebwyd ar gyfer y teitl Seren Ar Gynnydd y Diwydiant Pobl.

Mae’r gwobrau, y mae’u seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Gwener, Mawrth 15 2024, yn dathlu’r bobl sy’n parhau i wella AD a safonau datblygu pobl ledled y wlad.

Gan sôn am wobrau eleni, dywedodd pennaeth y CIPD yng Nghymru, Lesley Richards: “Mae safon yr enwebiadau a dderbynion ni eleni’n anhygoel, mae’n rhagorol gweld cynifer o fusnesau a sefydliadau’n ail-ymgeisio, yn ogystal ag ymgeiswyr newydd. Rydyn ni wedi cael y nifer fwyaf erioed o geisiadau eleni, gan beri fod y gystadleuaeth yn ffyrnicach nag erioed o’r blaen.”

Yn ôl Sheenagh Rees, Pennaeth Pobl a Datblygu Trefniannol Cyngor Castell-nedd Port Talbot” “Yng Nghastell-nedd Port Talbot rydyn ni’n gweithio fel un i ddarparu gwasanaethau sy’n rhoi gwerth ardderchog am arian i bob un o’n 140,000 o breswylwyr. Mae ein gwaith yn cyffwrdd â’r rhan fwyaf o agweddau ar fywydau pobl. O wasanaethau cymdeithasol ac ysgolion, i dai a heolydd, i ddenu buddsoddiad i sicrhau fod Castell-nedd Port Talbot yn lle gwych i fyw ynddo, gweithio ynddo ac ymweld ag ef.

“Drwy weithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddarparu’r canlyniadau gorau posib, nawr ac i’r dyfodol, ledled Castell-nedd Port Talbot – a’n pobl ni ein hunain fydd yn gwneud i hynny ddigwydd. Dyna pam rydyn ni wedi datblygu Strategaeth Dyfodol Gwaith, cynllun gweithlu strategol ar gyfer 2022 – 2027.

“Datblygwyd y cynllun er mwyn cyflawni’r uchelgais a amlinellwyd yng Nghynllun Corfforaethol Adfer, Ailosod, Adnewyddu 2022–2027 y cyngor. Rydyn ni’n credu taw pobl sy’n gwneud y gwahaniaeth. Byddwn ni’n sicrhau fod ein pobl yn cael ei harwain yn dda, eu cefnogi’n dda, eu hymddiried a’u cydnabod am y cyfraniad maen nhw’n ei wneud.

“Bydd pobl yn cael eu trin yn deg, â pharch, a hefyd cânt eu hannog i gyflwyno syniadau ynghylch sut y gallwn ni wella beth rydyn ni’n ei wneud. Byddwn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli’i gymunedau a bydd gan bobl gyfleoedd cyfartal i symud drwy’r rhengoedd yn ein sefydliad. Byddwn ni’n datblygu diwylliant ble mae pobl yn atebol am yr hyn a wnânt a sut maen nhw’n gwneud pethau, ac yn cael eu cydnabod am hynny hefyd.

“Rwyf wrth fy modd o gael dangosiad mor amlwg yn enwebiadau Gwobrau CIPD Cymru 2024.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Karen Jones: “Mae rhaglen Dyfodol Gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yma yng Nghastell-nedd Port Talbot. Cydnabyddiaeth gan CIPD yw'r eisin ar y gacen. Pob lwc i bawb yn y rownd derfynol!”

Ers dros gan mlynedd bu’r CIPD yn hyrwyddo gwell gwaith a bywyd gwaith drwy osod safonau proffesiynol ar gyfer AD a datblygu pobl, yn ogystal â gyrru newidiadau cadarnhaol ym myd gwaith.

Dyma’r unig gorff yn y byd a all ddyfarnu statws siartredig i weithwyr proffesiynol unigol ym maes AD ac Arwain a Datblygu, ac mae’i ymchwil annibynnol, a’i fewnwelediad yn galluogi’r CIPD i fod yn gynghorwyr a ymddiriedir gan lywodraethau a chyflogwyr.

hannwch hyn ar: