Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Dwy fenyw o Gastell-nedd Port Talbot fu’n datrys codau gan helpu i fyrhau’r Ail Ryfel Byd yn dathlu’u pen blwydd yn 100

Mae dwy wraig fu’n gweithio fel datryswyr codau ym mhlasty hollol gyfrinachol Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi dathlu’u pen blwydd yn gant oed mewn parti ar y cyd ym Mhort Talbot.

Mrs Kath Morris (cwith, siwmper las) yn Neuadd Blwyf St Theodore gyda’r Capten Williams a Mrs Gwenfron Picken.

Mae Mrs Gwenfron Picken oedd yn 100 ar 29 Chwefror 2024, a Mrs Kath Morris a gyrhaeddodd ei chanrif wythnos yn ddiweddarach ar 7 Mawrth, ill dwy yn dod o Bort Talbot, ond mae Mrs Morris bellach yn byw mewn cartref gofal yng Nghastell-nedd.

Yn ystod dyddiau dyrys yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd y ddwy yng nghabanau a blociau eiconig Bletchley Park, Swydd Buckingham, plasty o Oes Fictoria oedd yn gartref i Ysgol Codau a Seiffrau’r Llywodraeth – canolfan datrys codau’r Cynghreiriaid.

Gweithiodd y staff ymroddedig yno’n ddiflino i dreiddio i fol codau cudd a diawledig o gymhleth Grymoedd yr Echel – ac yn fwyaf pwysig seiffrau Almaenig Enigma a Lorenz.

Er i Gwenfron a Kath adael Port Talbot tua’r un adeg i ymuno â’r ymdrech i ddatrys codau yn Bletchley Park, doedden nhw ddim yn adnabod ei gilydd tan iddyn nhw gyfarfod yn y parti pen blwydd a drefnwyd i’r ddwy ohonynt gan Jackie Bates ac Undeb y Mamau lleol yn Neuadd Blwyf St Theodore, Port Talbot.

Cyfarchwyd y ddwy yn Neuadd y Plwyf gan y Capten Huw Williams MBE DL RLC, ar ran Swyddfa Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, a Finola Pickwell, Swyddog Cyswllt Rhanbarthol y Lluoedd Arfog (AFLO) dros yr ardal hon.  

Meddai Finola Pickwell: “Roedd hi’n hyfryd gweld y ddwy wraig yn cyfarfod o’r diwedd, ar ôl i’r ddwy weithio yn ystod y rhyfel yn Bletchley Park.

“Chwaraeodd y rhai a wasanaethodd yn Bletchley Park ran allweddol wrth fyrhau’r Ail Ryfel Byd drwy roi ton o wybodaeth filwrol o safon uchel iawn i’r Cynghreiriaid, a roddodd y blaen iddyn nhw ar dir, môr ac yn yr awyr.”

Er bod gan lawer o’r datryswyr codau raddau prifysgol, roedd llawer o’r rhai a alwyd i weithio yn Bletchley Park yn recriwtiaid clyfar, galluog oedd wedi cael addysg uwchradd dda.  

hannwch hyn ar: