Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cyllideb Castell-nedd Port Talbot 2024/25 wedi’i chymeradwyo i flaenoriaethu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a’r amg

MAE CYFARFOD LLAWN o Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a gynhaliwyd ddydd Iau, 7 Mawrth, 2024, wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer cyllideb 2024/2025 y fwrdeistref sirol.

Y cyngor yn cymeradwyo cyllideb ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, sy'n blaenoriaethu addysg, gwasanaethau cymdeithasol a'r amgylchedd

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Hon oedd y gyllideb anoddaf i'r cyngor hwn ers datganoli ond, yn dilyn adolygiad helaeth o'r holl gyllidebau ym mhob rhan o'r cyngor, mae wedi cael ei chyflawni heb y toriadau sylweddol i swyddi a gwasanaethau sydd i'w gweld mewn llawer o rannau eraill o Gymru.”

Bydd cyllideb 2024/25 yn buddsoddi:

£139.6m mewn Addysg ac Ysgolion (cynnydd o 4.4%), er mwyn darparu gwasanaethau addysg i tua 22,000 o blant a phobl ifanc, cynllunio mwy o leoedd ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol, rhoi cymhorthdal ar gyfer costau gweithredu'r cyfleusterau hamdden dan do yng Nghastell-nedd Port Talbot a weithredir gan Celtic Leisure Ltd a helpu i leddfu'r pwysau sylweddol sydd ar wasanaethau Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol.

£113.699m mewn Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol (cynnydd o 7.7%), a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth, yn cynnal gweithlu gofal cymdeithasol sefydlog, yn cynyddu capasiti ym maes tai er mwyn cyflawni'r rhaglen uchelgeisiol a gymeradwywyd gan y Cabinet i atal mwy o bobl rhag cael eu gwneud yn ddigartref ac yn lleihau'r amser y bydd pobl yn ei dreulio mewn llety dros do a llety argyfwng.

£46.515m yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ac Adfywio, a fydd yn golygu y gellir parhau â'r rhaglen Adfer, Glanhau a Glasu a ddechreuodd yn 2023/24, cyflawni'r strategaeth rheoli gwastraff (nad yw'n cynnwys bwriad i newid i gasglu gwastraff gweddilliol bob tair wythnos yn 2024/25), a gweithio ar ddatgarboneiddio er mwyn lleihau'r defnydd o ynni, gwella effeithlonrwydd ynni a newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Mae'r gyllideb hon hefyd yn diogelu capasiti'r is-adrannau rheoleiddio, adfywio a thrafnidiaeth er mwyn cynnal momentwm o ran cyflawni prosiectau seilwaith a rhaglenni datblygu economaidd addawol gan gynnwys prosiectau gwerth miliynau o bunnau a fydd yn creu swyddi, sef canolfan profi rheilffyrdd GCRE, cyrchfan hamdden Wildfox a'r Porthladd Rhydd Celtaidd.

hannwch hyn ar: