Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Mae'n amser paratoi ar gyfer Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot 2024!

Mae digwyddiad blynyddol Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod arwyr di-glod o bob cwr o CNPT sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.

Mae'n amser paratoi ar gyfer Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot 2024!

Caiff y digwyddiad ei gynnal yn Yr Orendy, Parc Gwledig Margam, nos Fercher 24 Ebrill 2024. Prif noddwyr y gwobrau eleni yw Tata Steel UK a Trade Centre Wales. 

Mae'r enwebiadau bellach ar agor. Felly, os ydych chi'n adnabod unigolyn neu grŵp cymunedol sy'n haeddu cael ei gydnabod, gwnewch enwebiad heddiw drwy fynd i: www.nptawards.co.uk

Mae'r gwobrau mewn 11 o gategorïau:

Gwobr Cymydog Da (gydag Associated British Ports)
Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n mynd allan o'i ffordd i helpu'r rhai sy'n byw o'i gwmpas? Enwebwch yr unigolyn hwnnw er mwyn iddo gael ei wobrwyo am bopeth y mae'n ei wneud. Gallai fod yn berson sy'n edrych ar ôl rhywun ar ei stryd. Gallai fod yn grŵp o bobl sy'n gwneud gwahaniaeth gyda'i gilydd yn eu hardal gyfagos. Esboniwch pwy maen nhw'n ei helpu, a sut, a pham rydych chi'n credu eu bod nhw'n haeddu gwobr.

Gwirfoddolwr y Flwyddyn (gyda Tata Steel UK)
Ar agor i unigolyn neu grŵp o wirfoddolwyr o unrhyw oed sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i'w cymuned leol. Esboniwch pam rydych chi'n credu bod eu gwaith mor bwysig, a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud.

Gwobr yr Amgylchedd a Threftadaeth
Ar agor i unigolyn neu grŵp o bobl y mae eu gwaith neu eu gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i'n hamgylchedd neu'n treftadaeth leol. O grwpiau neu unigolion sy'n helpu i lanhau traethau, i'r bobl hynny sy'n frwd dros hyrwyddo a diogelu ein treftadaeth leol werthfawr, dylai eich enwebiadau esbonio pam rydych chi'n credu bod eu gwaith mor bwysig a buddiol i bob un ohonom.

Gwobr Plentyn Dewr (gyda Trade Centre Wales)
Ar agor i blant neu bobl ifanc o dan 18 oed sydd wedi dangos dewrder eithriadol. Efallai eu bod wedi brwydro yn erbyn y ffactorau i oresgyn heriau neu wedi dangos cryfder a phenderfyniad drwy gyfnod anodd. Sut rydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan eu dewrder?

Gwobr y Celfyddydau Perfformio (gyda Buffoon Media)
Mae Castell-nedd Port Talbot yn falch o'i sector Celfyddydau Perfformio bywiog. Mae'r wobr hon ar agor i enwebiadau ar gyfer unigolion, grwpiau neu gymdeithasau. Rhowch wybodaeth gefndir am y person neu'r grŵp rydych chi'n ei enwebu a nodwch gyflawniadau a chynnydd allweddol.

Gwobr Cefnogi Addysg (gyda Phrifysgol Abertawe)
Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Mae athrawon a staff wedi dangos gofal, ymroddiad a phenderfyniad anhygoel er mwyn cefnogi pobl ifanc drwy gyfnod heriol. Dyma eich cyfle chi i gydnabod a diolch i athro, athrawes neu aelod o staff sydd wedi eich helpu chi neu rywun yn eich teulu i lwyddo.

Seren Chwaraeon y Flwyddyn (gyda Pump Supplies)
Enwebwch seren, clwb neu dîm chwaraeon lleol sydd wedi cyflawni rhywbeth arwyddocaol ym myd y campau, boed ar lefel leol neu genedlaethol, neu hyd yn oed ar lefel ryngwladol. Dywedwch wrthym am eu cyflawniadau a pham rydych chi'n credu eu bod nhw'n arbennig.

Pencampwr Cymunedol 
Ar agor i unigolion neu grwpiau o bobl sydd wedi gweithio i wella bywyd cymunedol. Beth bynnag maen nhw'n ymwneud ag ef, dewch i ni gydnabod eu hymdrechion a'u hymroddiad â'r wobr hon. Dywedwch wrthym am eu gweithredoedd, eu hymroddiad a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud.

Gwobr Iechyd a Llesiant (gyda Centregreat)
Ar agor i grwpiau, sefydliadau neu unigolion lleol y mae eu gwaith, eu gweithredoedd neu eu gweithgarwch ymgysylltu'n helpu i hybu iechyd a llesiant. Dywedwch wrthym am yr hyn maen nhw'n ei wneud a phwy maen nhw'n ei helpu.

Gwobr Dewrder Eithriadol
Gellir dangos dewrder mewn llawer o ffyrdd. O weithredoedd sy'n achub bywydau i oresgyn adfyd a heriau personol. Pwy yw'r person mwyaf dewr rydych chi'n ei adnabod? Enwebwch yr unigolyn hwnnw a dewch i ni gydnabod ei gyflawniadau.

Gwobr Cyfraniad i Elusen
Bydd y wobr hon yn talu teyrnged i berson neu grŵp arbennig y mae ei waith dros elusen neu achosion da wir yn gwneud gwahaniaeth. O godi arian i waith gwirfoddol ymroddedig, dywedwch wrthym beth sy'n gwneud y sawl rydych chi'n ei enwebu mor arbennig.

Dywedodd Rheolwr Materion Cyhoeddus a Chymunedol Tata Steel UK, Lewis Clark: “Mae Tata Steel UK yn falch o noddi Gwobrau Dinasyddion Castell-nedd Port Talbot unwaith eto eleni, gan gynnwys y categori Gwirfoddolwr y Flwyddyn. 

“Mae'r noson wobrwyo bob amser yn ddigwyddiad cofiadwy ac mae'n cynrychioli'r gymuned leol ar ei gorau. 

“Er bod Tata Steel UK yn trawsnewid ei weithrediadau ar hyn o bryd, rydym yn dal yn gwbl ymrwymedig i'r ardal leol ac yn edrych ymlaen at ddathlu cyflawniadau rhyfeddol unigolion a sefydliadau o bob rhan o Gastell-nedd Port Talbot unwaith eto.” 

Trade Centre Wales, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd, Mark Bailey : “Ers i ni agor ein harchfarchnad geir gyntaf ym Mynachlog Nedd yn ôl yn 2000, mae Trade Centre Wales wedi dod yn rhan annatod o wead ein cymuned leol. 

“Pleser o'r mwyaf yw cyhoeddi ein bod yn un o brif noddwyr Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot a hyrwyddo'r arwyr di-glod hynny sy'n gwneud i'n cymunedau ddisgleirio. Mae'n anrhydedd cael chwarae ein rhan mewn digwyddiad sy'n taflu goleuni ar y ffigurau ysbrydoledig hyn ac arddangos calon ein cymuned.”


 

hannwch hyn ar: